Eitem 'Ac yn olaf'

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:20, 20 Mehefin 2018 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Zinger (UDA) / ...And Finally

Eitem ysgafn o ddiddordeb dynol a osodir ar ddiwedd bwletin neu raglen newyddion i godi calon y gwyliwr neu’r gwrandäwr drwy ddarlledu stori anhygoel, ryfeddol neu wirioneddol ddiddorol. Yn Unol Daleithiau’r America, mae’r cwmnïau newyddion yn rhoi’r cyfrifoldeb am gasglu ‘zingers’ i weithiwr penodol er mwyn eu defnyddio i lenwi rhaglen neu fwletin yn ôl y galw.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.