Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Evans, Wynford (1946-2009)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...')
 
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
 
Ganed y tenor Wynford Evans yn Abertawe a phan oedd yn ifanc iawn daeth yn adnabyddus fel unawdydd trebl ar raglen wythnosol y BBC o Gaerdydd, ''Silver Chords''. Astudiodd yng Ngholeg Cerdd a Drama’r Guildhall ac yno yn 1967 enillodd y Fedal Aur i Gantorion. Yr un flwyddyn enillodd y Gystadleuaeth Cantorion Ifanc Cymreig a dwy flynedd wedi hynny cipiodd yr wobr i denoriaid mewn cystadleuaeth ryngwladol bwysig yn s’Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd.
 
Ganed y tenor Wynford Evans yn Abertawe a phan oedd yn ifanc iawn daeth yn adnabyddus fel unawdydd trebl ar raglen wythnosol y BBC o Gaerdydd, ''Silver Chords''. Astudiodd yng Ngholeg Cerdd a Drama’r Guildhall ac yno yn 1967 enillodd y Fedal Aur i Gantorion. Yr un flwyddyn enillodd y Gystadleuaeth Cantorion Ifanc Cymreig a dwy flynedd wedi hynny cipiodd yr wobr i denoriaid mewn cystadleuaeth ryngwladol bwysig yn s’Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd.
  
Canodd gyda llawer o gwmnïau opera, gan gynnwys Netherlands Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, Kent Opera ac Opéra de Lyon. Oherwydd ei hyblygrwydd, ei ddeallusrwydd a ffresni ei lais fe’i gwahoddwyd yn aml i ganu [[cerddoriaeth gynnar]] gyda grwpiau fel London Early Music, Pro Cantione Antiqua a Fortunes of Fire. Cafodd sawl cyfle hefyd i berfformio’r campweithiau mawr baróc a chyfrannodd at dros 50 o recordiadau, gan gynnwys yr Offeren yn B Leiaf gan Bach a ''The Fairy Queen'' gan Purcell, y ddau dan arweiniad Syr John Eliot Gardiner. Ond o gofio’i ymddangosiadau ar ''Friday Night is Music Night'', ''Melodies For You'', y gyfres ''The Musical World of Wynford Evans'' a rhaglenni cyffelyb (gan gynnwys rhaglenni cerddorol ar S4C), gwelir hefyd fod ochr fwy anffurfiol i’w ganu a’i gwnaeth yn unawdydd apelgar a phoblogaidd. Ni fu ei iechyd yn dda yn ystod ugain mlynedd olaf ei fywyd ac yn y cyfnod hwn daeth yn adnabyddus fel athro canu.
+
Canodd gyda llawer o gwmnïau [[opera]], gan gynnwys Netherlands Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, Kent Opera ac Opéra de Lyon. Oherwydd ei hyblygrwydd, ei ddeallusrwydd a ffresni ei lais fe’i gwahoddwyd yn aml i ganu [[Cynnar, Cerddoriaeth | cerddoriaeth gynnar]] gyda grwpiau fel London Early Music, Pro Cantione Antiqua a Fortunes of Fire. Cafodd sawl cyfle hefyd i berfformio’r campweithiau mawr baróc a chyfrannodd at dros 50 o recordiadau, gan gynnwys yr Offeren yn B Leiaf gan Bach a ''The Fairy Queen'' gan Purcell, y ddau dan arweiniad Syr John Eliot Gardiner. Ond o gofio’i ymddangosiadau ar ''Friday Night is Music Night'', ''Melodies For You'', y gyfres ''The Musical World of Wynford Evans'' a rhaglenni cyffelyb (gan gynnwys rhaglenni cerddorol ar S4C), gwelir hefyd fod ochr fwy anffurfiol i’w ganu a’i gwnaeth yn unawdydd apelgar a phoblogaidd. Ni fu ei iechyd yn dda yn ystod ugain mlynedd olaf ei fywyd ac yn y cyfnod hwn daeth yn adnabyddus fel athro canu.
  
 
'''Richard Elfyn Jones'''
 
'''Richard Elfyn Jones'''
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 22:39, 1 Mehefin 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y tenor Wynford Evans yn Abertawe a phan oedd yn ifanc iawn daeth yn adnabyddus fel unawdydd trebl ar raglen wythnosol y BBC o Gaerdydd, Silver Chords. Astudiodd yng Ngholeg Cerdd a Drama’r Guildhall ac yno yn 1967 enillodd y Fedal Aur i Gantorion. Yr un flwyddyn enillodd y Gystadleuaeth Cantorion Ifanc Cymreig a dwy flynedd wedi hynny cipiodd yr wobr i denoriaid mewn cystadleuaeth ryngwladol bwysig yn s’Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd.

Canodd gyda llawer o gwmnïau opera, gan gynnwys Netherlands Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, Kent Opera ac Opéra de Lyon. Oherwydd ei hyblygrwydd, ei ddeallusrwydd a ffresni ei lais fe’i gwahoddwyd yn aml i ganu cerddoriaeth gynnar gyda grwpiau fel London Early Music, Pro Cantione Antiqua a Fortunes of Fire. Cafodd sawl cyfle hefyd i berfformio’r campweithiau mawr baróc a chyfrannodd at dros 50 o recordiadau, gan gynnwys yr Offeren yn B Leiaf gan Bach a The Fairy Queen gan Purcell, y ddau dan arweiniad Syr John Eliot Gardiner. Ond o gofio’i ymddangosiadau ar Friday Night is Music Night, Melodies For You, y gyfres The Musical World of Wynford Evans a rhaglenni cyffelyb (gan gynnwys rhaglenni cerddorol ar S4C), gwelir hefyd fod ochr fwy anffurfiol i’w ganu a’i gwnaeth yn unawdydd apelgar a phoblogaidd. Ni fu ei iechyd yn dda yn ystod ugain mlynedd olaf ei fywyd ac yn y cyfnod hwn daeth yn adnabyddus fel athro canu.

Richard Elfyn Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.