Evans, T. Hopkin (1879-1940)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr, arweinydd corawl a beirniad a aned yn Resolfen, Cwm-nedd. Honnir yn aml ei fod yn gefnder i David Evans (1874–1948) o’r un pentref, a ddaeth yn Athro Cerdd yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, ond nid oeddynt yn perthyn. Gadawodd Hopkin Evans yr ysgol yn ddeuddeg oed a dechrau gweithio gyda’i dad yn y pwll glo yng Nglyncorrwg, yr ochr arall i’r mynydd. Sylwyd ar ei allu cerddorol a threfnwyd iddo gael hyfforddiant yng Nghaerdydd, Birmingham ac yna, pan oedd yn un ar hugain oed, yn Llundain. Rhwng 1903 ac 1909 bu’n organydd capel yn Resolfen lle ffurfiodd gôr cymysg ac ennill yr wobr gyntaf yn yr ail gystadleuaeth gorawl yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn 1905; enillodd wobrau am gyfansoddi yn y cyfnod hwn hefyd.

Symudodd i Gastell-nedd a chafodd ei benodi yn 1910 yn organydd Capel Saesneg London Road ac yn arweinydd côr cymysg y dref. Gyda’r côr hwn, perfformiodd weithiau heriol cyfoes fel Breuddwyd Gerontius (Elgar) yn 1912, ac Omar Khayyam (Granville Bantock) y flwyddyn ganlynol. Bu’n organydd i’r Côr Cenedlaethol Cymreig yn y Festival of Empire yn Llundain yn 1911, ac ef oedd cyfarwyddwr Gŵyl Gerddorol Deheudir Cymru a gynhelid yn y blynyddoedd yn union cyn ac wedi’r Rhyfel Mawr (1913, 1914, 1918 ac 1919) a lle perfformiwyd gweithiau mawr corawl a cherddorfaol. Yn 1919 derbyniodd wahoddiad i fod yn arweinydd Undeb Corawl Cymry Lerpwl (Liverpool Welsh Choral Union) i ddilyn yr enwog Harry Evans a fu farw yn 1914, ac enillodd gydnabyddiaeth gyhoeddus pan ddiolchwyd iddo’n bersonol gan Frederick Delius ar ôl arwain Mass of Life y cyfansoddwr hwnnw yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1933 (Western Mail, 24 Awst 1933).

Roedd Hopkin Evans yn gryn ysgolhaig ac yn gyfarwydd â phrif ieithoedd Ewrop. Enillodd radd MusBac Rhydychen yn 1914 a’r MusDoc yn 1924, ond nid effeithiodd hyn ar ei boblogrwydd fel arweinydd cymanfaoedd canu ledled Cymru ac fel beirniad cyson mewn gwyliau cerddorol gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd hefyd yn gyfansoddwr corawl a cherddorfaol. Perfformiwyd ei waith Kynon ar gyfer unawdydd, côr a cherddorfa am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl yn 1924, ac ef ei hun a drosodd eiriau Coleridge i’r Gymraeg ar gyfer ei waith corawl a cherddorfaol Salm i’r Ddaear a glywyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Port Talbot yn 1932.

Cyfansoddodd nifer o ranganau ar gyfer corau cymysg, corau merched a chorau meibion, a dewiswyd nifer ohonynt, fel y gytgan gyffrous Meibion yr Anial a Mordaith Cariad i TTBB, yn ddarnau prawf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd Gair ein Duw Ni yn un o’i anthemau mwyaf poblogaidd, ac mae ei emyn-dôn ‘Penmachno’ (‘Ar fôr tymhestlog teithio rwyf’) yn ffefryn hyd heddiw. Gyda threfniadau mewn llaw iddo arwain cymanfa ganu ryngwladol yn Ffair y Byd yn Efrog Newydd yn nes ymlaen y flwyddyn honno, bu farw ar 23 Mawrth 1940 yn 61 oed.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.