Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, Y

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Awgryma’r enw fod y grŵp pop hwn o fyfyrwyr Coleg y Brifysgol Caerdydd o leiaf yn wahanol os nad yn wallgof wahanol (mae’r enw yn cynnwys ymadroddion allan o farwnad enwog Gruffudd ab yr Ynad Coch i Lywelyn ap Gruffudd a Gwledigaethau y Bardd Cwsg o waith Ellis Wynne). Yn anffodus, dim ond dwy record fer a ryddhawyd gan y grŵp, ond roedd y rhain yn brawf o’u hathrylith gerddorol a’u doniolwch diarhebol. Daeth y chwe aelod i amlygrwydd trwy ennill y gystadleuaeth gân bop yn Eisteddfod Ryng-golegol 1970 a rhyddhawyd eu record gyntaf eponymaidd yr un flwyddyn, a’r ail, o’r enw Celwydd, ddwy flynedd yn ddiweddarach (Sain, 1972). Er bod llun saith o aelodau ar glawr y record gyntaf, dim ond enwau chwe aelod a nodir.

Yr aelodau oedd Bili Evans, Dewi Tomos, Gruff Miles, Eric Dafydd, Dai Meicel a Cenfin Evans. Roedd Gareth ‘Nerw’ Jones a Morus Elfryn yn aelodau achlysurol. Ymhlith yr offerynnau a chwaraeid yr oedd ffidil, trwmped, fiola, gitâr a cello. Gwisgai’r aelodau hefyd gotiau llaes du a dici-bôs ar y llwyfan. Ymhlith eu caneuon yr oedd ‘Sawl C sydd yng Nghricieth?’, ‘Orang Utang o Ruthun’ a ‘Sleeping Bag Asbestos fy Nain’. Roedd ‘O Gwmwl Gwyn’ a ‘Dyddiau Fu’ yn gyfieithiadau o ganeuon y Beatles. Roedd ‘Gast’ yn gân serch, a ‘Dicsi’r Clustie’ – trefniant o ‘Mack the Knife’ allan o Threepenny Opera Bertolt Brecht a Kurt Weill o 1929, a ddaeth yn boblogaidd yn dilyn recordiad Bobby Darin ohoni yn 1959 – yn cyfeirio at blisman cudd nodedig yn y cyfnod a arweiniai at yr Arwisgo yn 1969.

Ni fyddai’n ddim i Gruff Miles, angor y grŵp, gyhoeddi ar lwyfan eu bod am ganu cân benodol gyda’r teitl mwyaf rhyfedd ac yna cyhoeddi nad oedd y gân honno mewn gwirionedd wedi’i chyfansoddi eto. Gwelir natur hiwmor y Dyniadon o ddarllen rhan o froliant y record gyntaf:

Digwyddodd y D.Y.H.T. yn nhrydydd chwarter yr ugeinfed ganrif, ac yn barod maent yn saff o’u lle yn oriel pileri ac arloeswyr diwylliant cyfoethog ein Gwareiddiad Gorllewinol annwyl, ac yn cydgerdded â mawrion fel Ysbaddaden, Spartacus, Mab y Bryniau, Mr Wimpi ac eraill (h.y. Y Tebot Piws). Er hynny, mawr yw eu dyled. (Sain, 1970)

Pylu fu hanes y grŵp wrth i’r aelodau wasgaru wedi dyddiau coleg a phan fu farw Gruff Miles mewn damwain ffordd yn 1974 bu’n ddiwedd y grŵp hefyd.

Yn eu dydd, cynigiodd y Dyniadon adloniant amgen i’r hyn a gynigid gan yr ‘Hogia’ a’r ‘Bois’ yn eu gwisgoedd confensiynol. Daethant â dogn o ffresni i fyd canu cyfoes trwy gyfrwng eu hiwmor honco bost. Nid oedd grŵp Cymraeg tebyg iddynt, heblaw am y Tebot Piws, o ran hiwmor ac ymarweddiad ar lwyfan, ac fe ellir gweld eu dylanwad ar nifer o grwpiau ac artistiaid, megis Geraint Løvgreen a’r Enw Da (a ganai fersiwn o ‘Dicsi’r Clustie’ yn eu perfformiadau byw) a Gwibdaith Hen Frân. O safbwynt cerddoriaeth, rhaid fyddai dwyn cymhariaeth â bandiau fel y Bonzo Dog Doo-Dah Band neu’r Pigsty Hill Light Orchestra.

Hefin Wyn

Disgyddiaeth

  • Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog [EP] (Sain 10, 1970)
  • Celwydd [EP] (Sain 23, 1972)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.