Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 60: Llinell 60:
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Diwygiad 14:32, 4 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Arferai Syr Ifor Williams bwysleisio mai ystyr ‘diwylliant’ yw di-wylltio, hynny yw, tynnu pobl o’u gwylltineb naturiol a’u gwareiddio. Er bod cerddoriaeth yn rhan o fywyd cyntefig llwythau ym mhob man, gellir hefyd ddweud iddi fod â rhan fawr ym mhob cyfnod a phob cenedl yn y broses o ddatblygu cymdeithas. Yn sgil hynny, bu gan gerddoriaeth gyswllt agos â’r mudiadau a’r sefydliadau sy’n ffurfio’r hyn a elwir yn aml yn ddiwydiant cerddoriaeth, sef y pethau hynny sy’n cynnal bywyd cerddorol cenedl. Yng Nghymru yn arbennig, mae’n sicr fod cerddoriaeth wedi cyfrannu at ddatblygiad meddwl ac arferion trigolion y wlad ar wahanol gyfnodau a hefyd wedi dylanwadu ar gelfyddydau eraill o bwys, barddoniaeth yn enwedig. Ond dylid cofio hefyd fod profiad y Cymry o gerddoriaeth ymhell o fod yn gyfyngedig i’r hyn y gellir ei galw’n gerddoriaeth frodorol, a bod dylanwadau allanol, Ewropeaidd ac Americanaidd yn arbennig, wedi effeithio ar ddiwylliant cerddorol y genedl.

Dim ond i ryw raddau y gellir ystyried diwylliant cerddorol yr Oesoedd Canol yn ddiwylliant torfol. Byddai cywyddau’n cael eu datgan i’w noddwyr i gyfeiliant telyn ond mae’n debyg mai unigolion oedd prif gantorion ac offerynwyr y cyfnod fel arfer, er y gwyddys fod yr arfer o gydganu a chyd-ddatgan yn bodoli. Diddorol yw nodi bod Edmwnd Prys yn 1621, wrth gyflwyno i’r Cymry yr arfer o gydganu mewn cynulleidfa eglwysig, yn mynegi amheuaeth a allai mwy nag un llais ganu cywydd, er enghraifft. Serch hynny, roedd y broses o wrando ynddi’i hun yn broses o ymddiwyllio, ac felly hefyd yn yr eglwys lle clywid canu gwasanaethau. Wedi’r Dadeni parhaodd yr arferion unigol ond gwelir hefyd fwy o ymdrech i greu diwylliant cerddorol torfol, er enghraifft drwy hybu dawnsio a chanu yn y plastai fel yn Lleweni, Castell Gwydir a Chastell y Waun. Erbyn y 18g. datblygodd arferion canu cynulleidfaol yn yr eglwysi a gwyddys fod cryn weithgarwch dawnsio traddodiadol yn y ffeiriau a’r gwylmabsantau.

Ond nid hyd y 19g., mae’n debyg, y gellir sôn am ddiwydiant cerddoriaeth fel y cyfryw lle’r oedd unigolion yn ennill bywoliaeth trwy gyfrwng dysgu, perfformio a chyfansoddi cerddoriaeth: cyn hynny, unigolion hwnt ac yma fyddai’n cyfrannu addysg gerddorol, er enghraifft y telynorion a’r ffidlwyr a drosglwyddai alawon ar lafar yn bennaf. Y 19g. hefyd oedd y cyfnod pan ddatblygodd canu torfol ffurfiol, trwy waith cymdeithasau a chorau, ac y dechreuwyd datblygu’r traddodiad cerddorfaol Cymreig. Golygai hyn fod mwy o gyfleoedd i bobl ymddiwyllio trwy gymryd rhan mewn cerddoriaeth a thrwy wrando a gwerthfawrogi. Yn chwarter olaf y 19g. yn ogystal y dechreuwyd sôn am Gymru yn genedl gerddorol (‘Gwlad y gân’) ac y dechreuwyd ffurfioli’r bywyd cerddorol trwy gymdeithasau lleol a sefydliadau. Gellir awgrymu felly mai proses o dyfu’n ddiwylliannol a gafwyd, lle cynyddai cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a lle tyfai cynulleidfaoedd trwy helaethu’r dulliau o gyfathrebu diwylliannol.


Eisteddfodau

Sefydliad llenyddol oedd yr eisteddfod yn ei hanfod. Pwyslais pennaf yr eisteddfodau cynnar – o dan nawdd yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176, yng Nghaerfyrddin tuag 1451 ac yng Nghaerwys yn 1523 ac 1567 – oedd trafod a threfnu’r alwedigaeth farddol, er bod elfennau a chystadlaethau cerddorol yn cael lle ynddynt hefyd. Yn yr un modd, cyfarfodydd i feirdd, yn aml mewn tafarndai, oedd eisteddfodau’r 18g., a phan sefydlodd Iolo Morganwg yr Orsedd yn 1792, urdd i feirdd ydoedd. Yn y 19g. fodd bynnag, gwelir yr eisteddfod yn esblygu i fod yn ŵyl ddiwylliannol ehangach ei rhychwant. Yn eisteddfodau’r Fenni o dan nawdd Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer), er enghraifft, rhoddwyd sylw i offerynnau traddodiadol (e.e. y delyn deires) a gwobrwywyd casgliadau o gerddoriaeth draddodiadol (e.e. gwaith Maria Jane Williams, Aberpergwm).

Yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr 1860au dechreuodd y mudiad corawl ddylanwadu mwy ar fywyd y genedl, a gellir yn rhesymol o hynny ymlaen ystyried yr Eisteddfod Genedlaethol yn ŵyl gerddorol yn ogystal â llenyddol, cymaint felly nes bod y beirdd yn cwyno ar adegau fod cerddoriaeth yn hawlio gormod o le. Ond yr Eisteddfod Genedlaethol oedd un o brif lwyfannau’r diwylliant cerddorol newydd a esblygodd yn ail hanner y 19g., sef diwylliant canu corawl yn bennaf, ond diwylliant offerynnol yn ogystal. Erbyn yr 1920au byddai’n arferiad i gael cerddorfa i gyfeilio i’r corau yn y brif gystadleuaeth gorawl, corau a rifai yn aml dros 300 o leisiau. Datblygodd cyngherddau’r Eisteddfod hefyd yn llwyfan i weithiau corawl ar raddfa fawr, ac yn y cyfnod wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf gwelwyd dylanwad cynyddol Y Cyngor Cerdd Cenedlaethol (a ffurfiwyd yn 1919 yn sgil Comisiwn Haldane) ar safonau cerddorol. Arweiniodd T. Hopkin Evans The Apostles gan Elgar yn Eisteddfod Genedlaethol Corwen yn 1919 a Mass of Life gan Delius yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933, ac yn 1934 cafwyd perfformiad o Belshazzar’s Feast gan Walton, a oedd yn waith newydd ar y pryd, yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd. Yn Eisteddfod Caerdydd 1938 llwyfannwyd yr Offeren yn B leiaf gan Bach a’r Requiem Almaenaidd gan Brahms. Serch hynny, dim ond yn raddol y llwyddwyd i gefnu ar yr ysbryd cystadleuol eiddigus a di-ras a ddifwynai eisteddfodau diwedd y 19g. a dechrau’r 20g.

Wedi gweithredu’r rheol Gymraeg yn ei llawnder o Eisteddfod Genedlaethol Caerffili (1950) ymlaen, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn llwyfan i ddatganiadau o weithiau clasurol yn y Gymraeg, a chyfoethogwyd y diwylliant eisteddfodol, a diwylliant cerddorol Cymru, gan gyfieithiadau o unawdau a chyfanweithiau gan lenorion megis T. H. Parry- Williams, Thomas Parry, Stephen J. Williams a Dyfnallt Morgan. Erbyn diwedd yr 20g. roedd yr Eisteddfod yn darparu tlysau ar gyfer cerddoriaeth offerynnol a Thlws y Cerddor i gyfansoddwyr, gan ledu cyfleoedd cerddorol yn ehangach. Cafwyd mwy o amrywiaeth mewn cystadlaethau, gan gynnwys dod â cherddoriaeth ysgafnach y llwyfan a’r sioe gerdd i fyd cystadlu eisteddfodol.

Gwelwyd effaith y datblygiadau hyn ar eisteddfodau eraill hefyd. Sefydlwyd Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn 1929 i ddarparu cyfleoedd cystadlu i blant ysgol yn bennaf, a bu hyn yn gyfrwng i ddyfnhau profiadau cerddorol cenedlaethau o blant wrth iddynt ddysgu darnau lleisiol ac offerynnol. Am fod yr un bobl yn aml yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol gellir dweud i Gymru gyfan elwa ar y datblygiadau diwylliannol hyn. Yn yr un modd, daeth sefydlu Eisteddfod Gydwladol Llangollen yn 1947 â llawer o gerddoriaeth frodorol o wledydd eraill i glyw a gwerthfawrogiad y Cymry, er y gellid dadlau mai cymharol gyfyng oedd dylanwad hyn ar gerddoriaeth Gymreig yn gyffredinol.


Cyhoeddi

Yn eu tro roedd y datblygiadau hyn yn hwb i gyhoeddwyr i argraffu mwy o gerddoriaeth a fyddai ar gael i’w defnyddio mewn eisteddfodau. Yn ystod ail hanner y 19g. bu twf aruthrol mewn gweithgarwch cyhoeddi yng Nghymru, er mai gwaith cyfansoddwyr Cymreig, ac nid clasuron Ewrop, oedd yn cael ei gyhoeddi, ac nid oedd y cynnyrch bob amser o safon uchel.

Serch hynny, roedd y ffaith fod cerddoriaeth Gymreig ar gael yn hwb nid yn unig i gystadlu a pherfformio ond hefyd i gyfansoddi, ac yn raddol cododd safon y cynnyrch, yn enwedig o law cyfansoddwyr a gawsai addysg gerddorol, Caradog Roberts, E. T. Davies ac Idris Lewis er enghraifft. Yn yr 1930au pan oedd eisteddfodau lleol yn lluosog ac yn boblogaidd, byddai D. J. Snell, Abertawe, yn cynnig gostyngiad arbennig i bwyllgorau eisteddfodol a fyddai’n dewis eu darnau gosod o’i gatalog ef, er mai digon cyffredin oedd safon rhai o’r darnau a gyhoeddai.

Daeth tro pendant ar fyd yn sgil gweithgarwch Y Cyngor Cerdd Cenedlaethol a hybodd gerddoriaeth Gymreig newydd ac argraffiadau yn yr iaith Gymraeg o glasuron o’r traddodiad Ewropeaidd, a oedd yn fodd i ledu gorwelion cerddorol y Cymry. Ond wedi’r Ail Ryfel Byd, daeth cyhoeddi masnachol yn fwy anodd, ac er i Gymru ddatblygu traddodiad symffonig trwy waith Daniel Jones, Grace Williams a David Wynne, nid yng Nghymru y cyhoeddwyd eu gwaith os cyhoeddwyd ef o gwbl. Eto i gyd, erbyn diwedd yr 20g. cadarnhawyd yr agwedd hon ar ddiwylliant cerddorol trwy waith cyhoeddwyr megis Curiad a ofalodd fod cyfleoedd newydd i gyfansoddwyr Cymreig.


Sefydliadau

Roedd llawer o weithgarwch diwylliannol cerddorol Cymru yn y 19g. wedi ei ganoli ar gapeli ac eglwysi, a’u hysgoldai a’u neuaddau hwy oedd neuaddau cyngerdd y cyfnod. Perfformiwyd cantatas ac oratorios ar y llwyfannau hyn ac roedd brwdfrydedd lleol yn amlwg, gyda sawl perfformiad mewn gwahanol ganolfannau o fewn un ardal mewn amser byr. Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd hyn yn fynegiant amlwg o ddiwylliant cerddorol lleol. Ond yn yr 20g. hefyd gwelwyd datblygu neuaddau cyhoeddus amlbwrpas a ddaeth yn neuaddau cyngerdd ac a roddodd i boblogaeth Cymru gyfleoedd diwylliannol ychwanegol a mwy o ofod i glywed perfformiadau gan gerddorfeydd a chwmnïau proffesiynol.

Agorwyd Neuadd Prichard Jones ym Mhrifysgol Bangor a Neuadd Brangwyn yn Abertawe, a defnyddiwyd y ddwy yn helaeth ar gyfer perfformiadau cerddorfaol a chorawl. Yn ddiweddarach yn y ganrif codwyd y safon yn uwch fyth trwy Ganolfan y Celfyddydau a Theatr y Werin yn Aberystwyth (1972), a Neuadd Dewi Sant (1982) a Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd (2004), yr ail yn rhoi llwyfan teilwng i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru, a sefydlwyd gan Idloes Owen yn 1943 ac a ddatblygodd wedi’r Ail Ryfel Byd i fod yn un o brif gynheiliaid y diwylliant cerddorol rhyngwladol yng Nghymru.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn enghraifft dda o blethu’r diwylliant amatur a’r diwylliant proffesiynol gan mai yn y diwylliant amatur y gwreiddiwyd y cwmni, a’i gorws yn arbennig, tan 1973. Gwnaeth y cwmni hefyd ddefnydd helaeth o theatrau yn Llandudno, Abertawe a Chaerdydd ar hyd y blynyddoedd i geisio dwyn traddodiad operataidd Ewrop gerbron cynulleidfa ehangach. Ychwanegwyd Neuadd Hoddinott yn gartref newydd i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2009, gan ychwanegu eto fyth at yr amrywiaeth o lwyfannau cerddorol o safon broffesiynol. Bu cefnogaeth Cyngor y Celfyddydau o 1967 hyd 1994 a Chyngor Celfyddydau Cymru fel elusen annibynnol o 1994 ymlaen, i rannu cyllid i fentrau celfyddydol Cymreig, yn gwbl allweddol i’r holl ddatblygiadau hyn.


Addysg

Gellir dweud i ddatblygiadau’r 20g. ddechrau symud y diwylliant cerddorol yng Nghymru o dir cyfan gwbl amatur i dir proffesiynol, datblygiad a ragwelwyd yn ymdrechion unigolion megis Joseph Parry, David Evans a Caradog Roberts i ennill doethuriaethau mewn cerddoriaeth yng Nghaergrawnt a Rhydychen. Roedd cymdeithasau cerdd lleol, yn gorau ac (yn llai aml) yn gerddorfeydd, yn cynnig cyfleoedd i unigolion i ddatblygu eu doniau perfformio, a chafodd rhai o’r rheini gyfle i droi eu diddordeb yn yrfa broffesiynol trwy gefnogaeth ariannol eu hardal leol. Bu’r Cyngor Cerdd Cenedlaethol yn hyrwyddo cerddoriaeth offerynnol a gwyliau corawl a cherddorfaol, i gynnwys perfformiadau o gyfanweithiau megis y Dioddefaint yn ôl Sant Mathew gan J. S. Bach yng Ngŵyl Harlech, a chyfres o wyliau’r Tri Chwm rhwng 1930 ac 1939, a ymdrechodd i oresgyn effeithiau enbyd dirwasgiad economaidd trwy hybu gweithgarwch diwylliannol a denu artistiaid o fri i berfformio yng nghymoedd y de.

Sefydlwyd Cadair Gregynog mewn Cerddoriaeth yn Aberystwyth yn 1919 a chafodd Bangor Gyfarwyddwr Cerdd i’r Brifysgol yn 1914. Cawsai Caerdydd Gadair mewn Cerddoriaeth yn 1908. Roedd yr adrannau cerdd yn y prifysgolion, a’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd a sefydlwyd wedi’r Ail Ryfel Byd, yn feithrinfa i gerddorion ac athrawon cerddoriaeth a gododd safonau cerddoriaeth yn ysgolion Cymru, datblygiad a welwyd yn dwyn ffrwyth yn sefydlu Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Cynigiai’r rhain gyfleoedd i ieuenctid disglair a dyfai’n athrawon eu hunain neu yn berfformwyr proffesiynol. Datblygiad tebyg oedd sefydlu Ysgol Gerdd Ceredigion ac Ysgol Glanaethwy (Bangor), gyda phwyslais ar berfformio.

Datblygodd hefyd bwyslais ar ddiogelu etifeddiaeth diwylliant cerddorol Cymru trwy sefydlu llyfrgelloedd ac amgueddfeydd, yn bennaf trwy Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru a sefydlwyd yn 1907 a’r Amgueddfa Werin a sefydlwyd yn 1948. Daeth y sefydliadau hyn maes o law yn gartref i dreftadaeth ddogfennol cerddoriaeth Cymru a chasgliadau gwerthfawr o offerynnau cerdd, a dod yn ddrych cyhoeddus i’r diwylliant cerddorol.

Cafodd y Cyngor Cerdd hefyd ddylanwad gwerthfawr ar safon y gerddoriaeth a gyhoeddid yng Nghymru. Cydweithiodd â Gwasg Prifysgol Rhydychen a Gwasg Prifysgol Cymru i gynhyrchu darnau a chasgliadau a gynhwysai waith gwreiddiol cerddorion Cymreig proffesiynol a deunydd Cymreig traddodiadol. Cynhaliwyd hyn yn arbennig gan gwmnïau cyhoeddi cerddoriaeth megis Snell a Hughes a’i Fab ond yn benodol gan Wasg Prifysgol Cymru a chwmni Curiad.


Y Cyfryngau

Gellid dadlau mai’r dylanwad pennaf ar ddiwylliant cerddorol yn yr 20g. a dechrau’r 21g. oedd darlledu. Cafwyd y darlledu cyhoeddus cyntaf o stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd yn 1923 mewn rhaglen a gynhwysai ddatganiad gan y bariton Mostyn Thomas o’r gân ‘Dafydd y Garreg Wen’. Bu cerddoriaeth yn rhan greiddiol o ddarlledu o’r cychwyn, a dylanwadodd hyn ar ddiwylliant y gwrandawyr, gan fod yr arlwy yn cynnwys cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth draddodiadol a cherddoriaeth ysgafn a phoblogaidd. Roedd cyfle i gynulleidfaoedd mewn ardaloedd anghysbell – nad oeddynt o fewn cyrraedd canolfannau poblog nac yn mynychu cyngherddau – glywed artistiaid proffesiynol.

Yn 1935, crëwyd Rhanbarth Cymru y BBC fel rhanbarth ar wahân, a phenodwyd Idris Lewis yn Gyfarwyddwr Cerdd. Bu’r BBC o hynny allan yn noddwr cyson i gerddoriaeth Gymreig o bob math, a datblygodd Cerddorfa Gymreig y BBC i fod yn Gerddorfa Genedlaethol y BBC yng Nghymru, prif gerddorfa symffonig y genedl. Ond pwysig iawn hefyd oedd y darlledu cyson ar gerddoriaeth ysgafn a thraddodiadol trwy gyfrwng nosweithiau llawen a chyfresi i blant. O’r 1950au ymlaen ychwanegwyd cyfrwng teledu i’r ddarpariaeth a daeth darlledu cyngherddau a sioeau – eto i gynulleidfaoedd nad oeddynt bob amser â’r modd na’r cyfle i’w gweld yn fyw – yn ddylanwad pellach ar ddiwylliant cerddorol y Cymry.

Roedd y datblygiadau hyn yn cydgerdded â thwf y diwydiant recordiau. Dechreuodd recordio masnachol yng Nghymru tuag 1899 ond cwmnïau Llundeinig fu’n bennaf gyfrifol am recordio cerddoriaeth Gymreig ac artistiaid Cymreig hyd ganol yr 20g. Cafwyd ymdrech arbennig i gyhoeddi mwy trwy lafur y Welsh Recorded Music Society yn y blynyddoedd wedi’r Ail Ryfel Byd, a gyhoeddodd (gyda chefnogaeth cwmni Decca) nifer o recordiadau gan y tenor David Lloyd a chaneuon gwerin gan Amy Parry-Williams a Meredydd Evans. Yn y blynyddoedd dilynol daeth cwmnïau recordio Cymreig i’r amlwg, gan gynnwys Qualiton, Welsh Teldisc, Cambrian, a’r mwyaf llwyddiannus a hirhoedlog (a lyncodd rai o’r labeli blaenorol), Sain, sydd wedi sbarduno nifer o labeli eraill a’i is-labeli ei hun. Gyda thwf dulliau electronig, gwelwyd labeli Cymreig yn ymateb i her y gryno-ddisg a cherddoriaeth ddigidol sydd ar gael mor eang ar gyfrifiaduron a ffonau symudol (gw. Rhyngrwyd, Cerddoriaeth a’r). A chyda’r newid sylfaenol hwn ym mhatrymau gwrando a gwerthfawrogi cerddoriaeth, gellir dweud bod diwylliant cerddorol yr 21g. wedi dod yn ddiwylliant torfol yn wir.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.