Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Endaf Emlyn"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(categori newydd: Categori:Ffilm a Theledu Cymru)
B (nodyn am y drwydded CC)
Llinell 19: Llinell 19:
 
==Fideos==
 
==Fideos==
  
<html><iframe src="https://llyfrgell.porth.ac.uk/embed/collection/21857" mozallowfullscreen="mozallowfullscreen" webkitallowfullscreen="webkitallowfullscreen" allowfullscreen="allowfullscreen" width="100%" height="900" scrolling="no" frameborder="0"></iframe></html>
+
<html><iframe src="https://llyfrgell.porth.ac.uk/embed/collection/21857" mozallowfullscreen="mozallowfullscreen" webkitallowfullscreen="webkitallowfullscreen" allowfullscreen="allowfullscreen" width="100%" height="795" scrolling="no" frameborder="0"></iframe></html>
  
 
{{DEFAULTSORT:Emlyn, Endaf}}
 
{{DEFAULTSORT:Emlyn, Endaf}}
 
[[Categori:Ffilm a Theledu Cymru]]
 
[[Categori:Ffilm a Theledu Cymru]]
 
[[Categori:Cyfarwyddwyr]]
 
[[Categori:Cyfarwyddwyr]]
 +
 +
{{CC BY}}
  
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__

Diwygiad 08:38, 18 Awst 2014

Ganwyd Endaf Emlyn ger Bangor ar y 31ain Gorffenaf, 1944. Dechreuodd Emlyn ar ei yrfa fel cerddor a sgriptiwr ar gyfer HTV. Daeth yn gynhyrchydd/cyfarwyddwr annibynnol ym 1982 gan sefydlu’r cwmni cynhyrchu Gaucho ym 1984 a oedd yn arbenigo mewn cynyrchiadau drama ffilm unigol wedi eu ffilmio yng Nghymru a thrwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.

Mae ei gynyrchiadau teledu’n cynnwys y rhaglen ddogfen roc Shampw (1983), y ffilm gomedi Gaucho (1984), y ffilm gerdd i blant Y Dyn Nâth Ddwyn y Dolig (1985), y ffantasi am deithio drwy amser Y Cloc (1986) a dwy raglen ddogfen 50 munud o hyd, Taith trwy Jafa a Bali a Patrwm Bywyd. Dangosodd Stormydd Awst (1987), ei ffilm hyd llawn gyntaf, effaith teledu ar gymuned fechan yn y 1950au ac ar berson ifanc arbennig a’i deulu gan enill gwobrwyon yng ngwyliau ffilm Stockholm a Würzburg.

Ym 1991 cyfarwyddodd Emlyn y ffilm Un Nos Ola' Leuad, sy'n addasiad o nofel gan Caradog Pritchard. Cynhyrchwyd y ffilm gan Gaucho, a chafodd lwyddiant byd eang a chlod gan y beirniaid. Dewiswyd hi i gael ei dangos mewn nifer o wyliau ffilm mawreddog gan gynnwys San Sebastián, Llundain, Caeredin, Troia, Texas a Melbourne. Gwerthodd y cwmni gwerthiant ffilm adnabyddus o Lundain, Jane Balfour Films, y ffilm ledled y byd, ac fe’i gwelwyd mewn sinemâu yn Siapan ac Awstralia ymysg lleoliadau eraill.

Ffilmiwyd Gadael Lenin, sy’n adrodd stori trip ysgol i St Petersburg, ar leoliad yn Rwsia ym 1993. Dosbarthwyd y ffilm yn y DU gan Feature Film Co. ac enillodd wobr o £10,000 am y Ffilm Brydeinig Orau gan Gynulleidfaoedd yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain ym 1993. Enillodd Wobr y Ffilm Orau yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd ym 1994 ac enillodd Emlyn a’r cydawdur, Sion Eirian, Wobr Writers’ Guild y DU am y Sgript Orau mewn ffilm nad oedd trwy gyfrwng y Saesneg.

Aeth ymlaen i gyfarwyddo’r ffilm Y Mapiwr ym 1995, ffilm gyda chyffyrddiadau swreal, am fachgen ar y trothwy rhwng plentynod a’i arddegau. Ni chafodd hion yr un llwyddiant rhyngwladol a’r ddwy flaenorol ond roedd Emlyn eisoes wedi gosod ei farc fel un o brif gyfarwyddwyr sinema yn yr iaith Gymraeg.

Aeth ymlaen wedyn i gyfarwyddo un gyfres o’r ddrama boblogaidd Tair Chwaer, a chyfarwyddo drama dair rhan drwy gyfrwng y Saesneg ym 1999 o’r enw In The Company of Strangers.

Daeth yn ôl at y ffilm Gymraeg yn 2002 gan gyfarwyddo’r ffilm Dirgelwch yr Ogof, sy'n addasiad o lyfr adnabyddus T. Llew Jones.

Cyfeirnodau

Fideos


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.