Evans, Rebecca (g.1963)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:40, 1 Mehefin 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y soprano a’r gantores opera Rebecca Evans ym Mhont-rhyd-y-fen, ger Castell-nedd. Fe’i magwyd ar aelwyd gerddorol – roedd ei mam yn aelod o gwmni opera Ivor Novello ynghyd â chwmni opera ysgafn D’Oyly Carte, a sefydlwyd yn Llundain i lwyfannu gweithiau Gilbert a Sullivan.

Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson, tra’n derbyn gwersi canu gan Jason Shute (a oedd hefyd yn gysylltiedig â D’Oyly Carte). Wedi gadael yr ysgol aeth ymlaen i ddatblygu gyrfa fel nyrs yn Ysbyty Treforys gan berfformio yn achlysurol fel unawdydd gyda chorau lleol. Aeth ar daith fel unawdydd i Ffrainc yn 1987 ac i Ganada yn 1989 gyda Chôr Meibion Treforys. Yn dilyn cyngor gan Bryn Terfel, ymgeisiodd am le fel myfyrwraig yn Ysgol Cerddoriaeth a Drama Guildhall, a derbyniodd ysgoloriaeth i astudio yno gyda Laura Sarti yn 1987. Parhaodd i weithio fel nyrs yn ysbytai Llundain ar benwythnosau er mwyn ariannu ei hastudiaethau cerddorol.

Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru ym Medi 1991 trwy ddirprwyo ar gyfer rôl Ilia yn Idomeneo Mozart, ac erbyn hyn fe’i hystyrir yn un o gantorion mwyaf blaenllaw’r cwmni. Dyma gychwyn ar gyfnod o gydweithio gyda’r arweinydd adnabyddus Syr Charles Mackerras (1925–2010) a ddilynwyd yn ddiweddarach gan gyfres o operetau Gilbert a Sullivan rhwng 1993 ac 1995; canodd brif rannau soprano yn The Pirates of Penzance (Telarc, 1993), H.M.S. Pinafore (Telarc, 1994) a Trial by Jury (Telarc, 1995).

Yn 2007 derbyniodd ran Gretel yn opera Humperdinck Hansel & Gretel, gan gydweithio unwaith yn rhagor gyda Mackerras (Chandos, 2007), a dyfarnwyd gwobr Grammy i’r cynhyrchiad flwyddyn yn ddiweddarach. Yn ychwanegol i’w chyfraniad sylweddol i opera yng Nghymru a Lloegr, bydd yn ymddangos yn rheolaidd ar lwyfannau rhyngwladol. Yn Ewrop, mae wedi perfformio yn nhai opera Munich, Berlin a’r Iseldiroedd; yn Unol Daleithiau America fe’i gwelir ar lwyfan Opera Metropolitan yn Efrog Newydd ac yn nhai opera Chicago a San Francisco.

Wrth iddi ganu gweithiau Puccini, canmolwyd ei pherfformiad o rôl Mimi yng nghynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o La Bohème yn y wasg gerddorol gan Rian Evans am ei ‘gyfoeth o fanylder emosiynol’ (Evans 2006). Bum mlynedd yn ddiweddarach derbyniodd rôl Liù yn Turandot ‘gan ddod â gwirionedd emosiynol i hunanaberth y gaethferch yn y pen draw’ yn ôl Rian Evans eto (Evans 2011).

Disgyddiaeth

  • Gilbert & Sullivan, The Pirates of Penzance (Telarc CD80353, 1993)
  • Gilbert & Sullivan, H.M.S. Pinafore (Telarc CD80374, 1994)
  • Gilbert & Sullivan, Trial by Jury (Telarc CD80404, 1995)
  • Engelbert Humperdinck, Hansel & Gretel (Chandos CHAN 3143, 2007)

Llyfryddiaeth

  • Andrew Stewart, ‘Evans above’, Opera Now (Tachwedd, 1993), 20–22
  • Alun Guy, Cantorion o Fri: Ar Lwyfan y Byd (Llandysul, 2005)
  • Hugh Canning, ‘Ariodante’, Opera Magazine (Awst, 2006), 976



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.