Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Arferir olrhain dechreuadau’r eisteddfod yng Nghymru i’r wledd fawr a gynhaliwyd yng nghastell Aberteifi yn 1176. Yn ôl cofnod Brut y Tywysogyon, trefnodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd ‘ddeuryw ymryson’, un rhwng beirdd a phrydyddion ac un arall ‘rhwng telynorion a chrythorion a phibyddion’. Mae’n debyg felly fod y wledd fawr, a oedd yn dilyn patrymau’r gwledydd Celtaidd eraill yn ogystal â’r puy Normanaidd, yn cynnig cyfle i gerddorion o bob rhan o Gymru a’r gwledydd Celtaidd gystadlu yn erbyn ei gilydd. Er nad eisteddfod yn yr ystyr fodern oedd cyfarfod 1176, mae’n fan cychwyn i hanes yr ŵyl nodweddiadol Gymreig a ddethlir ar sawl lefel, o’r genedlaethol i’r leol, yn yr 21g.; ac mae’n eglur fod i gerddoriaeth ei lle ynddi.

Ceir cofnod am eisteddfodau yn y 15g. a’r 16g., a’u nod o warchod y traddodiadau mawl, gan gynnwys y telynorion a’r datgeiniaid - yng Nghaerfyrddin tuag 1452, ac yng Nghaerwys yn 1523 ac 1567. Llenyddol oedd pwyslais yr eisteddfodau neu’r cyfarfodydd cystadleuol a gynhelid fel arfer mewn tafarndai yn y 18g., ond yn 1789, dan arweiniad Thomas Jones, Corwen, a chyda chefnogaeth Cymdeithas y Gwyneddigion, Llundain, sefydlwyd patrwm o gystadlu agored mewn eisteddfod a gynhaliwyd yn y Bala, a dyma wreiddyn yr eisteddfod fel y gwyddom amdani heddiw. O 1819 hyd 1834 cafwyd cyfres o eisteddfodau rhanbarthol dan arweiniad yr ‘hen bersoniaid llengar’, offeiriaid Anglicanaidd a ymddiddorai’n ddwfn mewn traddodiadau Cymreig, a’r eisteddfodau hyn a ddechreuodd roi mwy o le i gerddoriaeth, trwy gystadlaethau i gantorion ac offerynwyr traddodiadol a thrwy gyngherddau lle clywid talentau estron. Dyma ddechrau’r frwydr rhwng y traddodiadol Gymreig a’r celfyddydol Seisnig ym myd cerddoriaeth yr eisteddfod, brwydr a oedd i barhau ymhell i’r 20g.

Rhoddwyd lle anrhydeddus i gerddoriaeth Gymreig yn yr eisteddfodau a gynhaliwyd dan nawdd Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer; 1802–96), a Chymreigyddion y Fenni, rhwng 1835 ac 1853. Gwobrwywyd telynorion a ganai’r delyn deires draddodiadol a chynhaliwyd cystadlaethau ysgrifenedig yn ymwneud â’r traddodiad Cymreig. Dyfarnwyd yr wobr gyntaf yn 1837 i Maria Jane Williams (1795–1873) o Aberpergwm am gasgliad o alawon gwerin Cymreig a’r ail wobr i John Thomas (Ieuan Ddu; 1795–1871). Cyhoeddwyd y ddau gasgliad: Ancient National Airs of Gwent and Morganwg Maria Jane Williams yn 1844 a The Cambrian Minstrel/Y Caniedydd Cymreig Ieuan Ddu yn 1845. Ond mynd dan gwmwl fyddai tynged cerddoriaeth Gymreig draddodiadol ym myd yr eisteddfod am flynyddoedd wedi hynny, gyda thwf canu corawl a dyfodiad y delyn bedal, a ddaeth yn symbol o gerddoriaeth Gymreig.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Roedd datblygiad y mudiad eisteddfodol ar raddfa genedlaethol yn cydoesi â’r twf mewn canu cynulleidfaol a chorawl yng Nghymru. Dan ddylanwad Cymry a gododd i amlygrwydd cerddorol yn Llundain, yn enwedig Brinley Richards (1817-85), athro piano yn y Coleg Cerdd Brenhinol, a John Thomas (Pencerdd Gwalia; 1826–1913), telynor a hyrwyddodd y delyn bedal ar draul y deires ac a benodwyd yn delynor i’r teulu brenhinol, dechreuwyd arddel safonau cyngherddol Ewropeaidd.

Pan gynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1867 mynnodd Brinley Richards gael artistiaid o Lundain i berfformio yn y cyngherddau, er mai cymysg iawn oedd ymateb y gynulleidfa iddynt. Yr Eisteddfod a roddodd lwyfan i berfformiadau o Messiah Handel, yng Nghaer yn 1866 ac yn Rhuthun yn 1868, gan helpu i wneud y gwaith hwnnw yn drysor cenedlaethol a’i gyfansoddwr yn Gymro er anrhydedd. Daeth cyngherddau’r Eisteddfod hefyd yn fodd i roi llwyfan i weithiau gan gyfansoddwyr Cymreig a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod ei hun, megis Llewelyn gan Bencerdd Gwalia yn Abertawe (1863) a Saul of Tarsus gan Joseph Parry yn y Rhyl (1892), a sefydlwyd arfer o gasglu cantorion ardal at ei gilydd i ffurfio Côr yr Eisteddfod. Eto i gyd, ni fyddai eisteddfodwyr bob amser yn ymateb yn dda i’r hyn a ystyrient yn uchel-ael ac yn ddieithr.

Wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf ceisiodd y Cyngor Cerdd Cenedlaethol dan arweiniad Walford Davies (1869-1941) ddod â phrofiadau cerddorol newydd i gynulleidfaoedd Cymru, ond gwrandawiad anfoneddigaidd tu hwnt a gafodd perfformiad o’r Dioddefaint yn ôl Sant Mathew gan Bach yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn 1923. Serch hynny, bu dylanwad y Cyngor Cerdd yn llesol, oherwydd erbyn yr 1930au cafwyd perfformiadau uchelgeisiol gan gorau lleol. Arweiniodd Matthew W. Davies (1882–1947) Gôr Eisteddfod Castell-nedd (1934) mewn perfformiad o Belshazzar’s Feast gan William Walton, a oedd yn waith newydd ar y pryd, wedi’i gyhoeddi dair blynedd ynghynt; perfformiodd Côr Eisteddfod Caerdydd 1938 yr Offeren yn B Leiaf gan Bach yn ogystal â Requiem Brahms a gweithiau eraill; yn 1939 cafwyd perfformiad gan gôr Eisteddfod Dinbych o oratorio Edward Elgar, The Apostles, dan arweiniad T. Hopkin Evans (1879–1940). Wedi i’r rheol Gymraeg ddod i rym yn 1950 sefydlwyd patrwm o baratoi geiriau Cymraeg i gyfanweithiau Ewropeaidd a’u perfformio’n llwyddiannus. Mae’r traddodiad o godi Côr yr Eisteddfod o blith cantorion bro’r Eisteddfod yn parhau, er nad yw’r gweithiau a genir bellach mor uchelgeisiol.

Gŵyl gystadleuol yw eisteddfod yn ei hanfod, fodd bynnag, ac erbyn diwedd y 19g. cystadlaethau cerddorol oedd uchaf yng ngweithgarwch yr Eisteddfod, a’r beirdd yn aml yn cwyno nad oedd digon o le nac amser i bethau llenyddol. O’r 1870au ymlaen byddai gornestau corau meibion a chorau cymysg yn destun rifalri lleol, a chystadlaethau unawdol yn denu nifer dda o gystadleuwyr.

Eto i gyd, roedd Seisnigrwydd y cystadlaethau hyn, o’r cyfnod Fictoraidd hyd at yr Ail Ryfel Byd, yn creu tyndra. Cafodd nifer o gorau amlwg o Loegr lwyddiant ar draul corau Cymru, a deuai beirniaid o’r tu hwnt i Glawdd Offa, er bod y rheini yn aml yn bobl o fri cerddorol, megis y cyfansoddwr Samuel Coleridge-Taylor, yr organydd Walter Parratt, a’r arweinydd Richard Terry. Ond bu’r cystadlaethau hyn hefyd yn gyfle i gorau Cymreig ddisgleirio, yn enwedig y corau o’r ardaloedd diwydiannol megis Dowlais, Merthyr, Rhymni a Rhondda yn y de, a’r Penrhyn a Rhosllannerchrugog yn y gogledd.

Y gornestau corawl a ddenai’r tyrfaoedd i’r ŵyl. Rhwng 1928 ac 1934 bu Côr Ystalyfera yn fuddugol yn y brif gystadleuaeth gorawl bum gwaith; cafodd Côr Meibion Treorci lwyddiant tebyg gyda saith buddugoliaeth rhwng 1952 ac 1964. Enillodd Côr Orpheus Treforys y brif gystadleuaeth i gorau meibion bedair gwaith yn olynol rhwng 1946 ac 1949 ac eto yn 1955 ac 1960; cyflwynir Tlws Coffa Ivor E. Sims (1897–1961), eu harweinydd yn y cystadlaethau hynny, i arweinydd y côr meibion buddugol heddiw.

Bu’r Eisteddfod hefyd yn llwyfan i ddatblygu nifer fawr o gorau merched llwyddiannus, megis Côr Merched Hafren o ardal y Drenewydd, dan arweiniad Jayne Davies. Er i’r gornestau hyn borthi ysbryd cystadleuol a allai fod yn afiach ar adegau, eto roeddynt yn hwb i weithgarwch cerddorol ac yn rhoi nod i’r corau. Erbyn ail hanner yr 20g. roedd nifer y corau yn tueddu i leihau am nad oedd canu corawl yn gymaint o atyniad ac am fod y corau eu hunain yn rhoi eu bryd ar recordio a theithiau tramor yn hytrach na chystadlu eisteddfodol; ond daeth corau newydd i’r amlwg, a sawl un, megis côr cymysg Godre’r Garth a chorau meibion Trelawnyd, Caernarfon a’r Traeth, yn parhau yn driw i’r Genedlaethol.

Ym myd yr unawd bu’r Eisteddfod yn gyfle i arddangos ystod eang o ddoniau lleisiol ac ar brydiau yn fan cychwyn i yrfa broffesiynol. Dyfarnwyd y Rhuban Glas lleisiol am y tro cyntaf yn 1943, er cof am y tenor David Ellis (1873-1941), a oedd ei hun wedi ennill cystadleuaeth yr unawd tenor yn y Genedlaethol dair gwaith, yn 1900, 1904 ac 1907, ac ymhlith yr enillwyr dros y blynyddoedd ceir enwau cantorion adnabyddus, rhai ohonynt, megis Stuart Burrows (1959) a Rhys Meirion (1996) wedi mwynhau gyrfa broffesiynol yn sgil eu llwyddiant.

Dyfernir Gwobr Goffa Osborne Roberts, er cof am y cyfansoddwr T. Osborne Roberts (1879-1948), i’r unawdydd buddugol o dan 25 oed; ac Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts, a sefydlwyd yn 1982 er cof am y gantores Violet Jones, i unawdydd ifanc addawol sydd am ddatblygu gyrfa. O safbwynt cerddorol, un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous dros y blynyddoedd yw’r cystadlaethau offerynnol, lle gwelwyd safonau’n codi’n gyson, a hynny’n gwbl briodol i’r wlad a sefydlodd y Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol gyntaf yn y byd yn 1946, cerddorfa a fu’n perfformio’n gyson yng nghyngherddau’r Eisteddfod. Erbyn heddiw mae’r Eisteddfod yn cynnig tair Rhuban Glas offerynnol i gystadleuwyr o wahanol oedran, ynghyd ag ysgoloriaethau sy’n rhoi cyfle i’r offerynwyr barhau â’u hastudiaethau.

Yn ogystal â meithrin cerddoriaeth glasurol mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn llwyfan i gerddoriaeth werin a chystadlaethau cerdd dant. Sefydlwyd cystadlaethau gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru cyn y Rhyfel Byd Cyntaf – i gasglu a nodi alawon gwerin anghyhoeddedig ac i berfformio alawon gwerin. Ers 1955 dyfernir Tlws Coffa’r Fonesig Herbert Lewis i’r prif unawdydd canu gwerin. Bu sefydlu Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn 1934 yn fodd i hybu diddordeb newydd yn hen grefft canu penillion a alltudiwyd ymron o’r Eisteddfod yn yr 1860au ond a ddaeth erbyn diwedd yr 20g. yn ganolog i’r Eisteddfod, gyda chystadlaethau nid yn unig i unawdwyr, ond i ddeuawdau, triawdau, partïon a chorau cerdd dant; a gwelwyd llawer iawn o ddatblygu ar yr hen grefft. Ceisiwyd hefyd gefnogi cerddoriaeth werin offerynnol trwy gynnig cystadlaethau ar y delyn deires ac offerynnau eraill, a hynny ar faes yr Eisteddfod yn ogystal ag ar y prif lwyfan. Yn negawdau olaf yr 20g. sefydlwyd cystadlaethau canu pop a chanu roc, a daeth y gystadleuaeth unawd allan o sioe gerdd i adlewyrchu poblogrwydd cynyddol y cyfrwng hwnnw.

Ceisiwyd meithrin traddodiad Cymreig o gyfansoddi trwy gynnal cystadlaethau cyfansoddi; cyfrannodd yr Eisteddfod yn arwyddocaol at ddatblygiad traddodiad o’r fath, ac nid cerddoriaeth leisiol yn unig. Dechreuwyd hyn yn yr 1860au, pan gynhyrchwyd cantatas gan John Owen, ‘Owain Alaw’ (1821–83) a darnau corawl gan Joseph Parry (1841–1903), John Thomas (1839–1921), David Lewis (1828–1908) a D. Emlyn Evans (1843–1913), er enghraifft. Mor gynnar ag 1885 (Aberdâr), pan nad oedd llawer o sôn am gerddoriaeth offerynnol glasurol yng Nghymru, dyfarnwyd gwobr i J. T. Rees (1857–1949) am bedwarawd llinynnol. Ysywaeth, cymharol ychydig o weithiau arobryn yr Eisteddfod a gyhoeddwyd, ac aeth cyfran dda ohonynt yn angof. Ond cafodd yr Eisteddfod ran bwysig yn ystod y cyfnod wedi 1945 yn y gwaith o gomisiynu gweithiau gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a’r BBC, a chynigiwyd llwyfan yr Eisteddfod ar gyfer perfformio gweithiau o’r fath: yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1954, y clywyd am y tro cyntaf Bedwaredd Symffoni Daniel Jones (1912–93), er cof am ei gyfaill Dylan Thomas. Ac ers 1990 mae cystadleuaeth Tlws y Cerddor wedi cydnabod cyfansoddwyr ar yr un tir ag enillwyr prif dlysau eraill yr Eisteddfod.

Eisteddfod yr Urdd

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru am y tro cyntaf yng Nghorwen yn 1929. O’r dechrau cafwyd cystadlaethau cerddorol ynddi, yn adlewyrchu’r patrwm traddodiadol o unawdau, partïon, corau a chystadlaethau offerynnol.

Dros y blynyddoedd gwelwyd datblygu cystadlaethau newydd megis canu ysgafn a chanu roc, a bu hyn yn hwb i ddatblygiad cystadlaethau tebyg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mewn eisteddfodau eraill, gan mai’r Urdd yn aml a fu’n arloesi yn y meysydd hyn. Mae strwythur eisteddfodau’r Urdd – lleol, sirol a chenedlaethol – yn sicrhau safon uchel yn y cystadlu gan mai buddugwyr o blith buddugwyr sy’n cystadlu yn yr eisteddfod genedlaethol flynyddol. Mae gan yr Urdd ei phatrwm hithau o dlysau arbennig sy’n anrhydeddu cerddorion pwysig ddoe a heddiw.

Cynigir Medal Goffa Grace Williams yn y brif gystadleuaeth gyfansoddi, ac mae’r cystadlaethau cerddorol yn cyfrannu at Gystadleuaeth Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel, sy’n hybu addewid bendant ym maes perfformio ac yn cydnabod enw un o’r cystadleuwyr disgleiriaf a gododd trwy rengoedd yr Urdd erioed. Bu’r Urdd hefyd yn flaengar o ran cystadlaethau offerynnol gan ddatblygu patrwm o gystadlaethau ensemble a cherddoriaeth greadigol.

Eisteddfodau Lleol

Er bod tuedd i feddwl am y mudiad eisteddfodol yn nhermau gweithgarwch cenedlaethol, cyd-dyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol o’r 1860au ymlaen gyda’r mudiad eisteddfodol lleol. Mae’r nifer o eisteddfodau lleol a gynhaliwyd yn rheolaidd ac yn achlysurol trwy Gymru gyfan y tu hwnt i gyfrif, ond pan ffurfiwyd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn 1998 i geisio cydlynu a chefnogi ymdrechion yr eisteddfodau hyn, cyfrifwyd bod tua 120 ohonynt yn dal i gael eu cynnal yn rheolaidd.

Mewn rhai ardaloedd bu’r traddodiad yn hir ac yn anrhydeddus: mae Eisteddfod Gadeiriol Swyddffynnon, Ceredigion, yn cael ei chynnal yn flynyddol ers 1875; sefydlwyd eraill, megis Eisteddfod y Cymoedd yng Nghwm Rhymni, yn ddiweddar (2006). Gellir synied am Eisteddfodau Teulu James, Pantyfedwen, sy’n cael eu cynnal ym Mhontrhydfendigaid, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi, fel etifeddion yr hen eisteddfodau rhanbarthol. Yn y rhain i gyd ceir patrwm o gystadlaethau cerddorol lle rhoddir cyfle i unawdwyr lleisiol ac offerynnol yn ogystal â phartïon a chorau. Mae rhai cystadlaethau sefydlog mewn eisteddfodau lleol wedi eu mabwysiadu hefyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, megis cystadleuaeth canu emyn neu gystadleuaeth yr ‘Hen Ganiadau’. I lawer o gystadleuwyr o bob oed cynigia’r eisteddfod leol gyfle i ymarfer darnau prawf eisteddfodau’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn hynny o beth mae’n cyflawni un o swyddogaethau gwerthfawrocaf pob eisteddfod, sef symbylu ac ysgogi gwaith a gweithgarwch cerddorol.

Dylid nodi yn ogystal fod y traddodiad eisteddfodol wedi rhoi hwb i gyhoeddi cerddoriaeth Gymreig. Yn hanner cyntaf yr 20g. byddai’r cyhoeddwr D. J. Snell, Abertawe, yn cynnig telerau arbennig i bwyllgorau eisteddfod a fyddai’n dewis eu darnau prawf o’i gatalog ef. Yn yr un cyfnod hysbysebai Stanley Jones, Casnewydd, ei siop dan yr enw ‘Eisteddfod Music Warehouse’, ac mae’n sicr fod pob tŷ cyhoeddi wedi elwa o weithgarwch eisteddfodol ar bob lefel. Yr enghraifft fwyaf nodedig yw gweithgarwch Cwmni Cyhoeddi Gwynn o 1937 ymlaen: defnyddiwyd llawer o ddarnau’r wasg hon mewn cystadlaethau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a llu o eisteddfodau eraill.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.