Dyfalu

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Term a gysylltir yn fwyaf arbennig â Chywyddwyr yr Oesoedd Canol yw dyfalu. Roedd y trosiad yn droad ymadrodd a ddefnyddiwyd yn helaeth iawn gan y beirdd hyn, a chan eu rhagflaenwyr yn oes y Tywysogion yn yr un modd. Mae dyfalu yn gyfystyr â disgrifio neu gymharu, a hynny trwy bentyrru neu amlhau trosiadau. Daeth yn elfen ganolog yn y cywyddau gofyn a diolch a luniwyd o’r 14g. ymlaen. Ar dro, gall y delweddau ymddangos yn fympwyol ac yn anhrefnus, ond ran fynychaf bydd y beirdd yn cyflwyno trosiadau sy’n cyfleu nodweddion megis lliw, ffurf, siâp neu ansawdd y gwrthrych dan sylw. Un wedd amlwg ar grefft Dafydd ap Gwilym yn y 14g. yw’r defnydd a wnaeth ef o’r addurn hwn, a hynny mewn dull cadarnhaol wrth bortreadu’r llateion a fu’n ei gynorthwyo neu mewn dull negyddol wrth ddychanu’r rhwystrau a ddaeth i’w ran wrth iddo geisio cwrdd â’i gariad. Cyfleir gwynder yr wylan yn un o gywyddau Dafydd gan drosiadau megis eira, lleuad, lili a lleian.

Cynfael Lake


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.