Domestigeiddio

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Dull cyfieithu yw domestigeiddio, neu gartrefoli, sydd yn gosod testun yng nghyd-destun a diwylliant yr iaith darged. Cynhyrchir cyfieithiad nad yw'n ymddangos fel cyfieithiad. Bathwyd y term gan Lawrence Venuti ym 1995 er bod y cysyniad yn bodoli ers canrifoedd a chysylltir y theori yn bennaf â’r ieithydd, Eugene Nida. Wrth ddomestigeiddio rhydd y cyfieithydd bwyslais ar ofynion y gynulleidfa darged a'i gallu i ddeall y testun. Yn ôl Nida, dylai profiad y gynulleidfa darged o’r cyfieithiad fod yn union yr un peth â phrofiad y gynulleidfa wreiddiol o’r testun gwreiddiol. Trosir cyfeiriadau at ddiwylliant yr iaith ffynhonnell ac elfennau ieithyddol anghyfarwydd megis idiomau er mwyn gweddu i ddiwylliant yr iaith darged, a hynny er lles y gynulleidfa. Er enghraifft, wrth gyfieithu nofel Ffrangeg i'r Gymraeg, daw'r cyfieithiad yn Gymreig o ran ei naws a'i gyd-destun. Estroneiddio yw'r dull cyfieithu cyferbyniol.

Rhianedd Jewell

Llyfryddiaeth

Nida, E. (1964) Toward a Science of Translating: with special reference to principles and procedures involved in Bible translating (Leiden: E. J. Brill).

Venuti, L. (2008), The Translator's Invisibility: A History of Translation, ail argraffiad (London and New York: Routledge).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.