Dénouement

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:29, 16 Rhagfyr 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Gair Ffrangeg sy’n golygu datglymu, datod neu ymddatod yn llythrennol yw dénouement. Ymddatrys fyddai’r cyfieithiad mwyaf cywir yn ei gyd-destun dramayddol, serch hynny, gan fod y term yn cyfeirio at ddiweddglo taclus drama lle mae’r holl wrthdrawiadau a phroblemau a gyflwynwyd yn y plot yn cael eu datrys yn yr act neu’r olygfa olaf. Mae’r dénouement fel arfer yn dilyn uchafbwynt y ddrama ac yma mae cwestiynau’r gynulleidfa am blot ac am gymeriadau’r ddrama yn cael eu hateb. Yn ôl Aristoteles, dylai hyn ddigwydd mewn ffordd naturiol a rhesymegol, gan wneud defnydd o dechnegau megis deus ex machina mewn achosion eithriadol yn unig. Er enghraifft, ar ddiwedd Blodeuwedd Saunders Lewis, yn dilyn atgyfodiad Llew Llaw Gyffes cosbir y cariadon euog drwy arwain Gronw Pebr at ei farwolaeth a throi Blodeuwedd yn dylluan. Mae tynged y cymeriadau'n glir ac y mae cwestiynau’r gynulleidfa amdanynt wedi’u hateb. Mae rhai dramodwyr cyfoes, ar y llaw arall, megis awduron theatr yr abswrd (e.e. Samuel Beckett, Harold Pinter, Bertolt Brecht) yn dewis hepgor dénouement traddodiadol gan adael diweddglo’r ddrama yn benagored gan greu ansicrwydd i’r gynulleidfa. Erbyn hyn, defnyddir y term hefyd i ddisgrifio ymddatrysiad straeon rhyddiaith yn ogystal ag yng nghyd-destun y ddrama.

Rhianedd Jewell

Llyfryddiaeth

Lucas, D. W. (1968), Aristotle: “Poetics” (Oxford: Clarendon Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.