Evans, Meredydd (1919-2015)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:56, 1 Mehefin 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o’r ffigyrau amlycaf a mwyaf dylanwadol yn hanes, diwylliant, ysgolheictod a cherddoriaeth Cymru a’r Gymraeg yn ystod ail hanner yr 20g. Ganed Meredydd Evans (neu Merêd i bawb a oedd yn ei adnabod) yn Llanegryn, Sir Feirionnydd. Cafodd ei fagu a’i addysgu yn Nhanygrisiau a Blaenau Ffestiniog. Aeth i’r Central School yn y Blaenau ar ôl methu’r ysgoloriaeth i’r County School, ond bu’n rhaid iddo adael yn 15 oed i weithio yn y Co-op. Yn 21 oed cychwynnodd ar gwrs hyfforddiant ym Mhrifysgol Bangor er mwyn dod yn weinidog. Fodd bynnag, newidiodd gyfeiriad hanner ffordd trwy’r cwrs er mwyn astudio athroniaeth, ac enillodd radd dosbarth cyntaf yn 1945.

Tra oedd ym Mangor ffurfiodd Triawd y Coleg gyda Robin Williams a Cledwyn Jones, a parhaodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol a chanu phoblogaidd Cymraeg trwy gydol ei oes. Dechreuodd ymddangos ar raglenni Sam Jones ar y BBC, a rhwng 1941 ac 1947 cwblhaodd dros 400 o ddarllediadau radio, gan gynnwys y gyfres Noson Lawen. Cyfarfu â Phyllis Kinney yn haf 1947, a phriododd y ddau yn Ebrill 1948. Ganed eu hunig blentyn, Eluned, yn 1949. Bu Merêd yn dysgu am gyfnod yng Ngholeg Harlech, ac yna bu’n gweithio yn swyddfa papur wythnosol Y Cymro yng Nghroesoswallt, cyn symud yn 1952 i Unol Daleithiau America, lle cychwynnodd ar radd PhD mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Princeton. Rhyddhaodd yr LP Welsh Folk Songs (Folkways Moe Asch, 1954), a ddewiswyd yn un o recordiau gorau’r flwyddyn gan y New York Times.

Wedi derbyn ei ddoethuriaeth bu Merêd yn dysgu athroniaeth ym Mhrifysgol Boston rhwng 1955 ac 1958 cyn derbyn swydd yn adran efrydiau allanol Prifysgol Bangor yn 1960. Am y tair blynedd nesaf bu’n darlithio ar draws Cymru. Teithiai’n rheolaidd i Gaerdydd i ymddangos ar raglenni megis Gwlad y Gân a rhyddhaodd LP, A Concert of Welsh Songs ( Delysé, 1962). Fe’i penodwyd yn bennaeth adloniant ysgafn BBC (Teledu) Cymru yn 1963, a symudodd i Gaerdydd. Rhwng 1963 ac 1973 bu’n gyfrifol am nifer o raglenni adloniant y BBC, megis Hob y Deri Dando, Ryan a Ronnie a Fo a Fe. Sefydlodd Y Dinesydd yn 1970, y cyntaf o’r papurau bro.

Gadawodd y BBC yn 1973 gan dderbyn swydd yn adran efrydiau allanol Prifysgol Caerdydd. Recordiodd yr LP Merêd (Sain, 1975) a bu’n gadeirydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru rhwng 1980 ac 1983. Yn ystod y cyfnod hwn cyhoeddodd ef a Phyllis ddwy gyfrol bwysig o alawon gwerin, Canu’r Cymry (1984) a Canu’r Cymry II (1987). Yn 1985, yn dilyn ymddeoliad Merêd, symudodd y ddau i fyw’n barhaol i’w tŷ mewn llecyn nefolaidd yng Nghwmystwyth. Parhaodd Merêd yn hynod weithgar gan gyflwyno cyfres ar hanes y Beibl ar S4C yn 1988, ymhlith prosiectau eraill. Cyhoeddwyd detholiad o ysgrifau ganddo (o’r enw Merêd) dan olygyddiaeth Geraint Jenkins ac Ann Ffrancon (Gomer, 1994), ac yn fwy diweddar gyfres o ysgrifau i’w anrhydeddu ef a Phyllis a olygwyd gan Sally Harper a Wyn Thomas, Cynheiliaid y Gân (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007).

Bu cyfraniad Merêd yn amlwg mewn nifer o feysydd, ond efallai mai ym myd canu gwerin y gadawodd ei farc pennaf. Ef fyddai’r cyntaf i gydnabod dylanwad J. Lloyd Williams (1854–1945) ar ei waith ymchwil. Bu papurau Lloyd Williams yn y Llyfrgell Genedlaethol yn faes toreithiog i Merêd a Phyllis, ond aeth eu hymchwil gryn dipyn ymhellach na hynny. Buont yn cloddio yn llawysgrifau Ifor Ceri ac yn llyfrau John Parry (Parry Ddall), Edward Jones (Bardd y Brenin) a John Parry (Bardd Alaw) ynghyd â ffynonellau eraill di-ri. Ymchwilwyr fel Merêd a Phyllis oedd yn profi gwerth Llyfrgell Genedlaethol gan mor helaeth a dwfn eu defnydd ohoni a’i chasgliadau amrywiol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf dygodd eu hymdrechion ffrwyth mewn dau lyfr nodedig. Enw Phyllis sydd ar y gyfrol bwysig Welsh Traditional Music (Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), ond roedd Merêd yn gysgod iddi. Yn yr un modd bu hi’n ei gynorthwyo yntau i lunio Hela’r Hen Ganeuon (Talybont, 2009), sef arolwg o hanes casglu caneuon gwerin Cymraeg o ddyddiau Iolo Morganwg hyd at weithgarwch Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn yr 20g.

Dros gyfnod o ddeugain mlynedd gwelwyd enwau Merêd a Phyllis yn britho tudalennau cylchgrawn y Gymdeithas, Canu Gwerin, fel awduron erthyglau, nodiadau a theyrngedau. Buont hefyd yn gyfrifol am amryw o gyfrolau a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas, yn eu mysg Caneuon Gwerin i Blant (1981), y ddwy gyfrol Canu’r Cymry a enwyd eisoes (1984 ac 1987), a Hen Alawon: Carolau a Cherddi (1993). Cyhoeddwyd yn ogystal y darlithoedd a draddodwyd gan y ddau yn eu tro yng nghyfres Darlithiau Coffa Amy Parry-Williams, Canu Jim Cro gan Merêd yn 1990 ac O Lafar i Lyfr gan Phyllis yn 1995.

Nid cyhoeddiadau sych mo’r rhain, ond llyfrau, ysgrifau, darlithoedd a golygiadau bywiog yn tynnu sylw at ganeuon anghyhoeddedig, yn olrhain hanes hwiangerddi a phenillion, yn esbonio ymadroddion tywyll yn y corff o ganu gwerin Cymraeg, yn profi’n gadarn mai yn 1906 y sylfaenwyd y Gymdeithas ac nid yn 1908 fel yr arferid meddwl. Trwy’r cyfan pwysleisiai Merêd natur Gymraeg a Chymreig y canu gwerin.

Arloesodd yn ei ieuenctid trwy gyflwyno caneuon gwerin Cymraeg i gynulleidfaoedd yn yr Unol Daleithiau, ac ni phallodd y brwdfrydedd a’r awydd i ganu. Ac yntau’n gyfuniad anghyffredin o berfformiwr ac ymchwilydd, roedd ei wybodaeth a’i werthfawrogiad o’r caneuon yn ennyn edmygedd. Fe’i gwelid ar ei orau yng nghyfarfodydd a chynadleddau’r Gymdeithas, yn annerch, yn cwestiynu ac yn trafod. Pan ddeuai’r amser i ganu byddai yn ei hwyliau ac wrth ei fodd yng nghwmni’r hen a’r ifanc, yn ymgorfforiad o’r hyn ddylai canu gwerin fod.

Parhaodd ei ddiddordeb mewn cwestiynau moesol, diwinyddol a metaffisegol ar hyd ei oes. Roedd yn genedlaetholwr i’r carn a gweithredodd droeon ar ran Cymdeithas yr Iaith. Bu’n gefnogwr brwd i Adran Athronyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru ac yn ymgyrchydd tanbaid dros sefydlu athroniaeth fel pwnc yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Soniodd llawer am Merêd fel gŵr o egwyddor gadarn; ond roedd hefyd yn hynod hael a goddefgar. Arwydd o’i haelioni oedd ei barodrwydd i drosglwyddo i’r Gymdeithas Alawon Gwerin holl freindaliadau Hela’r Hen Ganeuon. Bydd y gwaith a gyflawnodd Merêd a Phyllis yn sylfaen i waith eraill yn y maes tra pery’r diddordeb mewn canu gwerin yng Nghymru. Derbyniodd Merêd nifer fawr o anrhydeddau yn ystod ei oes, gan gynnwys cael ei wneud yn gymrawd anrhydeddus o Amgueddfa Sain Ffagan (1975), Prifysgol Aberystwyth (1992) a Phrifysgol Bangor (1997).


Mae’r cofnod uchod yn seiliedig ar goffâd i Meredydd Evans yn Barn yn Ebrill 2015.


Rhidian Griffiths, Ann Ffrancon, Geraint Jenkins a Pwyll ap Siôn

Llyfryddiaeth

  • Eluned Evans (gol.) a Rocet Arwel Jones, Merêd: Dyn ar Dân (Talybont, 2016)
  • ‘Meredydd Evans’, erthygl goffa yn Barn, 627 (Ebrill, 2015), 20–24



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.