Emlyn Williams

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:01, 20 Rhagfyr 2013 gan Gwydion Jones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ganwyd (George) Emlyn Williams ym Mostyn, Sir y Fflint ym 1905 i deulu dosbarth gweithiol, Cymraeg ei iaith. Enillodd ysgoloriaeth i ysgol Ramadeg Treffynnon yn unarddeg oed ac aeth ymlaen i Brifysgol Rhydychen, gydag ysgoloriaeth agored i Goleg Christ Church. Tra roedd yn Rhydychen ymunodd â chymdeithas drama’r Brifysgol.

Cychwynnodd ei yrfa ar y llwyfan pan ymunodd Williams â chwmni theatr rep ym 1927 ac erbyn 1930 roedd hefyd yn awdur dramâu fel A Murder Has Been Arranged a The Late Christopher Bean. Daeth yn enwog dros nos ym 1935 gyda’i ddrama gyffrous Night Must Fall, gydag ef ei hun yn chwarae rhan y prif gymeriad, llofrudd seicopathig. Yr hyn oedd yn gwneud y ddrama hon yn nodedig oedd ei bod yn archwilio cyflwr seicolegol cymhleth y llofrudd. Addaswyd y ddrama yn ffilm ym 1937 gyda Robert Montgomery yn y brif ran ac eto ym 1964 gydag Albert Finney.

Ei ddrama fawr arall oedd The Corn is Green (1938) a seiliwyd ar ei blentyndod yng Nghymru. Williams chwaraeodd ran y bachgen ysgol yn y perfformiad llwyfan cyntaf yn Llundain. Agorodd y ddrama ar Broadway ym 1940 gydag Ethel Barrymore yn chwarae rhan yr athrawes, Miss Moffat, cymeriad oedd wedi’i seilio ar athrawes ysgol Williams, Miss Cook. Addaswyd y ddrama yn ffilm gyda Betty Davies yn chwarae Miss Moffat (1945).

Ym 1944 perfformiwyd ei gomedi ysgafn hunangofiannol The Druid’s Rest yn theatr St Martin’s yn Llundain gyda Richard Burton yn chwarae ei ran lwyfan broffesiynol gyntaf ar ôl i Williams ei weld mewn clyweliad yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â dramâu llwyfan ysgrifennodd Williams nifer o sgriptiau ffilm, gan weithio gydag Alfred Hitchcock (The Man Who Knew Too Much), Carol Reed a chyfarwyddwyr eraill. Bu’n actio a chyfrannu at ddeialog ffilmiau amrywiol wedi’u seilio ar nofelau A. J. Cronin gan gynnwys The Citadel (1938); The Stars Look Down (1939); Hatter’s Castle (1942), a Web of Evidence (1959).

Ei unig ffilm fel cyfarwyddwr oedd The Last Days of Dolwyn (1949). Ef hefyd oedd awdur y sgript a chwaraeodd y brif ran. Gwelwyd Richard Burton yn ei rôl gyntaf ar y sgrin yn y ffilm hon.

Roedd Williams yn enwog am ei sioeau un dyn ac fe deithiodd y byd gyda noson o ddetholiadau o nofelau Dickens, a gellid dadlau iddo greu genre theatrig newydd gyda’r sioeau hyn.

Ar ôl y rhyfel bu’n actio yn The Winslow Boy gan Terence Rattigan a The Deputy neu The Representative gan Rolf Hochhuth ar Broadway. Williams oedd "llais" Lloyd-George yn rhaglen ddogfen arloesol y BBC The Great War (1964).

Ymhlith ei waith arall roedd y gyfrol boblogaidd, Beyond Belief: A Chronicle of Murder and its Detection (1968), cyfrol hanner ffuglennol yn rhoi hanes llofruddwyr ‘Moors’, Ian Brady a Myra Hindley.

Ysgrifennodd hunangofiant mewn dwy gyfrol George (1961) ac Emlyn (1973) ac roedd y rhain yn llwyddiannus iawn hefyd.

Ym 1935 priododd Williams yr actores Molly Shan a fu farw ym 1970. Cawsant ddau fab, Alan a Brook, a aeth ymlaen i fod yn actor. Roedd Brook yn ffrind agos i Richard Burton, gan weithio fel cynorthwywr personol iddo.

Dyfarnwyd anrhydedd Comander Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) i Williams ym 1962.

Pan fu farw ym 1987 roedd wedi actio mewn 41 o ffilmiau a dramâu teledu ac roedd yn awdur 20 o sgriptiau. Bu farw yn ei fflat yn Llundain o gancr ar 25 Medi 1987.

Bywgraffiad gan Rowan O'Neill.