Evans, Alun (Alun Tan Lan; g.1974)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr, gitarydd a chyfansoddwr caneuon acwstig a gwerinol eu naws yn bennaf. Fe’i ganed ym Mhandy Tudur ger Llanrwst. Yn ei arddegau cynnar bu’n aelod o nifer o grwpiau ysgol megis y band pync Dail Te Pawb a Boff Frank Bough, gan chwarae’r gitâr fas. Ond daeth i sylw yn bennaf fel canwr a gitarydd acwstig unigol a hynny i raddau yn nhraddodiad Meic Stevens.

Clywir y sain acwstig hon ar ei albwm unigol cyntaf, Aderyn Papur (Rasal, 2004), a recordiodd ar ôl cyfnod yn byw yn Iwerddon. Perthyn naws werinol, ymlaciol i sain gyffredinol y record, gyda chyfraniadau pwysig i’w clywed gan y chwaraewr ffidil gwerin-jazz amryddawn Billy Thompson ar nifer o’r caneuon (er enghraifft ‘Plant y Tonnau’ a ‘Clown’). Dengys y record hoffter Alun Tan Lan o ysgrifennu traciau offerynnol, ond er ei sain werinol ni cheir arni enghreifftiau na threfniannau o alawon gwerin. Yn hytrach, clywir trefniant acwstig arni o gân roc gan Y Cyrff, ‘Pethau Achlysurol’ (cynhyrchwyd y record gan Mark Roberts, cyn-aelod o’r Cyrff a Catatonia, ar y cyd â Toni Schiavone).

Dilynwyd Aderyn Papur flwyddyn yn ddiweddarach gan ail albwm unigol o’r enw Y Distawrwydd (Rasal, 2005), a oedd yn debyg o ran sain a chynhyrchiad ond a oedd yn ymdrin â pherthynas y canwr gyda’r amgylchfyd naturiol o’i gwmpas, megis yn ‘Heulwen Haf’, ‘Glaw’ ac ‘Eira’. Roedd arno hefyd drefniant effeithiol o un o ganeuon Meic Stevens, ‘Cwm y Pren Helyg’.

Yn sgil llwyddiant y ddwy record, derbyniodd Alun Tan Lan wobr prif leisydd a phrif gyfansoddwr y flwyddyn yn seremoni Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru yn 2005. Yn ystod yr un flwyddyn aeth hefyd ar daith yn cefnogi canwr y Super Furry Animals, Gruff Rhys – edmygwr mawr o Aderyn Papur – a bu’n cydweithio gydag Euros Childs, gynt o Gorky's Zygotic Mynci.

Rhyddhaodd Yr Aflonydd ar label Aderyn Papur yn 2007 ac yna albwm dwbl o’r enw Cymylau ar wefan Soundcloud yn 2012, gyda chyfraniadau arno gan nifer o artistiaid megis Gruffudd ab Arwel a’r cerddor/cynhyrchydd David Wrench, gynt o’r band Nid Madagascar. Bu Alun Tan Lan hefyd yn gitarydd blaen i’r grŵp offerynnol poblogaidd Y Niwl, ac yn hyrwyddo dysgu chwarae’r ukulele, gan gynnal dosbarthiadau nos i’r diben hwnnw yn ardal Dyffryn Conwy a thu hwnt.

Ynghyd ag artistiaid megis Gwilym Morys, Gareth Bonello ( The Gentle Good), Gwyneth Glyn a Lleuwen Steffan, cynrychiola Alun Tan Lan genhedlaeth o gantorion sydd wedi ailddehongli’r traddodiad ‘gwerin’ Cymraeg trwy fynd yn ôl at sylfeini’r grefft o gyfansoddi, gan symleiddio’r trefniannau, y technegau recordio a chynhyrchu, a hynny er mwyn pwysleisio hanfod y gân a’i geiriau.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Aderyn Papur (Rasal CD001, 2004)
  • Y Distawrwydd (Rasal CD010, 2005)
  • Yr Aflonydd (Aderyn Papur ADERYN 001, 2007)
  • Cymylau (soundcloud.com, 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.