Evans, David Pugh (1866-97)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr a aned mewn ffermdy o’r enw Llainwen ym mhlwyf Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin oedd David Pugh Evans. Fe’i codwyd ar aelwyd gerddorol a phan aeth i weithio mewn siop ddillad yn Llanelli ymunodd â chôr capel Seion a oedd o dan arweinyddiaeth y cerddor adnabyddus R. C. Jenkins. Bu hefyd yn mynychu dosbarthiadau nos yn y dref, lle dysgai sol-ffa gan D. W. Lewis a chynghanedd gan Joseph Parry. Yn 1887 enillodd ysgoloriaeth i astudio’r llais yn y Coleg Cerdd Brehinol yn Llundain lle bu am bedair blynedd cyn ymgartrefu yn Abertawe fel athro cerdd.

Roedd yn denor swynol nes i afiechyd amharu ar ei lais, a chyfansoddodd nifer o unawdau. Yn eu plith roedd ‘Brad Dynrafon’ a ‘Tyrd Olau Mwyn’, ond ystyriai Evans ei hun mai’r orau ohonynt oedd ei gân gyntaf oll, ‘Yr Hen Gerddor’ (1893), er cof am y tenor Eos Morlais (Robert Rees). Nodweddir hon gan gyfeiliant diddorol sydd fel petai’n annibynnol ar y llais. Mae trefniant TTBB estynedig y cyfansoddwr o’r emyn-dôn ‘Y Delyn Aur’ (‘Dechrau canu, dechrau canmol’) yn ffefryn gan gorau meibion o hyd. Bu farw ar 3 Chwefror 1897, cyn cyrraedd ei 31 oed.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.