Dirmyg llys

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:12, 1 Awst 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Contempt of Court

Mae’n drosedd y gellir ei chosbi gyda dirwy a/neu garchar am gyflawni gweithred y mae’r llys yn credu ei bod yn niweidiol i fuddiannau’r broses gyfreithiol. Tra bod dehongliadau’n amrywio o un wlad i’r llall, bwriad y darpariaethau dirmyg llys yw sicrhau bod y diffynnydd yn cael achos llys teg, ac mae’r darpariaethau dirmyg llys felly’n gosod cyfyngiadau ar yr hyn a all gael ei adrodd, ynghyd â sut a phryd. Felly, mae’n rhaid i newyddiadurwyr a golygyddion gymryd gofal sylweddol wrth ymdrin ag achosion llys er mwyn sicrhau na fydd canlyniad yr achos yn cael ei effeithio.

Mae’n ddirmyg i gyhoeddi unrhyw beth a all arwain at y perygl y bydd yr achos yn cael ei rwystro, neu’r perygl y crëir rhagfarn ddifrifol yn ei erbyn. Mae hefyd yn drosedd i ddatgelu unrhyw agwedd ar drafodaethau’r rheithgor neu i ddod ag offer recordio i mewn i’r llys.

Mae rhai’n dadlau y gall y cyfyngiadau hyn gyfyngu’n ormodol ar ryddid y wasg, e.e. pan fydd newyddiadurwr yn cael ei garcharu am wrthod datgelu enw’r ffynhonnell neu am adrodd manylion y maen nhw’n eu hystyried yn berthnasol ac yn haeddu sylw. O ganlyniad, mae dadleuon dwys wedi esgor ar y syniad bod angen sicrhau cydbwysedd priodol rhwng hawl y diffynnydd i achos teg ar y naill law, a hawl y newyddiadurwr i weithredu yn unol â lles y cyhoedd (public interest) ar y llaw arall. Mae’r egwyddorion hyn yn y fantol ar hyn o bryd oherwydd ei bod hi’n fwyfwy anodd i blismona’r gwasanaethau newyddion 24 awr, y blogwyr a’r gwefannau cymdeithasol, ac i nodi pob achos lle y mae’r cyfryngau’n mynd yn groes i’r cyfyngiadau.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.