Dirwest, Canu

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Datblygodd y mudiad dirwest yn Unol Daleithiau America yn yr 1820au ac ymledu i Brydain ac i Gymru yn yr 1830au. Erbyn diwedd y degawd hwnnw roedd cymdeithasau dirwestol yn cael eu sefydlu, gan ddechrau yn siroedd Fflint a Dinbych. Magodd y mudiad ddylanwad mawr yng Nghymru a chynhyrchu llenyddiaeth a gweithgarwch diwylliannol a fu’n boblogaidd iawn. Ffurfiwyd cymdeithasau ym mhob rhan o’r wlad a bu’r Gobeithlu (‘Band of Hope’) yn arf grymus i addysgu plant yn ffyrdd dirwest. Datblygodd y pwyslais ar ganu yn gynnar yn hanes y mudiad am fod canu’n cynnig gweithgarwch diwylliannol penodol a gadwai bobl rhag y tafarnau; roedd hefyd yn gyfrwng i fynegi egwyddorion creiddiol dirwest, sef hunanddisgyblaeth ac ymatal rhag y ddiod gadarn.

Cysylltid canu â gorymdeithio, a datblygodd yr ymdeithgan ddirwestol yn rhan nodweddiadol o ganu dirwest. Ddydd Nadolig 1837 aeth gorymdaith ddirwestol o Ddowlais i Bontmorlais dan ganu, gyda chorau dirwest pentrefi cyfagos yn ymuno. Cynhaliodd Undeb Corawl Dirwestol Gwent a Morgannwg ei gylchwyl gyntaf yn 1854, a byddai’n cynnal gŵyl flynyddol lle byddai corau’n perfformio’n unigol a chyda’i gilydd a lle byddai darlithiau ar rinweddau dirwest yn gymysg â’r canu. Roedd dros 900 o gantorion yn bresennol yn yr ŵyl a gynhaliwyd ym Merthyr yn 1866.

Disgwylid i holl aelodau’r corau fod wedi llofnodi’r adduned i beidio â chyffwrdd â’r ddiod gadarn cyn cael cymryd rhan yn yr ŵyl. Sefydlwyd Undebau Dirwest yn Eryri yn 1866 ac Ardudwy yn 1868, a byddai’r rhain yn cynnal gwyliau tebyg. Ffurfiwyd Cymdeithas Gorawl Ddirwestol Dyffryn Tawe yn 1862 a bu’n ddylanwad pwerus o blaid datblygiad canu corawl yn ogystal â hybu’r mudiad dirwest. Cynhyrchodd y mudiad dirwest doreth o lenyddiaeth a oedd yn amrywiol ei safon ond yn boblogaidd iawn dros gyfnod maith, gan gynnwys cylchgronau a llyfrau canu. Er bod tôn llawer o’r llenyddiaeth yn ymddangos yn eithafol, dylid cofio bod lladmeryddion dirwest yn sensitif iawn i effeithiau cymdeithasol drwg goryfed, a’i ddylanwad andwyol ar y bywyd teuluol a oedd mor uchel ei barch yn oes Victoria. Dywedwyd yn 1852 fod cerddoriaeth yn ‘llawforwyn dda’ i’r diwygiad dirwestol, ac yn gynnar yn oes y mudiad gwelwyd cyhoeddi casgliadau o emynau a thonau pwrpasol. Nodweddion arferol y rhain oedd amcanion moeswersol y geiriau a bywiogrwydd sionc y dôn, a fyddai’n fynych yn addas i’w canu wrth orymdeithio. Sonnid yn aml am y ddiod fel ‘y gelyn’ a ‘Babilon’, ac anogid y cantorion i wneud pob ymdrech i orchfygu’r naill a dymchwel y llall.

Cytgan yr emyn-dôn ‘Rachie’ gan Caradog Roberts.

Ymddangosodd casgliadau o ganeuon dirwest mor gynnar â’r 1840au: Y Caniedydd Dirwestol gan Richard Mills, Llanidloes, tua 1840; Hymnau Dirwestol dan nawdd Côr Cerddorol Cymdeithas Ddirwestol Merthyr Tydfil yn 1844; ac Y Canor Dirwestol gan D. T. Williams (Tydfylyn), a argraffwyd yn Llanidloes yn 1845. Sefydlwyd cylchgrawn Telyn y Plant gan Thomas Levi ac Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822–77) yn 1859 a pharhaodd hyd 1861; cynhwysai emynau a chytganau dirwestol, a pharhawyd i gyhoeddi’r rhain yn Trysorfa y Plant a sefydlwyd yn 1862.

Daliwyd ati i gyhoeddi am gyfnod maith: Owen Williams (1877–1956), Eglwys-bach, oedd yn gyfrifol am y casgliad dwyieithog Telyn Dirwest, a wobrwywyd yn Eisteddfod Gadeiriol Llanrwst yn 1909 ac a gyhoeddwyd gan Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru. Ceid hefyd gytganau a darnau corawl dirwestol: roedd yr ymdeithgan ddirwestol The Fall of Bacchus gan C. Meudwy Davies (1855–1916) yn ddarn prawf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1895, ac fe’i canwyd eto mewn gŵyl ddirwestol yn y Palas Grisial yn Llundain yn 1896. Mae llawer o emynau Ira D. Sankey a ddaeth yn boblogaidd yng Nghymru yn dilyn ymgyrchoedd efengylaidd Sankey a Moody, a thrwy gyfieithiadau Ieuan Gwyllt yn y casgliad Swn y Juwbili (1874–8), yn ymwneud â themâu tebyg.

Roedd y mudiad dirwest yn ei anterth yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond parhaodd y dylanwadau a’r arferion dirwestol tan wedi’r Ail Ryfel, gydag undebau dirwest a gobeithluoedd yn dal i gyfarfod ac yn dal i ganu. Cyhoeddodd Cymanfa Ddirwestol Gwynedd gyfres o lyfrynnau o dan y teitl Murmur y Llanw rhwng 1920 ac 1948, ac ymddangosodd y casgliad Telyn y Wawr o dan nawdd Undeb Dirwest Gwynedd yn 1950. Gwelir yr emyn dirwestol ‘Urdd y gloyw ddŵr’ gan Nantlais (William Nantlais Williams), i gerddoriaeth gan Matthew W. Davies, yn Llyfr Emynau a Thonau’r Plant (1947), a’r geiriau ‘Ymlaen ni awn, dan ganu ’nghyd’ o waith Tegidon (John Phillips; 1810–77), sy’n sôn am gael y ‘gelyn meddwdod dan ein traed’, yn Y Caniedydd (1960).

Ond o’r 1950au ymlaen roedd agweddau cymdeithas yn newid, a rhoddid llai o bwyslais ar ddirwest a mwy ar gymedroldeb. Yn naturiol ddigon arweiniodd hyn at lai o ddiddordeb mewn emynau a chytganau dirwestol. Mae’n eironig fod yr emyn dirwest enwocaf un, ‘I bob un sydd ffyddlon’, geiriau Ap Hefin (Henry Lloyd; 1870–1946) i’r dôn ‘Rachie’ gan Caradog Roberts, yn cael lle bellach mewn casgliadau o ganeuon yfed.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.