Eironi

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Dywediad neu sefyllfa y mae ei arwyddocâd yn groes i’r amlwg neu’r disgwyliedig.

Deillia’r ymadrodd o’r iaith Roeg, lle cafwyd, yn nramâu clasurol y wlad, gymeriad stoc o’r enw Eiron, a ddinoethodd wendidau’r balch a’r grymus gydag ymddygiad a chwestiynau ffug-ddiniwed. Addasodd Socrates (470/469 – 399 CC) y dechneg at fyd athroniaeth gan ofyn cwestiynau ymddangosiadol naïf er mwyn dadlennu ffaeleddau dadleuon ei ddisgyblion a’i wrthwynebwyr. Defnyddir eironi Socrataidd o hyd mewn addysg a dadleuon.

Datblygwyd ystyr eironi yn ddiweddarach i olygu gwrthgyferbyniad bwriadol neu anfwriadol rhwng yr ymddangosiadol a’r gwirioneddol, neu rhwng delfryd a realaeth mewn unrhyw ddywediad neu ddigwyddiad.

Fe’i dosberthir yn aml yn dair prif ffurf.

Mae eironi geiriol yn dechneg awdurol fwriadol sy’n cyfleu ystyr drwy haeru’r gwrthwyneb. Yn Y Mabinogi, ar ôl twyllo Lleu Llaw Gyffes i ddatgelu’r amgylchiadau lle gellir ei ladd, dywed ei wraig anffyddlon, Blodeuwedd: ‘diolchaf y duw hynny. ef aellir rac hynny dianc yn hawd’, ond llofruddiaeth yw ei bwriad. Yng nghywydd Huw Llwyd (1568? ̶ 1630?), ‘Cyngor y Llwynog’, anogir pob math o gyfrwystra, e.e.: ‘Dos ag enw, dysg weniaith’, ond condemnio anfoesoldeb yw bwriad yr awdur. Yn y ddihareb, ‘Gorau Cymro, Cymro oddi cartref’, dadlennir gwagedd yr haeriad hwnnw.

Mae eironi dramataidd yn golygu digwyddiadau y mae eu canlyniadau’n groes i ddisgwyliadau’r gwrthrychau, e.e. yn Y Gododdin, cyn eu brwydr olaf, aeth y trichant i’r eglwys: ‘Dadl diau angau i eu treiddu.’ Gŵyr y bardd a’r gynulleidfa na atebir y weddi honno. Yn y bennod ‘Vital Spark’ yn nofel Daniel Owen, Enoc Huws (1891), cymaint yw brwdfrydedd cerddorol y capelwyr fel y dechreuant ymarfer yr emyn angladdol ‘Vital Spark’ cyn gynted ag y mae un o’u cyd-aelodau’n gwaelu. Mae’r darllenydd yn deall nad gwir ystyr crefydd sy’n eu cymell.

Mae eironi sefyllfaol yn golygu digwyddiadau go-iawn y mae eu hymddangosiad, eu bwriad, a’u disgwyliad yn groes i’w harwyddocâd neu i’w canlyniadau. Gall amrywio o’r trasig, megis byddardod Beethoven, i’r ysgafn chwerwfelys, megis y Crynwr John Greenleaf Whittier yn cyfansoddi cerdd ‘Dear Lord and Father of Mankind’ er mwyn annog addoliad tawel di-emyn - cerdd a drowyd maes o law yn emyn.

Er mwyn ymarfer neu adnabod eironi, rhagdybir craffter, sylwgarwch a dirnadaeth i dreiddio allanolion arwynebol. Un o arfau annibyniaeth barn ydyw, arwydd o ryddid y rheswm sy’n herio meddylfrydau llwyrfrydig, crediniol a llythrennol. Yn hanesyddol, felly, bu eironi ar y cyfan yn islais sgeptigaidd yn cwestiynu rhagdybiaethau uniongred - gweithred mwy neu lai peryglus yn ôl pa mor awdurdodaidd a pharod i gosbi fo’r cyfnod.

Tybir i’r cywair eironig mewn llenyddiaeth, mewn sylwebaeth ac yn yr ymwybyddiaeth gyffredinol gryfhau yn y Gorllewin yn yr 20g. gyda thwf dadrith, rhyddfrydiaeth, addysg a seciwlariaeth. Erbyn dechrau’r 21g., honnir yn aml mai eironig yn ei hanfod bellach yw ymwybyddiaeth cymdeithas y Gorllewin drwyddi: yn amheus o bob awdurdod, yn ymgroesi rhag pob ymroddiad ac yn tanseilio pob sefydliad. Ac er gwell neu er gwaeth, honnir mai islais mwyach yw diffuantrwydd, delfrydiaeth, ymddiriedaeth a didwylledd - tro ar fyd y gellir yn wir ei alw’n un eironig.

Grahame Davies

Llyfryddiaeth

Enright, D. J. (1988), The Alluring Problem: An Essay on Irony (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen).

Winokur, J. (2007), The Big Book of Irony (Efrog Newydd: St Martin’s Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.