Economi gwleidyddol

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:47, 19 Chwefror 2019 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Political economy

Mae’r term ‘economi gwleidyddol’ yng nghyswllt astudiaethau’r cyfryngau yn cael ei ddefnyddio wrth ddadansoddi’r cysylltiad rhwng y ‘ffordd’ y mae cynnwys (megis rhaglen neu erthygl bapur newydd) yn cael ei greu a’r ‘math’ o gynnwys sydd yn deillio o hynny o ganlyniad. Mae’r economi gwleidyddol yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng ‘nwyddau’ neu’r deunydd diwylliannol yn y cyswllt hwn, a’r amodau economaidd neu strwythurol sy’n eu creu.

Wrth edrych ar y ffordd y mae cynnwys yn cael ei gynhyrchu, ei ddosbarthu a’i ddefnyddio, mae economi gwleidyddol yn edrych ar sut mae system economaidd y wlad a gwleidyddiaeth yn dod ynghyd ac yn dylanwadu ar y cynnwys; ni ellir gwahanu’r ddau oherwydd mae’r naill yn dylanwadu ar y llall. Er enghraifft, dechreuodd teledu masnachol yn y Deyrnas Unedig yn 1955 ar ôl pasio Deddf Teledu 1954. Roedd y ddeddf yn caniatáu hysbysebion nid yn unig rhwng y rhaglenni ond yn ystod y rhaglenni hefyd. Mae cynhyrchwyr felly yn gorfod cymryd hyn i ystyriaeth wrth greu’r cynnwys, yn nhermau hyd bob rhan ac wrth amseru uchafbwyntiau mewn dramâu fel bod y gwyliwr yn parhau i wylio wedi’r egwyl.

Mae economi gwleidyddol yn cynnwys patrymau perchnogaeth cwmnïau cyfryngau, ffynonellau refeniw megis hysbysebu, newidiadau technolegol a gwahanol ffactorau economaidd, gwleidyddol neu sefydliadol sy’n dylanwadu ar y modd y mae cwmnïau’r cyfryngau yn gweithredu, ynghyd â’r cynnwys y maent yn ei ddarparu. Gall hefyd gwmpasu sut mae polisïau’r Llywodraeth a mudiadau eraill yn dylanwadu ac yn effeithio ar natur a chynnwys y cyfryngau (Hardy 2014).

Fel arfer, mae dadleuon ynghylch yr economi gwleidyddol yn canolbwyntio ar berchnogaeth, h.y. ar yr amrywiaeth o gwmnïau neu unigolion sy’n berchen ar y cyfryngau. Ym Mhrydain, tri chwmni yn unig sy’n rheoli 71% o gylchrediad papurau newydd cenedlaethol a phum cwmni yn berchen ar 81% o deitlau papur newydd lleol (Media Reform Coalition 2015). Mae hyn yn codi cwestiwn ynglŷn ag a yw hyn yn cyfrannu at ddemocratiaeth iach gan fod papurau newydd yn aml yn gosod yr agenda newyddion. Maent yn awgrymu i’w darllenwyr nid beth i feddwl ond am beth y dylent feddwl amdano.

Pan fo un cwmni yn berchen ar bapur newydd a chwmni teledu, mae cwestiynau ynglŷn â gwrthdaro buddiannau yn codi. Er enghraifft, mae Rupert Murdoch yn bennaeth ar gwmni News Corporation sy’n cyhoeddi’r papur newydd The Times; mae hefyd yn berchen ar gwmni teledu lloeren Sky, felly ni ellir disgwyl llawer o erthyglau yn y Times yn canmol cystadleuwyr Sky, megis y BBC.

Mewn gwledydd lle y mae’r wladwriaeth yn rheoli’r cyfryngau, gellir disgwyl rhaglenni teledu a radio sy’n adlewyrchu barn y rhai sydd mewn grym. Ar y llaw arall, mae safbwynt cwmnïau’r cyfryngau preifat yn fwy tebygol o fod yn gydnaws â safbwynt busnesau, a allai gyd-fynd, neu beidio â chyd-fynd, â buddiannau arweinwyr gwleidyddol (Casey 2008).

Gellir symleiddio’r cysyniad o economi gwleidyddol wrth fynd ar drywydd y cyllid (follow the money) ac yn y byd darlledu gellir dweud, ‘a sawl a dalo i'r pibydd a ddewis y dôn’. Oherwydd bod refeniw’r mwyafrif o gwmnïau darlledu preifat yn dod o hysbysebion, mae’r rhaglenni yn dueddol o gael eu teilwra i anghenion a diddordebau hysbysebwyr. Mae hyn yn golygu bod y darlledwr yn cyflwyno i’r hysbysebwyr y math o gynulleidfa sy’n fwyaf tebygol o brynu’r cynhyrchion. Mae’r darlledwr yn canolbwyntio ar greu cynnwys sy’n boblogaidd ymhlith y gynulleidfa hon, sy’n golygu bod yr hysbysebion yn parhau i gael eu cyflwyno iddynt.

Mae gwleidyddiaeth yn dylanwadu ar y math o gynnwys sydd ar gael i ddefnyddwyr. Er enghraifft, chwaraeodd gwleidyddiaeth ran hollbwysig wrth ystyried y cynnydd yn nifer y rhaglenni Cymraeg. Sefydlwyd S4C gan Ddeddfau Darlledu 1980 a 1981 a dechreuwyd darlledu ar 1 Tachwedd 1982. Cyn hynny, roedd y BBC a chwmni annibynnol HTV yn darparu rhaglenni Cymraeg i wylwyr yn achlysurol ond yn anaml yn ystod yr oriau brig.

Yn sgil pasio Deddf Darlledu 1990, dadreoleiddiwyd y diwydiant darlledu ym Mhrydain er mwyn creu mwy o gystadleuaeth ymhlith y darlledwyr. Sefydlwyd Channel Five a nifer o orsafoedd radio masnachol, er enghraifft.

Erbyn heddiw, mae rhai o’r farn (Casey et al. 2008, t. 207) bod ymchwil i economi wleidyddol y cyfryngau yn ymwneud â phedair tuedd gyfoes sy’n gysylltiedig â’i gilydd: y crynhoad cynyddol o berchnogaeth yn y diwydiant cyfryngau; y symudiad cyffredinol tuag at ddadreoleiddio a masnacheiddio’r cyfryngau darlledu; globaleiddio’r broses o gynhyrchu; y cynnydd mewn gwahanol fathau o gyfryngau ar y we a thechnolegau digidol.

Er i’r datblygiadau technolegol hyn arwain at fwy o sianeli, mae beirniaid yn dweud nad yw’r datblygiadau hyn wedi golygu dewis eang o wahanol fathau o gynnwys. Er enghraifft, yn Unol Daleithiau’r America, mae nifer o sianeli cebl sy’n eiddo i nifer fach o gwmnïau enfawr yn cynnig rhaglenni busnes, ond nid oes llawer wedi eu cynhyrchu gan, neu ar gyfer undebau llafur (Casey 2008).

Llyfryddiaeth

Casey, B. et al. 2008. Television Studies: The Key Concepts. London and New York: Routledge.

Hardy, J. 2014. Critical Political Economy of the Media. London and New York: Routledge.

Media Reform Coalition. 2015. Who owns the UK Media? [Ar-lein]. Ar gael: http://www.mediareform.org.uk/wp-content/uploads/2015/10/Who_owns_the_UK_media-report_plus_appendix1.pdf [Cyrchwyd: 19 Medi 2018].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.