Ffantasi

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:33, 29 Medi 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Yn y gorffennol, defnyddiwyd y term ‘ffantasi’ i ddynodi ystod eang o weithiau llenyddol, a’r rheini’n cynnwys amryw o elfennau ffantasïol, dyfodolaidd, neu oruwchnaturiol. Mae traddodiad gweddol gryf o lenyddiaeth ‘ffantasïol’ fel hyn yn y Gymraeg, a gellid meddwl am y Mabinogi, Gweledigaetheu y Bardd Cwsc (1703), a gweithiau mwy modern fel Rhys Llwyd y Lleuad (1925) E. Tegla Davies, yn y cyswllt hwn. Heddiw, serch hynny, defnyddir y term fwy neu lai yn unig er mwyn dynodi’r math penodol o lenyddiaeth ffug-chwedlonol sy’n drwm dan ddylanwad gweithiau rhyddiaith o’r 20g. fel The Lord of the Rings (1955) J. R. R. Tolkien, cyfres The Chronicles of Narnia C. S. Lewis, ac amryw enghreifftiau eraill.

Ceir nifer o elfennau storïol ac arddulliol sy’n gyffredin i weithiau ffantasi. Lleolir ffantasi fel arfer mewn byd dychmygol (neu ‘fyd eilaidd’). Os nad oes gan y byd a ddarlunnir yn y gwaith unrhyw gysylltiad â’n byd ni, defnyddir y term ‘ffantasi epig’ am y gwaith hwnnw. Yn aml, darlunnir byd â gorffennol disglair sydd bellach wedi ‘teneuo’ ac sydd angen ei adfer. I wneud hyn, mae’r naratif yn dilyn casgliad o gymeriadau a fydd yn teithio o amgylch y byd dychmygol, yn graddol ddod i ddeall pwysigrwydd eu rôl mewn hanes, weithiau’n gwahanu neu yn ymladd yn erbyn temtasiwn, cyn gorffen mewn ‘ewcatastroffi’ – term a fathwyd gan J. R. R. Tolkien i ddisgrifio diweddglo dyrchafol, fel a geir mewn straeon tylwyth teg.

Mae llenyddiaeth ffantasi wedi profi sawl cyfnod o lwyddiant yn y Saesneg, ac mae'n ffurf sy’n dibynnu’n gryf ar efelychiadau ac ymatebion i weithiau eraill. Mae’r gyfres A Song of Ice and Fire (1996 – ) gan George R. R. Martin, er enghraifft, wedi esgor ar lu o efelychwyr. Er bod dylanwadau ieithyddol, hanesyddol a chwedlonol o Gymru yn amlwg iawn mewn sawl enghraifft ddylanwadol o’r genre – fel The Lord of the Rings, cyfres The Witcher (1992 – ) Andrzej Sapkowski, a chyfres The Chronicles of Prydain (1964 – 1968) Lloyd Alexander – mae defnydd llenyddiaeth Gymraeg o ffantasi, yn ystyr fodern y gair, yn gyfyngedig.

Seren Wen ar Gefndir Gwyn (1992) ac O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn (1994) gan Robin Llywelyn, yn ddi-os, yw’r nofelau ffantasi Cymraeg sydd wedi derbyn y mwyaf o glod beirniadol a llwyddiant masnachol, ac wedi sbarduno’r mwyaf o drafodaeth ynghylch rôl y genre mewn llenyddiaeth Gymraeg. Y rhain hefyd sydd wedi amlygu anwybodaeth llawer o feirniaid a darllenwyr Cymraeg o’r genre, gyda’r gyfrol gyntaf wedi ei disgrifio, ymhlith pethau eraill, fel ‘con trick llenyddol’. Medd Angharad Price:

Mae yna argyhoeddiad dwfn ym meddylfryd llawer o Gymry mai realaeth naturiolaidd bositifaidd – yn hytrach na ‘chwareustra’ ffantasïol ôl-fodernaidd – yw'r ffordd fwyaf cyfrifol i awduron a beirdd cyfoes drafod ‘argyfwng’ presennol yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.

Adeg eu cyhoeddi cafodd y nofelau hyn eu cymharu sawl gwaith â gweithiau J. R. R. Tolkien, ond maent yn debycach, efallai, i waith yr awdur Americanaidd Jack Vance, gyda’u hiwmor a'u helfennau ffug-wyddonol, a chan iddynt ymwrthod â’r broses o ‘adeiladu byd’ sy’n gyffredin i weithiau Tolkien a’i efelychwyr.

Mae Samhain (1994) Andras Millward ac Igam Ogam (2008) Ifan Morgan Jones yn straeon ffantasi mwy traddodiadol yn y Gymraeg, gyda Gardag (1988) Bryan Martin Davies ac Y Ddinas ar Ymyl y Byd (2010) Arwel Vittle hefyd yn cynnwys nifer o elfennau sy’n ymdebygu i ffantasi. Hyd yn hyn, serch hynny, nid yw’r genre wedi derbyn ei sylw haeddiannol yn yr iaith.

Elidir Jones

Llyfryddiaeth

Llywelyn, R. (1994), O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn (Llandysul: Gwasg Gomer).

Llywelyn, R. (1992), Seren Wen ar Gefndir Gwyn (Llandysul: Gwasg Gomer).

Llywelyn, R. (1995), ‘Ffantasi, Llên a Mi’, Golwg, 19 Hydref.

Phillips, L. E. (2009), ‘“Anifeiliaid sy’n Siarad”: Ffuglen Anthropomorffig’, yn Williams, G. (gol.) Ysgrifau Beirniadol XXVIII (Bethesda: Gwasg Gee), tt. 121–53.

Price, A. (2000), Llên y Llenor: Robin Llywelyn (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn).

Price, A. (2002), Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Schimanski, J. (1993), ‘Seren Wen ar Gefndir Gwyn: Genre a Chenedl’, Tu Chwith, 1, 39-42. {{CC BY-SA))