Eschatoleg

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:13, 17 Hydref 2016 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ymdrin â'r pethau diwethaf a wna eschatoleg (ystyr eschatos yn y Roeg yw ‘olaf’). Athrawiaeth grefyddol ydyw sy'n ymdrin â digwyddiadau olaf hanes – diwedd y byd, barn dragwyddol, nefoedd ac uffern. Er bod sawl crefydd yn cynnwys agweddau ar athrawiaeth eschatoleg gan gynnwys Islam, Hindŵaeth, Iddewiaeth a Christnogaeth, yng Nghymru, eschatoleg Gristnogol sydd wedi bod yn fwyaf dylanwadol. Mae i’r athrawiaeth ran amlwg yn nhraddodiad llenyddol, diwinyddol a gwleidyddol Cymru.

Y testunau craidd Beiblaidd y sylfaenir eschatoleg Gristnogol arnynt yw Mathew 24, Ioan 14, 1 Thessaloniaid 4 a Datguddiad 22. Mae’r adrannau hyn yn dweud y bydd Iesu Grist yn dychwelyd i’r byd fel barnwr i sefydlu ei deyrnas a fydd yn para hyd byth. Disgwylir digwyddiadau penodol i ragflaenu’r Ailddyfodiad – pregethu’r efengyl ym mhob gwlad, cyfnod o chwerwder mawr, dyfodiad gau broffwydi a’r Anghrist, arwyddion yn y ffurfafen a thröedigaeth yr Iddewon at Gristnogaeth.

Un o themâu amlycaf llenyddiaeth grefyddol Gymraeg yr Oesoedd Canol oedd Dydd y Farn. Wrth ystyried safon byw isel Cymry’r cyfnod mae’n hawdd synio fod barn Duw a’r ysfa am ddihangfa o’r byd hwn yn rhywbeth real iawn iddynt. Gwêl Gruffudd ab yr Ynad Coch (c.1280) farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn nhermau barn Duw a diwedd y byd. Yng ngwaith y bardd Siôn Cent rhoddir sylw manwl i’r Ailddyfodiad a’r Farn, fel y gwelir yn ‘I’r Byd’, ‘Y Ffordd i’r Nef’, ‘Rhag digio Duw’ ac ‘I’r Farn Fawr’. Mae ei gywydd ‘Gobeithiaw a ddaw ydd wyf’ yn hollbwysig yn natblygiad canu eschatolegol yn y Gymraeg. Mae’r bardd yn gobeithio am ddyfodiad arweinydd a fydd ar un wedd yn rhyddhau’r genedl yn ysbrydol ond hefyd yn wleidyddol. Canodd Siôn Cent yng nghanol argyfwng cenedlaethol sef methiant gwrthryfel Glyndŵr. Felly gwelir fod i’r cywydd gymhellion gwleidyddol ac ysbrydol. Gwelwn dro ar ôl tro lenorion yn troi at eschatoleg wrth ymateb i drychinebau daearol.

Gŵr arall a rybuddiai ei gynulleidfa am ddyfodiad y Farn oedd Rhys Prichard, ‘Y Ficer Prichard’ (1579-1644). Er mai Eglwyswr pybyr ydoedd, perthynai iddo nodweddion Piwritanaidd, ac yng ngwaith y Piwritaniaid Cymreig, yn enwedig Morgan Llwyd (1619-1659), gwelwn amlygiad eschatoleg mewn llenyddiaeth ar ei fwyaf creadigol. Ysgrifennodd Llyfr y Tri Aderyn yn 1653 ‘cyn dyfod y 666’, sef yr Anghrist. Gweledigaeth o’r byd pechadurus, Angau ac Uffern a gawn gan Ellis Wynne (1671-1734) yn Gweledigaetheu y Bardd Cwsc (1703).

Bu Cymry wrthi hefyd yn ddiwyd yn datblygu athrawiaeth eschatoleg. Datblygodd Morgan Edwards (1722-1795) ddiwinyddiaeth y ‘cipiad’ (1 Thes 4:17). Datblygodd C. H. Dodd yn yr 20g. ‘eschatoleg gyflawnedig’ gan honni mai at y byd presennol y cyfeiriai Iesu Grist pan soniai am Deyrnas Dduw yn y Testament Newydd, nid y byd i ddod.

Cynan Llwyd

Llyfryddiaeth

Charnell-White, C. A. (2000), ‘Y Pedwar Peth Diwethaf – Marwolaeth, Nefoedd, Uffern a’r Farn – yn llenyddiaeth Gymraeg y Ddeunawfed Ganrif’ (traethawd PhD, Prifysgol Aberystwyth).

Rogers, R. S. (1934), Athrawiaeth y Diwedd (Lerpwl: Hugh Evans).

Thomas, M. W. (1991), Morgan Llwyd: Ei Gyfeillion a’i gyfnod (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.