Delysé, Cwmni Recordio

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:23, 6 Gorffennaf 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Sefydlwyd y Delysé Recording Company, Llundain, ar 28 Gorffennaf 1954 gan Isabella Wallich, née Valli (1916–2000), nith y cynhyrchydd recordiau arloesol a blaenllaw, Fred W. Gaisberg (1873–1951). Fe’i cynghorwyd ganddo i recordio cerddoriaeth yr oedd y cwmnïau mawr yn ei hesgeuluso. Yn 1952, a hithau’n rheolwr cerddorfa dros dro i Gerddorfa’r Philharmonia (dan arweiniad Herbert von Karajan) ar eu taith Ewropeaidd gyntaf wedi’r rhyfel, cyfarfu ag Osian Ellis a David Ffrangcon Thomas a’u clywed yn siarad am draddodiad barddol a cherddorol Cymru. Dyna pryd y penderfynodd mai cerddoriaeth Gymreig a gâi’r lle blaenllaw ar ei label recordiau newydd.

Welsh Folk Music (E.C. 3133) oedd ei chynhyrchiad cyntaf, disg hir 7” 33¹/³ rpm a recordiwyd ym mis Gorffennaf 1954 yn y Conway Hall, Red Lion Square, Llundain, ac arni roedd Ellis a Ffrangcon Thomas yn perfformio detholiad o drefniannau Ellis o ganeuon gwerin, gan gynnwys pedwar gosodiad cerdd dant i’r delyn a’r llais. Ar ail ddisg, Songs of Wales, perfformiai Brychan Powell gydag adran linynnau Cerddorfa Cymru, a oedd newydd ei ffurfio. Recordiwyd Powell hefyd mewn gweithiau operatig a chyda Chôr Ieuenctid Cymry Llundain dan arweiniad Kenneth Thomas ac i gyfeiliant Cyril Anthony (organ). Naws ysgafnach oedd i recordiau gan y tenor David Hughes, band a chôr y Gwarchodlu Cymreig, a dwy ddisg 7” EP boblogaidd iawn o raglen TWW The Land of Song, gydag Ivor Emmanuel a nifer o blant.

Ymhlith artistiaid eraill yr oedd Côr Godre’r Aran; Côr Meibion y Rhos; Geraint Evans (a recordiwyd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yn 1961 gyda Cherddorfa Gymreig y BBC); The Shelly Singers, The Lyrian Singers a’r Glendower Singers, y cyfan dan arweiniad Mansel Thomas (1909–86); ac, yn 1962, Meredydd Evans gydag Wythawd Tryfan, Maria Korchinska (telyn) a Phyllis Kinney.

Ar 3 Mai 1963 recordiwyd Cymanfa Ganu yn Neuadd Albert gyda Terry James ( arweinydd), Cyril Anthony (organ), ac Emyr Jones yn darllen drwy bob emyn cyn iddo gael ei ganu. Y canlyniad oedd A Nation Sings – Five Thousand Voices. Recordiwyd ail ddisg yn 1965. Dechreuwyd ar gyfnod hir o gydweithio â Wyn Morris (1929–2010) yn 1966 gyda’i recordiad o’r cylch o ganeuon symffonig Des Knaben Wunderhorn gan Gustav Mahler, gyda Janet Baker, Geraint Evans a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain.

Roedd parch ac enw da yn perthyn i gynnyrch Delysé oherwydd ei broffesiynoldeb, ei arloesedd, ei repertoire ac ansawdd y cynhyrchu. Roedd ymrwymiad y cwmni i Gymru a’i cherddoriaeth yn amlwg, ac am flynyddoedd lawer bu ganddo stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu gan y cwmni gysylltiad byrhoedlog â Pye Records rhwng 1969 ac 1971 ac wedi hynny gwnaed rhagor o recordiadau o Mahler gyda Wyn Morris, gan gynnwys ei Nawfed Symffoni yn 1978, ond daeth y cwmni i ben i bob pwrpas pan gyhoeddwyd ei arianwyr yn fethdalwyr yn 1979, er y bu nifer bychan o brosiectau wedi hynny. Rhyddhawyd sawl eitem o gatalog Delysé yn ddiweddarach dan drwydded gan MSD, Collins, Pickwick, Carlton Classics a Decca, ac mae nifer wedi ymddangos hefyd ar label Sain.

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • Isabella Wallich, Recording My Life… (Llundain, 2001)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.