Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Drama"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Y mae tri phrif ddefnydd i’r gair ‘drama’. Mae’r cyntaf yn cyfeirio at destun ieithyddol sy’n cofnodi digwyddiad ffuglennol wedi...')
 
Llinell 31: Llinell 31:
  
 
Williams, I. (2006), ''Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880-1940'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
 
Williams, I. (2006), ''Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880-1940'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
 +
{{CC BY-SA}}
 +
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]

Diwygiad 00:29, 23 Rhagfyr 2016

Y mae tri phrif ddefnydd i’r gair ‘drama’. Mae’r cyntaf yn cyfeirio at destun ieithyddol sy’n cofnodi digwyddiad ffuglennol wedi’i ddyfeisio gogyfer â’i berfformio drwy gyfrwng cyfuniad o eiriau ac ystumiau. Cyfeiria’r ail at holl gorff y testunau hyn, neu/a’r egwyddorion celfyddydol y maent wedi eu hymgorffori. Defnyddir y trydydd i ddisgrifio unrhyw ddigwyddiad neu sefyllfa sy’n debyg i ddrama i’r graddau ei fod yn fwy cyffrous nag arfer. Felly, er enghraifft, cyfeirir at ‘ddrama llys’.

Ni cheir diffiniad digonol o ddrama heb dderbyn yn llawn ei bod yn adlewyrchu adeiledd y theatr lle mae wedi’i chreu. Mae theatr yn y cyd-destun hwn, wrth gwrs, yn meddwl llawer mwy na’r cyrchfan neu’r adeilad lle mae actorion a chynulleidfa’n ymgynnull. Mae mathau gwahanol o theatr yn adlewyrchu meddylfryd gwahanol a chymunedau a chynulleidfaoedd gwahanol. Os anghofiwn hyn rydym mewn perygl o geisio diffiniad diamod o genre celfyddydol sydd yn fwy na dim un arall yn adlewyrchu amodau diwylliannol neilltuol iawn. Gellid dadlau y ceir drama ffuglennol y tu allan i’r theatr draddodiadol mewn theatr deledu, lle nad yw’r gynulleidfa’n bresennol yn ystod y perfformiad, ond y mae unrhyw ystyriaeth gynhwysfawr o’r ddrama hon yn gofyn i ni estyn allan i gynnwys ymateb y gynulleidfa anweledig honno.

Y mae hanes y gair ‘drama’, o’i gymharu â geiriau perthnasol eraill yn cryfhau’r pwynt hwn. Daeth i’r iaith Saesneg yn gynnar yn yr 16g. ac fe’i mabwysiadwyd yn araf gan ieithoedd Ewropeaidd eraill: ni chyrhaeddodd y Gymraeg cyn 1825. Y gair a ddefnyddid cyn hynny i ddisgrifio darnau a grëwyd i’w perfformio, naill ai’n Lladin neu yn Saesneg, oedd play, sydd yn cael ei ddefnyddio hyd heddiw. Mewn modd tebyg y mae’r Ffrancwyr yn parhau i ddefnyddio’r gair comédie a’r ymadrodd pièce de théâtre ochr yn ochr â drame.

Mae ymddangosiad disymwth gair newydd, fel yn yr achos hwn, yn awgrymu’n gryf fod yr hyn y mae’n ei ddynodi’n rhywbeth newydd, ond y mae tueddiad wedi bod ers hynny i guddio’r newydd-deb hwnnw. Roedd dau brif reswm am hynny. Yn y lle cyntaf roedd datblygiad cyson y traddodiad drama yn Ewrop rhwng yr 17g. a’r 19g. yn annog sylwebyddion i chwilio am wreiddiau’r traddodiad neilltuol hwnnw yng nghynnyrch theatrau cyfnodau cynharach. Gwrthwynebwyd y tueddiad hwn gan y beirniad Hwngaraidd, P. Szondi, a fynnai ddefnyddio’r gair ‘drama’ i ddisgrifio’r math arbennig o ysgrifennu theatraidd a ddatblygodd yn Ewrop o gyfnod y Dadeni tan ddiwedd y 19g. yn unig. I Szondi dynodai ‘drama’ gorff o waith a fynegai gysyniad newydd o’r unigolyn fel canolbwynt ystyr, lle'r oedd y digwydd yn codi o dyndra rhyngbersonol. O’i diffinio felly hawdd yw gweld ‘y ddrama’ yn adlewyrchu’r un newidiadau athronyddol a chymdeithasol â’r nofel ar hyd y cyfnod rhwng yr 17g. a’r 19g. Er bod sawl beirniad wedi protestio yn erbyn cyfyngder theori Szondi, mae cytundeb cyffredinol erbyn hyn bod traddodiad y ddrama wedi’i seilio ar weithgarwch rhyngbersonol y gellir ei weld yn datblygu yng ngwaith Shakespeare a Ben Jonson. Ceir cytundeb hefyd fod y traddodiad hwn yn dangos straen cynyddol tua diwedd y 19g., gyda gweithiau diweddaraf H. Ibsen, A. Checof, M. Maeterlinck ac A. Strindberg. Wynebai’r awduron hyn argyfwng technegol, wrth geisio addasu ffurf ryngbersonol y ddrama draddodiadol i fynegi ffurfiau newydd o brofiad.

Parhâi'r broses hon ar hyd yr 20g. Er bod theatr fasnachol y Gorllewin yn dal i symbylu gweithiau yn seiliedig ar weledigaeth draddodiadol o’r unigolyn a’i berthynas ag eraill fel canolbwynt ystyr, mynegodd gwaith yr awduron a ystyriwyd yn fwyaf arwyddocaol gysyniadau mwy annifyr a heriol. Yn eu dwylo hwy, defnyddiwyd drama fel offeryn i danseilio cysyniadau cyfredol ynglŷn â natur personoliaeth ddynol a hyd yn oed allu’r iaith i greu a chyfleu meddwl ystyrlon. Yr oedd B. Brecht yn eithriad yn y cyfnod hwn, i raddau, oherwydd er ei fod yn defnyddio teithi theatr i ymosod ar ystrydebau cyffredin am natur dyn a’i sefyllfa yn y byd, roedd yn cynnig gweledigaeth amgen ar sail yr ideoleg Farcsaidd. Yn nwylo ymarferwyr theatraidd fel V. E. Meyerhold a gweithiau’r dramodwyr Mynegiadol, fel F. Wedekind a G. Kaiser, aeth y ddrama’n gyfrwng i gyfleu beirniadaeth ddinistriol o’r cysyniadau a’r gwerthoedd sylfaenol a fynegwyd yn nramâu’r cyfnod cynt.

Y mae beirniaid yn cyfeirio at y corff hwn o waith fel drama Fodernaidd. Yn yr 1970au mabwysiadwyd y term ôl-Foderniaeth i ddisgrifio gwaith awduron diweddarach a ymosodai ar dechnegau sylfaenol theatr ei hun. Y mae gwaith Samuel Beckett yn ganolog i’r symudiad hwn, oherwydd ei lwyddiant i greu gweithgarwch theatraidd ystyrlon sy’n tanseilio hyder y gynulleidfa yn y posibilrwydd o ddarganfod ystyr yn unrhyw le y tu allan i’r theatr ei hun. Awduron ôl-fodernaidd mwy diweddar yw G. Genet a P. Handke y mae eu gwaith wedi bwydo’r argyhoeddiad ein bod ni erbyn hyn mewn cyfnod newydd, sef cyfnod yr ôl-ddramataidd, a drama fel y cyfryw yn amhosibl. Ni honnir bod theatr wedi colli ei phwysigrwydd yn y byd gorllewinol oherwydd hyn. Y ddadl yw bod theatr yn fecanwaith hollbwysig yn ein diwylliant sy’n cynnig modd o archwilio breuder profiad personol a rhyngbersonol mewn cydweithrediad â’n gilydd. Yn y cyd-destun hwn rhoddir llawer mwy o bwyslais ar berfformiad fel cyfrwng celfyddydol nag ar y testun.

Mewn perthynas â Chymru, diddorol yw sylwi na ddefnyddiwyd y gair ‘drama’ i ddisgrifio cynnyrch y ffurf ar theatr gynhenid, sef theatr yr Anterliwt, a ffynnai yn ail hanner y 18g. a dechrau’r 19g. Yn y theatr boblogaidd honno, a etifeddodd draddodiad hynafol, nid yw’r testun ond symbyliad i weithgarwch a werthfawrogwyd gan y gynulleidfa fel cyfuniad o ddiddanwch a dychan. Prin yw'r elfennau sydd gan y diddanwch hwn a’r traddodiad o ddrama a oedd yn datblygu ymhobman yn Ewrop yn yr un cyfnod yn gyffredin. Diddorol yw nodi hefyd mai cymharol lac oedd y berthynas rhwng theatr y Mudiad Drama a ffynnai rhwng 1880 a 1950 yng Nghymru â symudiadau yn Lloegr a gweddill Ewrop. O’r dechrau bron, roedd tyndra rhwng y cwmnïau drama bychain a’r beirniaid a ddymunai hyrwyddo drama y credent yr haeddai ei chymharu â drama orau Ewrop a’r byd. Am gyfnod yng nghanol yr 20g. ymddangosai fel petai’r breuddwyd hwn ar fin ei wireddu, tra bod dramâu Saunders Lewis, Gwenlyn Parry a John Gwilym Jones yn rhan o repertoire Cwmni Theatr Cymru. Sut bynnag, ers i’r cwmni hwnnw gau yn 1984, y mae’r gweithgarwch yng Nghymru wedi dilyn y patrwm cyffredin, gyda’r ddau gwmni cenedlaethol presennol yn ffafrio prosiectau cymunedol a safle penodol dros gyflwyno dramâu traddodiadol.

Ioan Williams

Llyfryddiaeth

Lehmann, H-T. (2006), Postdramatic Theatre (London and New York: Routledge).

Owain, O. Ll. (1948), Hanes y Ddrama yng Nghymru 1850‒1943 (Lerpwl: Gwasg y Brython).

Pfister, M. (1998), The Theory and Analysis of Drama (Cambridge: Cambridge University Press).

Stephens, E. C. (1998), ‘A Century of Welsh Drama’, yn Johnston, D. (gol.), A Guide to Welsh literature c. 1900‒1996 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Szondi, P. (1983), Theory of the Modern Drama, Boundary 2, XI, 3, 191-230.

Williams, I. M. (2004), ‘Towards national identities: Welsh theatres’, yn Kershaw, B. (gol.) The Cambridge History of British Theatre, III, Since 1895 (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt).

Williams, I. (2006), Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880-1940 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.