Davies, Ryan (1937-77)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:55, 31 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed yr actor a’r diddanwr poblogaidd amryddawn, Ryan Davies, yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin, ac fe’i magwyd yno ac yn ddiweddarach yn Llanfyllin. Ar ôl treulio dwy flynedd yn yr RAF cafodd ei hyfforddi’n athro yn y Coleg Normal, Bangor, cyn mynychu’r Central School of Speech and Drama yn Llundain.

Yn ystod yr 1960au bu’n athro am chwe mlynedd mewn ysgol uwchradd yn Croydon. Yr un pryd, roedd yn dechrau dod yn wyneb cyfarwydd yn sgil ei berfformiadau aml yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mewn rhaglenni teledu ar gyfer y BBC a TWW. Yn 1961 priododd ferch y bu’n agos ati ers dyddiau plentyndod, Irene Williams, a gadawodd y byd dysgu yn 1966 er mwyn canolbwyntio ar wneud gyrfa iddo’i hun ym maes adloniant.

Ymddangosodd Ryan Davies am y tro cyntaf fel actor proffesiynol ar lwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1966, a hynny yn y ddrama Pros Kairon gan Huw Lloyd Edwards (1916–75). Ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd y brif ran yn Y Drwmwr, y ddrama deledu gyntaf yn y Gymraeg i gael ei darlledu gydag is-deitlau.

Fodd bynnag, yn sgil ei bartneriaeth gyda’r actor a’r cyflwynydd Ronnie Williams (1939–97) o Gefneithin y daeth yn wirioneddol adnabyddus, partneriaeth sydd wedi’i chymharu â’r digrifwyr Morecambe and Wise yn Saesneg. Ryan a Ronnie, a ddangoswyd ar y BBC o 1967 ymlaen – gweledigaeth Meredydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru ar y pryd – oedd y gyfres gomedi fwyaf poblogaidd erioed ar deledu Cymraeg. Bu fersiwn Saesneg ohoni ar rwydwaith y BBC rhwng 1971 ac 1973. Yr un bartneriaeth a welwyd mewn cyfres fer o’r enw The Good Old Days a wnaed yn Blackpool. Yn yr 1970au, Ryan Davies oedd yn portreadu’r deheuwr ‘Fe’ yn y gomedi sefyllfa dra phoblogaidd Fo a Fe, ochr yn ochr â Guto Roberts a chwaraeai’r gogleddwr.

Roedd gan Ryan Davies yrfa ar wahân i hyn hefyd, fel pianydd, cyfansoddwr a diddanwr ar ei liwt ei hun, ac ymhlith ei ganeuon – llawer ohonynt yn boblogaidd o hyd – y mae ‘Ceiliog y Gwynt’, ‘Nadolig Pwy a Ŵyr’ a ‘Blodwen a Mary’. Yr oedd hefyd yn canu’r delyn, ac mae recordiad cofiadwy a digrif ohono’n canu cerdd dant gan gyfeilio iddo’i hun wrth sôn am hanes Madog yn hwylio i America, i’r gainc ‘Llwyn Onn’. Er mai caneuon generig ysgafn o’r cyfnod sy’n perthyn i’w allbwn, roedd ganddo’r gallu i gyfathrebu mewn arddull ddwys a phwerus hefyd, fel mae’r gân ‘Pan fo’r Nos yn Hir’ yn ei brofi. Recordiwyd un o’i gyngherddau i’w ryddhau ar record a bu mynd mawr ar Ryan at the Rank, sef clwb nos y Top Rank yn Abertawe. Yn 1971 ef oedd yr Ail Lais yn y ffilm Under Milk Wood, yng nghwmni Richard Burton (Y Llais Cyntaf), Peter O’Toole ac Elizabeth Taylor.

Bu Ryan a Ronnie mewn pantomeimiau gyda’i gilydd yn Theatr y Grand, Abertawe, ond yn y man penderfynasant ddirwyn eu partneriaeth i ben. Yn 1975 ymddangosodd Ryan mewn pantomeim, Mother Goose, heb Ronnie. Yn 1976 fe’i gwelwyd ar lwyfan yng nghomedi The Sunshine Boys a dwy ddrama Gymreig, Welsh Not a Merthyr Riots. Y flwyddyn ganlynol actiodd yn y pantomeim Jack and the Beanstalk a wedyn yn Babes in the Wood. Roedd y gyfres deledu Ryan yn gyfle iddo gyfuno ei ddawn gerddorol a’i ddawn gomedi, a chyflwynodd raglen deyrnged i Saunders Lewis ar HTV, A Necessary Figure. Ar y radio roedd ganddo ran yn y ddrama The Breakers a chwaraeodd ran twrist Americanaidd yn rhaglen deledu BBC Cymru How Green Was My Father.

Dim ond 40 oed oedd Ryan Davies pan fu farw’n sydyn yn ninas Buffalo, yn yr Unol Daleithiau, ar 22 Ebrill 1977. Yn ei farwolaeth, collodd Cymru’r 20g. un o’i thalentau disgleiriaf.

Jon Gower a Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • ‘Nadolig? pwy a ŵyr!’ [sengl] (Dryw 1108, 1971)
  • Ryan at the Rank (Black Mountain BM2, 1975)
  • Ryan at the Rank Vol. 2 (Black Mountain BM47, 1980)
  • Ffrindiau Ryan (Sain SCD2634, 2010)

Llyfryddiaeth

  • Rhydderch Jones, Ryan: A Biography (Talybont, 2003)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.