Evans, David (1943-2013)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:35, 1 Mehefin 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Darlithydd a cherddoregydd a fu ar wahanol adegau mewn gyrfa academaidd hir ac amrywiol yn dysgu ym mhob un o adrannau cerdd Prifysgol Cymru: Caerdydd, Aberystwyth a Bangor.

Ganed David Richmond Arnold Evans yn Llanelli ar 21 Chwefror 1943. Datblygodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth pan yn ifanc, gan ddysgu’r Corn Ffrengig. Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ar ddiwedd yr 1950au pan oedd cerddorion ifanc megis John Cale a Karl Jenkins hefyd yn aelodau. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn ystod y cyfnod pan oedd Alun Hoddinott yn bennaeth, cyn cychwyn ar yrfa academaidd a barhaodd am dros 40 mlynedd.

Fel ysgolhaig, roedd ei ddiddordebau yn ymestyn o gerddoriaeth y dadeni hwyr fel Thomas Tomkins (1572–1656) ac Adrian Batten (c.1591–c.1637), at gerddoriaeth y 19g., yn arbennig Felix Mendelssohn (1809–47). Roedd yn awdurdod ar lawysgrifau a rhanlyfrau o gerddoriaeth o’r 17g. a gofnodwyd yng Nghastell y Waun. Daeth yn ddarlithydd (ac yn ddiweddarach yn uwch-ddarlithydd) yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor yn 1990, a bu yno hyd at ei ymddeoliad yn 2009. Roedd cerddoriaeth ymarferol yn hynod bwysig iddo ac roedd yn arweinydd corawl medrus. Esgorodd ei waith ar gerddoriaeth Castell y Waun ar recordiad yn 2009 gan gantorion y Brabant Ensemble o dan arweinyddiaeth Stephen Rice.

Chris Collins a Graeme Cotterill

Disgyddiaeth

  • Music from the Chirk Castle Part-Books (Hyperion CDA67695, 2009)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.