Epigram

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cwpled cynganeddol bachog, cynnil a chofiadwy sy’n cynnig cyngor neu’n traethu rhyw wirionedd neu ddoethineb arhosol yw epigram. Y mae cywyddau Beirdd yr Uchelwyr yn llawn o gwpledi o’r fath, ac y maent ymhlith y pethau perffeithiaf a luniwyd erioed yn y Gymraeg, er enghraifft:


Câr yn cyhuddo arall,
Hawdd i’r llaw gyhuddo’r llall.
(Tudur Aled)


Trwm ar iâ yw tramwy’r ôd,
Trymach yw torri amod.
(Wiliam Llŷn)


Y drwg aml a drig yma,
A Duw yn dwyn pob dyn da.
(Siôn Tudur)


Meddwl trwm a ddeil y troed,
Ufuddhau a fydd ddioed.
(T. Gwynn Jones)


Gwell tlawd bach fo’n iach a noeth
Nag afiach mewn siôl gyfoeth.
(Idwal Lloyd)


Gellir cael epigram un-llinell hefyd, fel ‘Rhy fyr i’r hwyaf ei oes’, Guto’r Glyn; ‘A fyddo ddof, hawdd ei ddal’, T. Gwynn Jones, a ‘Nid dig yw’r goedwig i gyd’, Rhydwen Williams, ond mae epigramau ar ffurf cwpledi yn llawer mwy effeithiol nag epigramau un-llinell.

Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).

Llwyd, A. (gol.) (1988), Y Flodeugerdd o Ddyfyniadau Cymraeg (Llandysul: Gwasg Gomer).

Llwyd, A. (gol.) (1985), Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.