Eic Davies

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:04, 14 Awst 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Athro ysgol, dramodydd a darlledwr radio yn adran chwaraeon y BBC oedd Isaac ‘Eic’ Davies (1909–1993). Creodd nifer o dermau Cymraeg ar gyfer defnydd yn y byd chwaraeon, yn enwedig ym maes rygbi. Eic oedd bennaf gyfrifol am fathu termau fel ‘blaenwr’, ‘canolwr’, ‘cefnwr’, ‘maswr', ‘ mewnwr’, ‘asgellwr’, a ‘golwr’ ac ati sy’n llifo mor naturiol o enau Huw Llywelyn, ei fab, erbyn hyn.

Llyfryddiaeth

  • Eic Davies, Llwybrau’r Nos (Cyhoeddwyd gan yr awdur, 1943).
  • Eic Davies, Cynaeafau (Caerdydd, 1943).
  • Eic Davies, Botymau Prês (Caerdydd, 1944).
  • Eic Davies, Dim ond ‘i fod e’!! (Aberdâr, 1945).
  • Eic Davies, Fforshêm (Caerdydd, 1945).
  • Eic Davies, Y Cam Gwag (Llanydybïe, 1947).
  • Eic Davies, Randibŵ (Caerdydd, 1947).
  • Eic Davies, Fy Mrodyr Lleiaf (Gwauncaegurwen, 1950).
  • Eic Davies, Lleuad Iawn (Gwauncaegurwen, 1950).
  • Eic Davies, Nos Calan Geuaf (Gwauncaegurwen, 1950).
  • Eic Davies, Cwac Cwac (Gwauncaegurwen, 1951).
  • Eic Davies, Ewch Ati (Llandybïe, 1954).
  • Eic Davies, Y Tu Hwnt i’r Llenni (Llandybïe, 1954).
  • Eic Davies, Y Dwymyn (Morgannwg, 1958) (2il arg.). [Methu dod o hyd i’r arg. cyntaf]
  • Eic Davies, Doctor Iŵ Hŵ (Llandysul, 1966).

Amdano

  • Rita Williams, ‘Isaac Gawr’, Golwg, cyfrol 5, rhif 40 (17 Mehefin, 1993), t. 30.
  • Dafydd Rowlands, ‘Eic’, Barn, rhif 368 (Medi 1993), tt. 18–19.
  • (Gol.) Myrddin ap Dafydd, Cyfrol Deyrnged Eic Davies (Llanrwst, 1995).

Cyfeiriadau

  • Gwyddoniadur Cymru, t. 272.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.