Evans, Geraint (1922-92)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y canwr opera Syr Geraint Llewellyn Evans yng Nghilfynydd ger Pontypridd. Wedi gadael yr ysgol yn 14 oed gweithiodd fel addurnwr ffenestri mewn siop ddillad ym Mhontypridd tra oedd yn derbyn gwersi canu gan Idloes Owen. Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd ymunodd â’r Awyrlu ac yn ddiweddarach cafodd wersi yn Hamburg gyda’r baswr Theo Herrmann (1902–77). Astudiodd yng Ngholeg Cerdd y Guildhall yn Llundain gyda Walter Hyde ac yng Ngenefa gyda Fernando Carpi (1876–1959), un o athrawon llais mwyaf y cyfnod. Gwnaeth Evans ei début yn Covent Garden yn 1948 (ac yno hefyd y rhoddodd ei berfformiad olaf ym mis Mehefin 1984).

Yn ystod ei yrfa ddisglair perfformiodd dros saith deg o rannau ym mhrif dai opera’r byd. Portreadodd Figaro yn Le nozze di Figaro (Priodas Figaro) Mozart dros bum cant o weithiau o 1949 ymlaen, gan gynnwys perfformiad yn La Scala, Milan, yn 1960 – y canwr Prydeinig cyntaf i ganu yno yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Canodd hefyd yn y Staatsoper yn Fienna yn 1957 ac yn Glyndebourne y flwyddyn honno portreadodd Falstaff yn yr opera o’r un enw gan Verdi am y tro cyntaf. Roedd cymeriad Falstaff yn agos iawn at galon Evans ac yn rôl yr ymgymerodd â hi o dan gyfarwyddyd Franco Zeffirelli yn Covent Garden ac yna yn y Metropolitan yn Efrog Newydd yn 1964.

Ymhlith y cymeriadau eraill a bortreadwyd ganddo yr oedd Beckmesser yn Die Meistersinger Wagner, Don Pizarro yn Fidelio Beethoven, Leporello yn Don Giovanni Mozart a’r gwrtharwr eponymaidd yn opera Berg, Wozzeck. Yn wir, Geraint Evans oedd un o’r rhai cyntaf i berfformio’r rôl anodd hon yn y cyfnod wedi’r rhyfel a hynny gyda chywirdeb cerddorol a dramatig perffaith.

Meddai ar lais hynod gyfoethog o gwmpawd eang a hyblyg er nad oedd rhannau uchel baritonaidd yn bosibl iddo. Bu ei berfformiad fel Rigoletto yn opera Verdi yn fethiant yn Covent Garden yn 1964 gan fod tessitura y rhan yn rhy gyson uchel iddo. Fodd bynnag, llwyddiant ysgubol oedd mwyafrif ei ymddangosiadau ar lwyfan. Roedd yn actor naturiol ac argyhoeddiadol, un a ddefnyddiai ei egni anarferol i’r eithaf.

Canodd mewn nifer o berfformiadau cyntaf gan gynnwys Pilgrim’s Progress gan Vaughan Williams (1951), Billy Budd Benjamin Britten (cyfansoddodd Britten gymeriad Budd gydag Evans mewn golwg ond roedd y rhan yn uchel iddo ac ymddangosodd fel Mr Flint, ac yn ddiweddarach fel Claggart), Troilus and Cressida (1954) William Walton, a The Beach of Falesá (1974) a Murder the Magician (1976) gan ei gyfaill y cyfansoddwr Cymreig, Alun Hoddinott.

Clywir ei lais ar ei orau mewn nifer o recordiadau, yn eu plith Falstaff (gyda Georg Solti yn arwain), Figaro (o dan arweiniad Klemperer a Barenboim), Così fan Tutte (Klemperer), Peter Grimes (o dan gyfarwyddyd y cyfansoddwr), Wozzeck (gyda Karl Böhm yn arwain), ynghyd â thair opera Gilbert a Sullivan i gwmni EMI o dan arweiniad Syr Malcolm Sargent.

Yn dilyn ei ymddeoliad bu’n cyfarwyddo operâu, yn bennaf yn Unol Daleithiau America, a bu hefyd yn cynnal nifer o ddosbarthiadau meistr a recordiwyd gan y BBC rhwng 1968 ac 1984. Yn wir, bu’n fawr ei gymwynas i gantorion ifanc yn arbennig, gan hybu gyrfa nifer helaeth o gantorion proffesiynol. Derbyniodd raddau Doethuriaeth er anrhydedd o brifysgolion Cymru a Rhydychen (ymhlith eraill); roedd yn Gymrawd o’r rhan fwyaf o’r conservatoires ym Mhrydain, a derbyniodd Fedal Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1984. Cafodd ei urddo’n Farchog yn 1969 ac ymddangosodd hunangofiant ganddo yn 1984. Bu hefyd yn Uchel Siryf Dyfed ac yn gadeirydd diflino ar Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Lyn Davies

Disgyddiaeth

  • Verdi, Falstaff [cymeriad Falstaff; arweinydd Georg Solti] (RCA Victor SRE5509/11, 1964)
  • Mahler, Des Knaben Wunderhorn [gyda Janet Baker; arweinydd Wyn Morris] (Delysé Records DS6077, 1966)
  • Mozart, Le Nozze di Figaro [cymeriad Figaro; arweinydd Daniel Barenboim] (His Master’s Voice, SLS995, 1977)
  • Mozart, Così fan tutte [cymeriad Guglielmo; arweinydd Otto Klemperer] (EMI Classics CMS 7 63845 2, 1991)

Gwefannau

Llyfryddiaeth

  • Peter Ustinov, Dear Me (Llundain, 1978)
  • Geraint Evans, A Knight at the Opera (Llundain, 1984)
  • Peter Conrad, A Song of Love and Death: The Meaning of Opera (Llundain, 1987)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.