Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Emyn-donau (Cyfansoddwyr)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Roedd y mwyafrif o’r [[emyn-donau]] a gyhoeddwyd i gyd-fynd â salmau mydryddol [[Edmwnd Prys]] yn 1621 yn tarddu o ffynonellau Seisnig ac Ewropeaidd, ac nid hyd nes y cyhoeddwyd argraffiad 1770 o’r ''Llyfr Gweddi Gyffredin'' y gwelwyd ymgais gan Gymro, sef y telynor Evan Williams (Ifan Wiliam neu Ifan Delynor), i lunio [[emyn-donau]] gwreiddiol. Erbyn hynny, fodd bynnag, roedd yr arfer o ganu cynulleidfaol yn ymledu, yn bennaf o dan ddylanwad y Methodistiaid. Defnyddiodd Williams Pantycelyn alawon o Loegr ar gyfer llawer o’i emynau, ond gwyddys iddo hefyd fabwysiadu ambell dôn Gymreig draddodiadol, megis ‘Dewch i’r frwydr’.
+
Roedd y mwyafrif o’r [[emyn-donau]] a gyhoeddwyd i gyd-fynd â salmau mydryddol [[Prys, Edmwnd (1542/3-1623) | Edmwnd Prys]] yn 1621 yn tarddu o ffynonellau Seisnig ac Ewropeaidd, ac nid hyd nes y cyhoeddwyd argraffiad 1770 o’r ''Llyfr Gweddi Gyffredin'' y gwelwyd ymgais gan Gymro, sef y telynor Evan Williams (Ifan Wiliam neu Ifan Delynor), i lunio [[Emyn-donau | emyn-donau]] gwreiddiol. Erbyn hynny, fodd bynnag, roedd yr arfer o ganu cynulleidfaol yn ymledu, yn bennaf o dan ddylanwad y Methodistiaid. Defnyddiodd Williams Pantycelyn alawon o Loegr ar gyfer llawer o’i emynau, ond gwyddys iddo hefyd fabwysiadu ambell dôn Gymreig draddodiadol, megis ‘Dewch i’r frwydr’.
  
 
Anhysbys yw cyfansoddwyr nifer o’r tonau Cymreig sy’n ymddangos yn y casgliadau arloesol ''Peroriaeth Hyfryd'' gan John Parry, Caer (1837), ''Caniadau y Cyssegr'' gan John Roberts, Henllan (1839) a ''Caniadau Seion'' gan Richard Mills (1840), ond gellir amau eu bod wedi eu creu o fewn y cynulleidfaoedd a’u harferai neu wedi eu benthyca o darddellau seciwlar a’u haddasu i’r cysegr. Llwyddwyd yn ddiweddarach i briodoli ambell un ohonynt i gyfansoddwr – gwyddys, er enghraifft, mai Robert Williams (1782–1818), Llanfechell, yw awdur ‘Llanfair’ (‘Bethel’ yw ei henw yn ''Peroriaeth Hyfryd)''. Cyfansoddwyr amatur oedd y rhain yn bennaf: gwaith gwehydd o’r Bala, Rowland Hugh Prichard (1811–87), yw’r dôn ‘Hyfrydol’ a dyfodd yn un o donau mwyaf poblogaidd y traddodiad cynulleidfaol.
 
Anhysbys yw cyfansoddwyr nifer o’r tonau Cymreig sy’n ymddangos yn y casgliadau arloesol ''Peroriaeth Hyfryd'' gan John Parry, Caer (1837), ''Caniadau y Cyssegr'' gan John Roberts, Henllan (1839) a ''Caniadau Seion'' gan Richard Mills (1840), ond gellir amau eu bod wedi eu creu o fewn y cynulleidfaoedd a’u harferai neu wedi eu benthyca o darddellau seciwlar a’u haddasu i’r cysegr. Llwyddwyd yn ddiweddarach i briodoli ambell un ohonynt i gyfansoddwr – gwyddys, er enghraifft, mai Robert Williams (1782–1818), Llanfechell, yw awdur ‘Llanfair’ (‘Bethel’ yw ei henw yn ''Peroriaeth Hyfryd)''. Cyfansoddwyr amatur oedd y rhain yn bennaf: gwaith gwehydd o’r Bala, Rowland Hugh Prichard (1811–87), yw’r dôn ‘Hyfrydol’ a dyfodd yn un o donau mwyaf poblogaidd y traddodiad cynulleidfaol.
  
Gyda thwf a datblygiad canu cynulleidfaol cododd cenhedlaeth newydd o gyfansoddwyr a luniodd emyn-donau a oedd i barhau’n ddefnyddiol ymhlith cynulleidfaoedd am ganrif a mwy. Un o’r rhai mwyaf llwyddiannus oedd John Ambrose Lloyd (1815–74), cerddor hunanaddysgedig a gyhoeddodd gasgliad o’i donau ei hun yn 1843 ac a olygodd y casgliad ''Aberth Moliant'' (1873). Fe’i dilynwyd gan Edward Stephen (Tanymarian; 1822–85) a John Roberts ([[Ieuan Gwyllt]]; 1822–77), a gyhoeddodd ''Llyfr Tonau Cynulleidfaol'' yn 1859. Wrth i gasgliadau tonau amlhau, rhoddwyd llwyfan i gyfansoddwyr eraill, rhai ohonynt, megis [[D. Emlyn Evans]] (1843–1913) a [[David Jenkins]] (1848–1915), eu hunain yn olygyddion casgliadau yn ogystal â bod yn awduron tonau unigol.
+
Gyda thwf a datblygiad canu cynulleidfaol cododd cenhedlaeth newydd o gyfansoddwyr a luniodd emyn-donau a oedd i barhau’n ddefnyddiol ymhlith cynulleidfaoedd am ganrif a mwy. Un o’r rhai mwyaf llwyddiannus oedd John Ambrose Lloyd (1815–74), cerddor hunanaddysgedig a gyhoeddodd gasgliad o’i donau ei hun yn 1843 ac a olygodd y casgliad ''Aberth Moliant'' (1873). Fe’i dilynwyd gan Edward Stephen (Tanymarian; 1822–85) a John Roberts ([[Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822-77) | Ieuan Gwyllt]]; 1822–77), a gyhoeddodd ''Llyfr Tonau Cynulleidfaol'' yn 1859. Wrth i gasgliadau tonau amlhau, rhoddwyd llwyfan i gyfansoddwyr eraill, rhai ohonynt, megis [[Evans, David Emlyn (1843-1913) | D. Emlyn Evans]] (1843–1913) a [[Jenkins, David (1848-1915) | David Jenkins]] (1848–1915), eu hunain yn olygyddion casgliadau yn ogystal â bod yn awduron tonau unigol.
  
Yng ngwaith [[Joseph Parry]] (1841–1903) gwelir llawer o’r naturioldeb Cymreig wedi ei dymheru ag [[addysg]], gan fod Parry wedi astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Yn negawdau olaf y 19g. a hanner cyntaf yr 20g. roedd poblogrwydd y gymanfa ganu yn rhoi cyfle i lu o gyfansoddwyr lleol gael cyhoeddi eu gwaith mewn rhaglenni cymanfa.
+
Yng ngwaith [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]] (1841–1903) gwelir llawer o’r naturioldeb Cymreig wedi ei dymheru ag [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysg]], gan fod Parry wedi astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Yn negawdau olaf y 19g. a hanner cyntaf yr 20g. roedd poblogrwydd y gymanfa ganu yn rhoi cyfle i lu o gyfansoddwyr lleol gael cyhoeddi eu gwaith mewn rhaglenni cymanfa.
  
O gyfnod Edward Stephen (Tanymarian) ac [[Ieuan Gwyllt]] ymlaen rhoddwyd pwyslais cynyddol ar grefft a chywirdeb, ac erbyn yr 20g. roedd to o gyfansoddwyr [[prifysgol]] a weithiai mewn nifer o ffurfiau cerddorol ond a oedd hefyd yn cyfansoddi emyn-donau ac yn golygu casgliadau, megis David Evans (1874–1948) ac [[E. T. Davies]] (1878–1969). Mae’n debyg mai Caradog Roberts (1878–1935), a oedd yntau wedi ennill DMus Rhydychen, oedd y mwyaf cynhyrchiol a llwyddiannus o gyfansoddwyr emyn-donau ei genhedlaeth. Eto i gyd, roedd nifer o emyn-donau mwyaf poblogaidd yr 20g. yn waith rhai nad oeddynt yn gerddorion proffesiynol, John Hughes ([[‘Cwm Rhondda’]]), W. Penfro Rowlands (‘Blaenwern’) ac M. Eddie Evans (‘Pantyfedwen’) yn eu plith.
+
O gyfnod Edward Stephen (Tanymarian) ac Ieuan Gwyllt ymlaen rhoddwyd pwyslais cynyddol ar grefft a chywirdeb, ac erbyn yr 20g. roedd to o gyfansoddwyr [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | prifysgol]] a weithiai mewn nifer o ffurfiau cerddorol ond a oedd hefyd yn cyfansoddi emyn-donau ac yn golygu casgliadau, megis David Evans (1874–1948) ac [[Davies, E. T. (1878-1969) | E. T. Davies]] (1878–1969). Mae’n debyg mai Caradog Roberts (1878–1935), a oedd yntau wedi ennill DMus Rhydychen, oedd y mwyaf cynhyrchiol a llwyddiannus o gyfansoddwyr emyn-donau ei genhedlaeth. Eto i gyd, roedd nifer o emyn-donau mwyaf poblogaidd yr 20g. yn waith rhai nad oeddynt yn gerddorion proffesiynol, John Hughes ([['Cwm Rhondda']]), W. Penfro Rowlands (‘Blaenwern’) ac M. Eddie Evans (‘Pantyfedwen’) yn eu plith.
  
 
'''Rhidian Griffiths'''
 
'''Rhidian Griffiths'''

Y diwygiad cyfredol, am 22:25, 1 Mehefin 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd y mwyafrif o’r emyn-donau a gyhoeddwyd i gyd-fynd â salmau mydryddol Edmwnd Prys yn 1621 yn tarddu o ffynonellau Seisnig ac Ewropeaidd, ac nid hyd nes y cyhoeddwyd argraffiad 1770 o’r Llyfr Gweddi Gyffredin y gwelwyd ymgais gan Gymro, sef y telynor Evan Williams (Ifan Wiliam neu Ifan Delynor), i lunio emyn-donau gwreiddiol. Erbyn hynny, fodd bynnag, roedd yr arfer o ganu cynulleidfaol yn ymledu, yn bennaf o dan ddylanwad y Methodistiaid. Defnyddiodd Williams Pantycelyn alawon o Loegr ar gyfer llawer o’i emynau, ond gwyddys iddo hefyd fabwysiadu ambell dôn Gymreig draddodiadol, megis ‘Dewch i’r frwydr’.

Anhysbys yw cyfansoddwyr nifer o’r tonau Cymreig sy’n ymddangos yn y casgliadau arloesol Peroriaeth Hyfryd gan John Parry, Caer (1837), Caniadau y Cyssegr gan John Roberts, Henllan (1839) a Caniadau Seion gan Richard Mills (1840), ond gellir amau eu bod wedi eu creu o fewn y cynulleidfaoedd a’u harferai neu wedi eu benthyca o darddellau seciwlar a’u haddasu i’r cysegr. Llwyddwyd yn ddiweddarach i briodoli ambell un ohonynt i gyfansoddwr – gwyddys, er enghraifft, mai Robert Williams (1782–1818), Llanfechell, yw awdur ‘Llanfair’ (‘Bethel’ yw ei henw yn Peroriaeth Hyfryd). Cyfansoddwyr amatur oedd y rhain yn bennaf: gwaith gwehydd o’r Bala, Rowland Hugh Prichard (1811–87), yw’r dôn ‘Hyfrydol’ a dyfodd yn un o donau mwyaf poblogaidd y traddodiad cynulleidfaol.

Gyda thwf a datblygiad canu cynulleidfaol cododd cenhedlaeth newydd o gyfansoddwyr a luniodd emyn-donau a oedd i barhau’n ddefnyddiol ymhlith cynulleidfaoedd am ganrif a mwy. Un o’r rhai mwyaf llwyddiannus oedd John Ambrose Lloyd (1815–74), cerddor hunanaddysgedig a gyhoeddodd gasgliad o’i donau ei hun yn 1843 ac a olygodd y casgliad Aberth Moliant (1873). Fe’i dilynwyd gan Edward Stephen (Tanymarian; 1822–85) a John Roberts ( Ieuan Gwyllt; 1822–77), a gyhoeddodd Llyfr Tonau Cynulleidfaol yn 1859. Wrth i gasgliadau tonau amlhau, rhoddwyd llwyfan i gyfansoddwyr eraill, rhai ohonynt, megis D. Emlyn Evans (1843–1913) a David Jenkins (1848–1915), eu hunain yn olygyddion casgliadau yn ogystal â bod yn awduron tonau unigol.

Yng ngwaith Joseph Parry (1841–1903) gwelir llawer o’r naturioldeb Cymreig wedi ei dymheru ag addysg, gan fod Parry wedi astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Yn negawdau olaf y 19g. a hanner cyntaf yr 20g. roedd poblogrwydd y gymanfa ganu yn rhoi cyfle i lu o gyfansoddwyr lleol gael cyhoeddi eu gwaith mewn rhaglenni cymanfa.

O gyfnod Edward Stephen (Tanymarian) ac Ieuan Gwyllt ymlaen rhoddwyd pwyslais cynyddol ar grefft a chywirdeb, ac erbyn yr 20g. roedd to o gyfansoddwyr prifysgol a weithiai mewn nifer o ffurfiau cerddorol ond a oedd hefyd yn cyfansoddi emyn-donau ac yn golygu casgliadau, megis David Evans (1874–1948) ac E. T. Davies (1878–1969). Mae’n debyg mai Caradog Roberts (1878–1935), a oedd yntau wedi ennill DMus Rhydychen, oedd y mwyaf cynhyrchiol a llwyddiannus o gyfansoddwyr emyn-donau ei genhedlaeth. Eto i gyd, roedd nifer o emyn-donau mwyaf poblogaidd yr 20g. yn waith rhai nad oeddynt yn gerddorion proffesiynol, John Hughes ('Cwm Rhondda'), W. Penfro Rowlands (‘Blaenwern’) ac M. Eddie Evans (‘Pantyfedwen’) yn eu plith.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.