Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ffidil"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Defnyddir y term ‘ffidil’ heddiw i gyfeirio at aelod lleiaf teulu’r feiolin, offeryn llinynnol a chwareir gan amlaf gyda bwa ac a ddatblygwyd yn yr Eidal yn ystod yr 16g. Cyn dyfodiad y feiolin i Gymru defnyddiwyd y term ‘ffidil’ i gyfeirio at nifer o [[offerynnau]] cynharach a gâi eu chwarae â bwa, gan gynnwys y ffidil ganoloesol, y feiol a’r [[crwth]] trithant. Anodd gwybod pa offeryn a chwaraeid gan ''fidicula'' yn hanes [[Gerallt Gymro]] o’r 12g., nac ychwaith y ‘ffidler’ y cyfeirir ato mewn cywydd gan Rhys Goch Eryri yn rhan o adloniant teuluol yr uchelwyr (gw. Harper 2007, 37 & 11). Mae defnydd canoloesol y term yn gysylltiedig gan amlaf gydag adloniant poblogaidd, ac yn yr 16g. rhestrwyd ‘ffidler’ yn un o gerddorion ‘ofer’ Cymru, tra oedd ‘crythor’ ymhlith y pedwar math o fardd cymwysedig.
+
Defnyddir y term ‘ffidil’ heddiw i gyfeirio at aelod lleiaf teulu’r feiolin, offeryn llinynnol a chwareir gan amlaf gyda bwa ac a ddatblygwyd yn yr Eidal yn ystod yr 16g. Cyn dyfodiad y feiolin i Gymru defnyddiwyd y term ‘ffidil’ i gyfeirio at nifer o [[offerynnau]] cynharach a gâi eu chwarae â bwa, gan gynnwys y ffidil ganoloesol, y feiol a’r [[crwth]] trithant. Anodd gwybod pa offeryn a chwaraeid gan ''fidicula'' yn hanes [[Gerallt Gymro]] o’r 12g., nac ychwaith y ‘ffidler’ y cyfeirir ato mewn [[cywydd]] gan Rhys Goch Eryri yn rhan o [[adloniant]] teuluol yr uchelwyr (gw. Harper 2007, 37 & 11). Mae defnydd canoloesol y term yn gysylltiedig gan amlaf gydag adloniant poblogaidd, ac yn yr 16g. rhestrwyd ‘ffidler’ yn un o gerddorion ‘ofer’ Cymru, tra oedd ‘crythor’ ymhlith y pedwar math o fardd cymwysedig.
  
Daeth y ffidil i Loegr yn ystod canol yr 16g., ac mae’n debyg iddi gyrraedd Cymru rywbryd yn ystod yr 17g. Mae nifer o gerddi’r cyfnod yn sôn am y ffidil, ond gan fod y [[crwth]] a’r feiol yn dal mewn bri nid yw’n hollol glir at ba offeryn y maent yn cyfeirio. Fodd bynnag, erbyn y 18g. roedd y ffidil wedi disodli’r hen [[offerynnau]] ac yn cystadlu â’r [[delyn]] am yr anrhydedd o fod yn offeryn mwyaf poblogaidd Cymru. Gyda ffidlwyr proffesiynol ac amatur i’w cael ym mhob cwr o’r wlad, dechreuodd gwneuthurwyr Cymreig wneud offerynnau iddynt; mae ambell enghraifft i’w gweld yn [[Amgueddfa Werin Cymru]].
 
Clywid y ffidil ar bob lefel o’r gymdeithas ac mewn pob math o amgylchiad, o dai bonedd i ffeiriau a thafarndai, o briodasau ac angladdau i wyliau mabsant a nosweithiau llawen. Roedd yn boblogaidd fel cyfeiliant i ddawnsio, gan ddod â ''repertoire'' newydd o ddawnsiau’r cyfnod i Gymru, ond fe’i defnyddiwyd hefyd i gyfeilio i [[ganu penillion]], [[carolau]] a [[baledi]], ac mae nifer o gyfeiriadau ati yn [[anterliwtiau’r]] cyfnod. Mae tair ffynhonnell bwysig o wybodaeth am ''repertoire'' oes aur y ffidil yng Nghymru. Tuag 1717 lluniwyd pedair rhestr o enwau alawon gan y bonheddwr Richard Morris o Fôn, a oedd yn medru chwarae’r ffidil (gw. Parry-Williams 1931). Mae llawysgrif y ffidlwr John Thomas o ogledd- ddwyrain Cymru (1752) yn nodi 526 alaw (Meurig 2003), tra mae llawysgrif y ffidlwr Morris Edward o Ynys Môn, dyddiedig 1778–9, yn nodi 158 alaw (UWB MS 2294).
+
Clywid y ffidil ar bob lefel o’r gymdeithas ac mewn pob math o amgylchiad, o dai bonedd i ffeiriau a thafarndai, o briodasau ac angladdau i wyliau mabsant a nosweithiau llawen. Roedd yn boblogaidd fel cyfeiliant i ddawnsio, gan ddod â ''repertoire'' newydd o ddawnsiau’r cyfnod i Gymru, ond fe’i defnyddiwyd hefyd i gyfeilio i [[ganu penillion]], [[carolau]] a [[baledi]], ac mae nifer o gyfeiriadau ati yn [[anterliwtiau’r]] cyfnod. Mae [[tair]] ffynhonnell bwysig o wybodaeth am ''repertoire'' oes aur y ffidil yng Nghymru. Tuag 1717 lluniwyd pedair rhestr o enwau alawon gan y bonheddwr Richard Morris o Fôn, a oedd yn medru chwarae’r ffidil (gw. Parry-Williams 1931). Mae [[llawysgrif]] y ffidlwr John Thomas o ogledd- ddwyrain Cymru (1752) yn nodi 526 alaw (Meurig 2003), tra mae llawysgrif y ffidlwr Morris Edward o Ynys Môn, dyddiedig 1778–9, yn nodi 158 alaw (UWB MS 2294).
  
Erbyn diwedd y 18g. a dechrau’r 19g. cafodd y diwygiadau crefyddol ddylanwad mawr ar boblogrwydd y ffidil yng Nghymru. Pregethodd y Methodistiaid yn erbyn canu a dawnsio seciwlar, yn enwedig ar y Sul ac mewn gwyliau mabsant. Rhoddodd llawer o ffidlwyr y gorau i chwarae, rhai dan ddylanwad eu crefydd ac eraill o ganlyniad i ddiffyg gwaith. Er hynny, nid pob sefydliad crefyddol oedd yn elyniaethus tuag at y ffidil, ac roedd y defnydd o offerynnau llinynnol i gyfeilio i’r gwasanaeth yn parhau mewn rhai eglwysi. Ond yn ystod y 19g. bu llai a llai o chwarae ar y ffidil, ac aeth ffidlwyr mor brin nes i un gweinidog, y Parch. Edward Matthews, Ewenni, fynegi syndod wrth weld ffidlwr mewn priodas ym Morgannwg.
 
Llinell 12: Llinell 11:
 
Serch hynny, roedd ffidlwyr yn dal i’w cael mewn ambell fan yng Nghymru. Tua diwedd y 19g. casglodd y Parch. William Meredith Morris atgofion am rai o hen ffidlwyr Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Morgannwg mewn llawysgrif o’r enw ‘De Fidiculis’ (gw. Saer 1983). Mae’r straeon yn dyst i barhad y traddodiad gwerin o chwarae ffidil, mewn priodasau ac angladdau, ffeiriau a gwyliau mabsant ac ar gornel stryd. Er bod elfen o ramant yn perthyn i’r hanesion, mae’r llawysgrif yn dod â’r hen ffidlwyr yn fyw, megis Lefi Gibbwn o Gwmfelin Mynach, a oedd hefyd yn faledwr ac yn cyfeilio iddo’i hun wrth ganu, a ‘Swansea Bill’ a oedd yn adnabyddus am chwarae pibddawnsiau a jigiau ar gyfer dawnsio.
 
Roedd Morris ei hun yn medru chwarae a gwneud ffidlau ac yn 1904 cyhoeddodd gyfrol o’r enw ''British Violin Makers''. Ar ddechrau’r 20g. roedd y ffidil yn dal i’w chlywed mewn ambell achlysur tymhorol fel traddodiad y Mari Lwyd, y [[canu gwasael]] a’r dawnsio pawl haf yn ne Cymru, ac yn y dawnsio Morys adeg Calan Mai yn y gogledd-ddwyrain. Wrth i’r agwedd negyddol tuag ati gilio, cafodd le mewn cerddorfeydd capel mewn rhai lleoedd.
+
Roedd Morris ei hun yn medru chwarae a gwneud ffidlau ac yn 1904 cyhoeddodd gyfrol o’r enw ''British Violin Makers''. Ar ddechrau’r 20g. roedd y ffidil yn dal i’w chlywed mewn ambell achlysur tymhorol fel traddodiad y Mari Lwyd, y [[canu gwasael]] a’r dawnsio pawl haf yn ne Cymru, ac yn y dawnsio Morys adeg [[Calan]] Mai yn y gogledd-ddwyrain. Wrth i’r agwedd negyddol tuag ati gilio, cafodd le mewn cerddorfeydd capel mewn rhai lleoedd.
  
Y sipsiwn Cymreig a oedd yn bennaf cyfrifol am gadw’r traddodiad gwerin o chwarae ffidil yn fyw tan ganol yr 20g. Roedd y sipsiwn yn enwog am chwarae’r offeryn a honnent mai sefydlydd eu teulu, Abram Wood (m.1799), a ddaeth â’r offeryn i Gymru, er na all hynny fod yn wir o ystyried y cyfeiriadau cynnar (gw. [[Woodiaid, Teulu’r]]). Yn ystod y 19g. sefydlodd y sipsi [[John Roberts]] gerddorfa linynnol, The Original C[[ambrian Minstrels]], a oedd yn cynnwys telynau’n bennaf ond o leiaf un ffidil; cawsant lwyddiant mawr gan chwarae o flaen y Frenhines Victoria ar un achlysur. Cafodd y sipsiwn groeso yn ffermydd cefn gwlad Cymru lle byddent yn aros fel gweithwyr tymhorol ac yn chwarae’r ffidil a’r delyn mewn nosweithiau llawen; un a ddaeth dan eu dylanwad oedd [[Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn), hithau hefyd yn chwarae’r ffidil pan oedd yn ifanc. Byddai’r sipsiwn hefyd yn gwneud eu ffidlau eu hun weithiau, fel y dengys y llun o Cornelius ac Adolphus Wood yn chwarae [[offerynnau]] wedi eu gwneud o flychau siocled cwmni Fry (Saer, 34–5).
+
Y sipsiwn Cymreig a oedd yn bennaf cyfrifol am gadw’r traddodiad gwerin o chwarae ffidil yn fyw tan ganol yr 20g. Roedd y sipsiwn yn enwog am chwarae’r offeryn a honnent mai sefydlydd eu [[teulu]], Abram Wood (m.1799), a ddaeth â’r offeryn i Gymru, er na all hynny fod yn wir o ystyried y cyfeiriadau cynnar (gw. [[Woodiaid, Teulu’r]]). Yn ystod y 19g. sefydlodd y sipsi [[John Roberts]] gerddorfa linynnol, The Original C[[ambrian Minstrels]], a oedd yn cynnwys telynau’n bennaf ond o leiaf un ffidil; cawsant lwyddiant mawr gan chwarae o flaen y Frenhines Victoria ar un achlysur. Cafodd y sipsiwn groeso yn ffermydd cefn gwlad Cymru lle byddent yn aros fel gweithwyr tymhorol ac yn chwarae’r ffidil a’r delyn mewn nosweithiau llawen; un a ddaeth dan eu dylanwad oedd [[Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn), hithau hefyd yn chwarae’r ffidil pan oedd yn ifanc. Byddai’r sipsiwn hefyd yn gwneud eu ffidlau eu hun weithiau, fel y dengys y llun o Cornelius ac Adolphus Wood yn chwarae [[offerynnau]] wedi eu gwneud o flychau siocled cwmni Fry (Saer, 34–5).
  
Erbyn ail hanner yr 20g. roedd chwarae ffidil yn y dull clasurol wedi ennill ei le ar lwyfan yr [[Eisteddfod]] ac mewn [[cerddorfeydd]] ar draws Cymru, ond roedd y traddodiad gwerin o’i chwarae wedi diflannu. Yn sgil adfywiad cerddoriaeth werin mewn gwledydd eraill, yn enwedig Iwerddon, tyfodd diddordeb yn y traddodiad Cymreig ac aeth rhai ffidlwyr ati i ailgydio yn yr alawon traddodiadol. Yn yr 1990au daeth anogaeth gan Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru (Clera yn ddiweddarach), trwy ddarparu gweithdai ffidil werin. Heddiw mae’r ffidil yn boblogaidd yng Nghymru fel offeryn clasurol a gwerin, gyda nifer sylweddol o berfformwyr proffesiynol ac amatur.
 
Diwygiad 16:24, 7 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Defnyddir y term ‘ffidil’ heddiw i gyfeirio at aelod lleiaf teulu’r feiolin, offeryn llinynnol a chwareir gan amlaf gyda bwa ac a ddatblygwyd yn yr Eidal yn ystod yr 16g. Cyn dyfodiad y feiolin i Gymru defnyddiwyd y term ‘ffidil’ i gyfeirio at nifer o offerynnau cynharach a gâi eu chwarae â bwa, gan gynnwys y ffidil ganoloesol, y feiol a’r crwth trithant. Anodd gwybod pa offeryn a chwaraeid gan fidicula yn hanes Gerallt Gymro o’r 12g., nac ychwaith y ‘ffidler’ y cyfeirir ato mewn cywydd gan Rhys Goch Eryri yn rhan o adloniant teuluol yr uchelwyr (gw. Harper 2007, 37 & 11). Mae defnydd canoloesol y term yn gysylltiedig gan amlaf gydag adloniant poblogaidd, ac yn yr 16g. rhestrwyd ‘ffidler’ yn un o gerddorion ‘ofer’ Cymru, tra oedd ‘crythor’ ymhlith y pedwar math o fardd cymwysedig.

Daeth y ffidil i Loegr yn ystod canol yr 16g., ac mae’n debyg iddi gyrraedd Cymru rywbryd yn ystod yr 17g. Mae nifer o gerddi’r cyfnod yn sôn am y ffidil, ond gan fod y crwth a’r feiol yn dal mewn bri nid yw’n hollol glir at ba offeryn y maent yn cyfeirio. Fodd bynnag, erbyn y 18g. roedd y ffidil wedi disodli’r hen offerynnau ac yn cystadlu â’r delyn am yr anrhydedd o fod yn offeryn mwyaf poblogaidd Cymru. Gyda ffidlwyr proffesiynol ac amatur i’w cael ym mhob cwr o’r wlad, dechreuodd gwneuthurwyr Cymreig wneud offerynnau iddynt; mae ambell enghraifft i’w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru.

Clywid y ffidil ar bob lefel o’r gymdeithas ac mewn pob math o amgylchiad, o dai bonedd i ffeiriau a thafarndai, o briodasau ac angladdau i wyliau mabsant a nosweithiau llawen. Roedd yn boblogaidd fel cyfeiliant i ddawnsio, gan ddod â repertoire newydd o ddawnsiau’r cyfnod i Gymru, ond fe’i defnyddiwyd hefyd i gyfeilio i ganu penillion, carolau a baledi, ac mae nifer o gyfeiriadau ati yn anterliwtiau’r cyfnod. Mae tair ffynhonnell bwysig o wybodaeth am repertoire oes aur y ffidil yng Nghymru. Tuag 1717 lluniwyd pedair rhestr o enwau alawon gan y bonheddwr Richard Morris o Fôn, a oedd yn medru chwarae’r ffidil (gw. Parry-Williams 1931). Mae llawysgrif y ffidlwr John Thomas o ogledd- ddwyrain Cymru (1752) yn nodi 526 alaw (Meurig 2003), tra mae llawysgrif y ffidlwr Morris Edward o Ynys Môn, dyddiedig 1778–9, yn nodi 158 alaw (UWB MS 2294).

Erbyn diwedd y 18g. a dechrau’r 19g. cafodd y diwygiadau crefyddol ddylanwad mawr ar boblogrwydd y ffidil yng Nghymru. Pregethodd y Methodistiaid yn erbyn canu a dawnsio seciwlar, yn enwedig ar y Sul ac mewn gwyliau mabsant. Rhoddodd llawer o ffidlwyr y gorau i chwarae, rhai dan ddylanwad eu crefydd ac eraill o ganlyniad i ddiffyg gwaith. Er hynny, nid pob sefydliad crefyddol oedd yn elyniaethus tuag at y ffidil, ac roedd y defnydd o offerynnau llinynnol i gyfeilio i’r gwasanaeth yn parhau mewn rhai eglwysi. Ond yn ystod y 19g. bu llai a llai o chwarae ar y ffidil, ac aeth ffidlwyr mor brin nes i un gweinidog, y Parch. Edward Matthews, Ewenni, fynegi syndod wrth weld ffidlwr mewn priodas ym Morgannwg.

Serch hynny, roedd ffidlwyr yn dal i’w cael mewn ambell fan yng Nghymru. Tua diwedd y 19g. casglodd y Parch. William Meredith Morris atgofion am rai o hen ffidlwyr Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Morgannwg mewn llawysgrif o’r enw ‘De Fidiculis’ (gw. Saer 1983). Mae’r straeon yn dyst i barhad y traddodiad gwerin o chwarae ffidil, mewn priodasau ac angladdau, ffeiriau a gwyliau mabsant ac ar gornel stryd. Er bod elfen o ramant yn perthyn i’r hanesion, mae’r llawysgrif yn dod â’r hen ffidlwyr yn fyw, megis Lefi Gibbwn o Gwmfelin Mynach, a oedd hefyd yn faledwr ac yn cyfeilio iddo’i hun wrth ganu, a ‘Swansea Bill’ a oedd yn adnabyddus am chwarae pibddawnsiau a jigiau ar gyfer dawnsio.

Roedd Morris ei hun yn medru chwarae a gwneud ffidlau ac yn 1904 cyhoeddodd gyfrol o’r enw British Violin Makers. Ar ddechrau’r 20g. roedd y ffidil yn dal i’w chlywed mewn ambell achlysur tymhorol fel traddodiad y Mari Lwyd, y canu gwasael a’r dawnsio pawl haf yn ne Cymru, ac yn y dawnsio Morys adeg Calan Mai yn y gogledd-ddwyrain. Wrth i’r agwedd negyddol tuag ati gilio, cafodd le mewn cerddorfeydd capel mewn rhai lleoedd.

Y sipsiwn Cymreig a oedd yn bennaf cyfrifol am gadw’r traddodiad gwerin o chwarae ffidil yn fyw tan ganol yr 20g. Roedd y sipsiwn yn enwog am chwarae’r offeryn a honnent mai sefydlydd eu teulu, Abram Wood (m.1799), a ddaeth â’r offeryn i Gymru, er na all hynny fod yn wir o ystyried y cyfeiriadau cynnar (gw. Woodiaid, Teulu’r). Yn ystod y 19g. sefydlodd y sipsi John Roberts gerddorfa linynnol, The Original Cambrian Minstrels, a oedd yn cynnwys telynau’n bennaf ond o leiaf un ffidil; cawsant lwyddiant mawr gan chwarae o flaen y Frenhines Victoria ar un achlysur. Cafodd y sipsiwn groeso yn ffermydd cefn gwlad Cymru lle byddent yn aros fel gweithwyr tymhorol ac yn chwarae’r ffidil a’r delyn mewn nosweithiau llawen; un a ddaeth dan eu dylanwad oedd Nansi Richards (Telynores Maldwyn), hithau hefyd yn chwarae’r ffidil pan oedd yn ifanc. Byddai’r sipsiwn hefyd yn gwneud eu ffidlau eu hun weithiau, fel y dengys y llun o Cornelius ac Adolphus Wood yn chwarae offerynnau wedi eu gwneud o flychau siocled cwmni Fry (Saer, 34–5).

Erbyn ail hanner yr 20g. roedd chwarae ffidil yn y dull clasurol wedi ennill ei le ar lwyfan yr Eisteddfod ac mewn cerddorfeydd ar draws Cymru, ond roedd y traddodiad gwerin o’i chwarae wedi diflannu. Yn sgil adfywiad cerddoriaeth werin mewn gwledydd eraill, yn enwedig Iwerddon, tyfodd diddordeb yn y traddodiad Cymreig ac aeth rhai ffidlwyr ati i ailgydio yn yr alawon traddodiadol. Yn yr 1990au daeth anogaeth gan Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru (Clera yn ddiweddarach), trwy ddarparu gweithdai ffidil werin. Heddiw mae’r ffidil yn boblogaidd yng Nghymru fel offeryn clasurol a gwerin, gyda nifer sylweddol o berfformwyr proffesiynol ac amatur.

Cass Meurig

Llyfryddiaeth

T. H. Parry-Williams (gol.), Llawysgrif Richard Morris o Gerddi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1931)
D. R. Saer, Famous Fiddlers (Amgueddfa Cymru, 1983)
C. L. Meurig (gol.), Alawon John Thomas (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2003)
S. Harper, Music in Welsh Culture Before 1650 (Aldershot, 2007)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.