Digwyddiad dyddiadur

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: On diary

Digwyddiad newyddion wedi’i drefnu ymlaen llaw. Mae’r newyddiadurwr yn cael rhybudd o ddigwyddiad ac yn ei nodi yn ei ddyddiadur, neu os yw’r e-bost yn cael ei yrru at yr uned casglu newyddion, mae’n cael ei nodi yn nyddiadur ar-lein yr adran. Mae’r digwyddiad felly ‘yn y dyddiadur’ a chaiff sylw ar y diwrnod penodol hwnnw.

Yn wahanol i stori na roddir gwybod amdano o flaen llaw, sef un ‘oddi ar y dyddiadur’ (off diary), mae golygyddion newyddion yn gwerthfawrogi ‘digwyddiad dyddiadur’ am eu bod yn caniatáu i newyddiadurwyr ac adnoddau cynorthwyol gael eu defnyddio’n fwy effeithlon. Mae’r enghreifftiau o ‘digwyddiad dyddiadur’ yn cynnwys areithiau mawr, cynadleddau i’r wasg, achosion llys, cyfleoedd i dynnu lluniau ac ati.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.