Effaith Watergate

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:11, 1 Awst 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Watergate effect

Rhoddwyd hwb i enw da newyddiadurwyr yn sgil sgandal Watergate ar ôl i ddau o ohebwyr y Washington Post ymchwilio i ymgyrch Richard Nixon i gael ei ailethol yn Arlywydd Unol Daleithiau’r America (UDA) yn y 1970au.

Yn dilyn achos o fwrgleriaeth ym Mhencadlys y Blaid Democrataidd yn adeilad Watergate yn Washington, DC, dechreuodd Bob Woodward a Carl Bernstein ymchwilio i’r achos. Ar ôl gwaith trylwyr a phenderfynol gan y newyddiadurwyr, datgelodd y Washington Post achosion o weithgareddau anghyfreithlon, celu bwriadol a chynllwynio yn y Tŷ Gwyn.

Yn y pen draw, arweiniodd Watergate at gwymp llywodraeth weriniaethol Richard Nixon, gan orfodi iddo ymddiswyddo ar ôl iddo gael ei ddal yn dweud celwydd wrth gyhoedd Unol Daleithiau’r America am ei ran yn y bwrgleriaeth.

Cyfrannodd gwaith ymchwiliadol y newyddiadurwyr Bob Woodward a Carl Bernstein i’r papur newydd yn helaeth at benderfyniad Nixon i ymddiswyddo ar 9 Awst 1974. Credir iddyn nhw gael effaith fuddiol ar ganfyddiadau’r cyhoedd o newyddiaduraeth fel proffesiwn, yn enwedig ymhlith pobl ifanc a oedd bellach yn ei ystyried fel gyrfa bosibl.

Cafodd All the President’s Men, ffilm yn seiliedig ar hanes ymchwiliad Woodward a Bernstein i’r sgandal (gyda Robert Redford a Dustin Hoffman yn actio rhannau’r ddau), dderbyniad da gan y cyhoedd a’r beirniaid pan gafodd ei ryddhau yn 1976.

Roedd effaith yr argyfwng mor bwerus, i’r graddau bod sgandalau o gwmpas y byd yn parhau i gael eu galw’n ‘gate’, e.e. ‘Irangate’, sy’n cyfeirio at y sgandal yn ystod gweinyddiaeth Ronald Reagan yn y 1980au pan werthwyd arfau i Iran ac yna danfonwyd yr elw at filwyr adain dde y Contras yn Nicaragua, neu ‘Camillagate’ a oedd yn cyfeirio at gyhoeddi trawsgrifiad o sgwrs ffôn rhwng Tywysog Charles a’i gariad ar y pryd, Camilla, Duges Cernyw.

Mae’r sgandal yn pwysleisio pwysigrwydd Watergate yn hanes newyddiaduraeth. Serch hynny, mae rhai yn honni bod effaith Watergate wedi cael ei orbwysleisio (Schudson 1992) neu bod ei bwysigrwydd yn cael ei ailystyried yn hanes newyddiaduraeth erbyn hyn (Zelizer 1993).

Llyfryddiaeth

Schudson, M. 1992. Watergate in American Memory. Efrog Newydd: Basic Books.

Zelizer, B. 1993. Journalists as interpretive communities. Critical Studies in Mass Communication. 10 Medi, tt. 219–37.




Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.