Deialog

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Deialog (o'r Groeg ‘dia’ = rhwng a ‘logos’ = gair) yw sgwrs neu ymddiddan rhwng dau neu fwy o gymeriadau; cymharer â ‘monolog’ ar gyfer un cymeriad. Gellid cynnwys deialog mewn unrhyw gyfrwng creadigol, boed yn nofel, stori fer, barddoniaeth neu sgript. Mewn cyfrwng dramatig, lleferir y ddeialog gan actorion a gall y ddeialog fod wedi ei pharatoi o flaen llaw neu ei byrfyfyrio. Diffinnir y term gan R, Emrys Jones yn y gyfrol Termau’r Theatr fel, ‘Sgwrs rhwng dau neu ychwaneg o bersonau ar y llwyfan.’ Gall nifer o unigolion lefaru deialog gyda’i gilydd ar ffurf Corws. Gall ieithwedd deialog fod yn un llafar, megis deialog Wil Sam (W. S. Jones) a Meic Povey, neu’n fydryddol megis deialog Saunders Lewis, neu’n gyfuniad o wahanol ieithweddau. Dywed Emyr Edwards yn ei gyfrol Sut i Greu Drama Fer mai’r ‘ddawn i ysgrifennu deialog dda yw trysor pennaf y dramodydd’. Dywed ymhellach: 'Trwy’r iaith a ddefnyddir i lunio deialog y mae’r dramodydd yn creu cyfrwng i’r cymeriadau eu mynegi eu hunain yn unigol ac i gymeriadau eraill. Trwy’r iaith a ddefnyddir i lunio’r ddeialog y bydd y dramodydd yn galluogi’r actor i’w fynegi ei hun yn glir ac yn uniongyrchol i’r gynulleidfa.'

Gall fod i’r ddeialog is-destun os dymuna’r awdur hynny, hynny yw, rhwng llinellau’r ddeialog y ceir y gwir ystyr. Yn ôl Emyr Edwards: 'Felly, y mae deialog yn strwythur cymhleth iawn. Mae angen gofal arbennig i fedru llunio deialog sydd yn cyfleu y gwahanol lefelau o ystyr, o emosiwn, ac o weithredu a geir yn natblygiad y chwarae.'


Manon Wyn Williams

Llyfryddiaeth

Jones, R. Emrys (1964), Termau’r Theatr (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Edwards, E. (2012), Sut i Greu Drama Fer (Bangor: Cyhoeddiadau'r Gair).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.