https://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Emrys_ap_Iwan&feed=atom&action=historyEmrys ap Iwan - Hanes diwygio2024-03-29T01:46:31ZHanes diwygio'r dudalen hon ar y wiciMediaWiki 1.28.0https://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Emrys_ap_Iwan&diff=1410&oldid=prevSeimonBrooks am 17:37, 16 Gorffennaf 20162016-07-16T17:37:04Z

<col class='diff-marker' />
<col class='diff-content' />
<col class='diff-marker' />
<col class='diff-content' />

← At y diwygiad blaenorol

Diwygiad 17:37, 16 Gorffennaf 2016

Llinell 14:

Llinell 14:

Yn dilyn Courier a pholemegwyr eraill ysgrifennodd Emrys ap Iwan nifer helaeth o erthyglau ar gyfer y wasg ar faterion gwleidyddol Cymreig y 1880au a’r 1890au. Roedd ‘gwaseidd-dra’ y Cymry a’u tuedd cynyddol i gefnu ar eu hiaith a’u traddodiadau eu hunain yn bwnc llosg iddo, fel yr oedd ymdrechion y Methodistiaid Calfinaidd i ddenu Saeson ariannog i ardaloedd Cymraeg gyda’u ‘Hachosion Seisnig’. Roedd yn gefnogwr brwd i genedlaetholwyr Gwyddelig megis Charles Stewart Parnell, ac yn feirniad ffyrnig o’r Ymerodraeth Brydeinig a’i rhyfeloedd trefedigaethol yn Affrica ac Asia. Cenedl ddarostyngedig oedd Cymru i Emrys ap Iwan yn y pen draw, fel yr oedd Iwerddon, Yr Aifft, ac India, ac o ganlyniad byddai ‘cadw Cymru yn Gymreig o ran iaith ac ysbryd’ yn ‘bwnc pwysicaf o bob pwnc gwleidyddol’ iddo. Crynhoir syniadau gwleidyddol Emrys ap Iwan yn daclus yn yr erthyglau ‘Bully, Taffy a Paddy’ (1880), ‘Sylwadau am y Rhyfel nad oedd yn Rhyfel’ (1882), a ‘Paham y Gorfu’r Undebwyr’ (1895).

Cafodd syniadau Emrys ap Iwan ddylanwad pwysig ar genhedlaeth newydd o ysgrifenwyr a chenedlaetholwyr a ddaeth ar ei ôl megis T. Gwynn Jones, R. T. Jenkins a Saunders Lewis, yn enwedig ar ôl i’w homilïau weld golau dydd yn 1906 a 1909, ei fywgraffiad yn 1912, a thair cyfrol o’i erthyglau ar gyfer y wasg a gyhoeddwyd rhwng 1937 ac 1939. Yn wir, byddai tair elfen ganolog ei genadwri, sef codi urddas yr iaith Gymraeg, chwilio am awdurdod deallusol ac ysbrydoliaeth wleidyddol y tu hwnt i Loegr, a lledaenu cyfiawnder Duw i bob cenedl ddarostyngedig yn y byd, yn gosod conglfaen i ran helaeth o lenyddiaeth a gwleidyddiaeth genedlaethol Gymreig yr 20g.

Cafodd syniadau Emrys ap Iwan ddylanwad pwysig ar genhedlaeth newydd o ysgrifenwyr a chenedlaetholwyr a ddaeth ar ei ôl megis T. Gwynn Jones, R. T. Jenkins a Saunders Lewis, yn enwedig ar ôl i’w homilïau weld golau dydd yn 1906 a 1909, ei fywgraffiad yn 1912, a thair cyfrol o’i erthyglau ar gyfer y wasg a ailgyhoeddwyd rhwng 1937 ac 1939. Yn wir, byddai tair elfen ganolog ei genadwri, sef codi urddas yr iaith Gymraeg, chwilio am awdurdod deallusol ac ysbrydoliaeth wleidyddol y tu hwnt i Loegr, a lledaenu cyfiawnder Duw i bob cenedl ddarostyngedig yn y byd, yn gosod conglfaen i ran helaeth o lenyddiaeth a gwleidyddiaeth genedlaethol Gymreig yr 20g.

'''Philip R. Davies'''

'''Philip R. Davies'''

SeimonBrookshttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Emrys_ap_Iwan&diff=1409&oldid=prevSeimonBrooks: Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Er mai fel ysgrifennwr polemig ac ymgyrchwr selog dros genedlaetholdeb Cymreig ar ddiwedd y 19g. yr adnabyddir Emrys ap Iwan (1848-1906) y...'2016-07-16T17:33:23Z
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Er mai fel ysgrifennwr polemig ac ymgyrchwr selog dros genedlaetholdeb Cymreig ar ddiwedd y 19g. yr adnabyddir Emrys ap Iwan (1848-1906) y...'

Tudalen newydd

__NOAUTOLINKS__

Er mai fel ysgrifennwr polemig ac ymgyrchwr selog dros genedlaetholdeb Cymreig ar ddiwedd y 19g. yr adnabyddir Emrys ap Iwan (1848-1906) yn bennaf, mae gan ei syniadau ar lenyddiaeth a’r traddodiad clasurol Cymreig le pwysig yn hanes cynnar beirniadaeth lenyddol Cymru hefyd.

Cafodd Emrys ei addysgu yng Ngholeg y Bala dan oruchwyliaeth Lewis Edwards, a threuliodd gyfnod estynedig mewn athrofa iaith yn y Swistir yn y 1870au. Fel plentyn, roedd rhyddiaith Ellis Wynne a Morgan Llwyd yn hoff ganddo ac wedi iddo feistroli Ffrangeg, daeth y diwinyddion ac athronwyr, Blaise Pascal (1623-1662) a Jacques-Bénigne Bossuet (1627-1704), yn ddylanwadau pwysig arno hefyd. Rhyddiaith drin a thrafod, didacteg, diwinyddiaeth ac athroniaeth oedd ei brif ddiddordebau beirniadol gan esgeuluso, bron yn llwyr ar hyd ei yrfa, farddoniaeth, drama a ffuglen.

Yn unol â neo-glasurwyr Cymreig eraill y cyfnod megis Syr John Morris-Jones, troes Emrys ap Iwan at glasuriaeth oherwydd cyflwr enbyd llenyddiaeth Gymraeg y 19g. Erbyn y 1880au daethai rhyddiaith Gymraeg yn ‘foesol’ yn lle ‘hardd’, yn ‘sectol’ yn lle ‘cyffredinol’, ‘llygredig’ yn lle ‘pur’, a ‘byrhoedlog’ yn lle ‘tragwyddol’ yn ôl Emrys, ac o ganlyniad byddai’n cysegru rhan sylweddol o’i waith llenyddol rhwng 1876 ac 1903 i ddadlau dros egwyddorion clasurol ac i ddarparu canllawiau ymarferol i lenorion ifainc Cymru.

Safonau hanfodol a oedd wrth wraidd llenyddiaeth dda ym marn Emrys, safonau megis harddwch a defnyddioldeb mewn cynnwys, a threfn ac arddull cain mewn ffurf. Er mwyn i lenor gyrraedd y safonau hyn, rhaid iddo gadw at reolau caeth cyffredinol, rheolau megis cydbwysedd a chymesuredd mewn strwythur, a phurdeb, naturioldeb ac ystwythder mewn iaith. Ac er mwyn i’r llenor ifanc ddysgu’r rheolau hyn, rhaid iddo ddynwared y meistri a fu o’i flaen. Byddai Emrys yn esbonio ac yn helaethu ar y syniadau hyn yn yr erthyglau ‘Cymraeg y Pregethwr’ (1893) a ‘Gwersi i Sgrifenwyr a Siaradwyr Ieuainc’ (1903).

Ynghyd â sylwi ar lenyddiaeth yn gyffredinol, ysgrifennodd Emrys nifer o ysgrifau pwysig ar hanes rhyddiaith Gymraeg o’r 16g. hyd at y 18g.. Yn ‘Y Clasuron Cymraeg’ (1893) a ‘Llenyddiaeth Gymraeg y Cymry Gynt’ (1897) cyflwynodd y thesis mai perthyn i ‘ysgol’ lenyddol, hunangynhaliol a hunangyfeiriol a wnâi llenorion rhyddiaith Gymraeg y Dadeni Dysg, theori nas mynegasid o’i flaen; yn hyn yr oedd Emrys ap Iwan, ym marn Saunders Lewis, ‘o flaen ei oes, ac o flaen yr oes ar ei ôl’.

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr â thuedd fyfyriol a phreifat y Rhamantwyr, ymarferol a chyhoeddus oedd y gwaith o lenydda i Emrys. Dylai llenor ddatgelu gwirioneddau cyffredinol yn lle teimladau personol, a dylai addysgu, argyhoeddi, moli, ceryddu a dychanu. Oherwydd hynny, roedd pamffledwr radicalaidd yr Adferiad yn Ffrainc, Paul-Louis Courier (1773-1825), yn arwr mawr iddo, ac yn yr erthygl ‘Paul-Louis Courier’ (1903) gwelir amddiffyniad egluraf Emrys ap Iwan o alwedigaeth y llenor ymroddedig.

Yn dilyn Courier a pholemegwyr eraill ysgrifennodd Emrys ap Iwan nifer helaeth o erthyglau ar gyfer y wasg ar faterion gwleidyddol Cymreig y 1880au a’r 1890au. Roedd ‘gwaseidd-dra’ y Cymry a’u tuedd cynyddol i gefnu ar eu hiaith a’u traddodiadau eu hunain yn bwnc llosg iddo, fel yr oedd ymdrechion y Methodistiaid Calfinaidd i ddenu Saeson ariannog i ardaloedd Cymraeg gyda’u ‘Hachosion Seisnig’. Roedd yn gefnogwr brwd i genedlaetholwyr Gwyddelig megis Charles Stewart Parnell, ac yn feirniad ffyrnig o’r Ymerodraeth Brydeinig a’i rhyfeloedd trefedigaethol yn Affrica ac Asia. Cenedl ddarostyngedig oedd Cymru i Emrys ap Iwan yn y pen draw, fel yr oedd Iwerddon, Yr Aifft, ac India, ac o ganlyniad byddai ‘cadw Cymru yn Gymreig o ran iaith ac ysbryd’ yn ‘bwnc pwysicaf o bob pwnc gwleidyddol’ iddo. Crynhoir syniadau gwleidyddol Emrys ap Iwan yn daclus yn yr erthyglau ‘Bully, Taffy a Paddy’ (1880), ‘Sylwadau am y Rhyfel nad oedd yn Rhyfel’ (1882), a ‘Paham y Gorfu’r Undebwyr’ (1895).

Cafodd syniadau Emrys ap Iwan ddylanwad pwysig ar genhedlaeth newydd o ysgrifenwyr a chenedlaetholwyr a ddaeth ar ei ôl megis T. Gwynn Jones, R. T. Jenkins a Saunders Lewis, yn enwedig ar ôl i’w homilïau weld golau dydd yn 1906 a 1909, ei fywgraffiad yn 1912, a thair cyfrol o’i erthyglau ar gyfer y wasg a gyhoeddwyd rhwng 1937 ac 1939. Yn wir, byddai tair elfen ganolog ei genadwri, sef codi urddas yr iaith Gymraeg, chwilio am awdurdod deallusol ac ysbrydoliaeth wleidyddol y tu hwnt i Loegr, a lledaenu cyfiawnder Duw i bob cenedl ddarostyngedig yn y byd, yn gosod conglfaen i ran helaeth o lenyddiaeth a gwleidyddiaeth genedlaethol Gymreig yr 20g.

'''Philip R. Davies'''

== Llyfryddiaeth ==

Jones, R. G. (2000), ‘Emrys ap Iwan’, yn Edwards, H. T. (gol.), ''A Guide to Welsh Literature c.1800-1900'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 126-45.

Jones, T. G. (1912), ''Emrys ap Iwan: Dysgawdr, Llenor, Cenedlgarwr – Cofiant'' (Caernarfon: Cwmni’r Cyhoeddwyr Cymreig).

Lewis, S. (1945), ‘Emrys ap Iwan’, yn ''Ysgrifau Dydd Mercher'' (Aberystwyth: Y Clwb Llyfrau Cymreig), tt. 74-78.

Lloyd, D. M. (1937-39), ''Detholiad o Erthyglau a Llythyrau Emrys ap Iwan'' (3 cyfrol) (Aberystwyth: Y Clwb Llyfrau Cymreig).

Lloyd, D. M. (1979), ''Emrys ap Iwan'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

{{CC BY-SA}}

[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
SeimonBrooks