Ffilm

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:41, 3 Tachwedd 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Ffilm yw’r cyfrwng a ddatblygodd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg oherwydd yr awydd a’r ymdrechion technolegol gan wyddonwyr a dyfeiswyr i weld delweddau llonydd yn symud. Wedi arbrofion cynnar gyda pheiriannau gwylio unigol (Edison), tyfodd y cyfrwng hwn yn ei boblogrwydd a’i ddylanwad wedi i’r brodyr Lumière lwyddo i ddyfeisio’r cinématographe yn 1895. Peiriant ydoedd a weithredai fel camera ac fel taflunydd gan alluogi cynulleidfa fwy i wylio’r hyn a ffilmwyd, gan droi gwylio ffilmiau yn brofiad torfol a chyflwyno i ni’r cyfrwng fel yr ydym yn ei adnabod heddiw.

Mae ffilm yn gyfrwng sydd ar yr un pryd yn gelfyddyd ac yn ddiwydiant. Yn gelfyddyd gan ei fod yn ymwneud ag adrodd straeon trwy ddelweddau, ac felly yn gallu bod yr un mor gynnil yn ei fedrusrwydd i storïa a ffotograffiaeth a chelf weledol. Yn wir, er bod geiriau, sgript, cerddoriaeth ac effeithiau sain yn rhan annatod o ffilm ers dyfodiad sain i’r cyfrwng yn 1923, mae nifer o sylwebwyr yn mynnu mai grym y ddelwedd i adrodd stori sy’n gwahaniaethu ffilm oddi wrth ei chwaer fach y sgrin deledu. Ond mae diwydiant a masnach yr un mor ddylanwadol ar fyd y ffilm. Oherwydd y caiff arian sylweddol ei wario ar eu cynhyrchu, mae angen i ffilmiau apelio at gynulleidfa, a sicrhau eu bod yn adennill eu costau a throi elw. Mae masnach felly yn dylanwadu’n fawr ar y math o straeon sy’n ymddangos ar y sgrin fawr, ac mae hyn wedi dylanwadu ar y berthynas rhwng ffilm a llenyddiaeth.

Mae’r cysylltiad rhwng ffilm a thestunau ysgrifenedig yn mynd yn ôl i ddyddiau cynnar y cyfrwng, gan i’r arloeswyr y Brodyr Lumière gynhyrchu ffilm fer (ychydig dros ddeng munud mewn hyd) a groniclai fywyd yr Iesu o dan y teitl La Vie et Passion de Jésus Christ (1898). Erbyn 1910au roedd y diwydiant ffilm newydd yn gweld addasu testunau o’r canon llenyddol fel ffordd o roi parchusrwydd i’r weithgaredd o fynychu’r sinema, gan geisio diosg ei etifeddiaeth fodfilaidd (vaudevillian). Y gobaith oedd apelio at gynulleidfaoedd ehangach, dosbarth canol, a oedd yn chwilio am gelfyddyd ac addysg, nid adloniant yn unig, a thrwy hynny gynhyrchu mwy o elw i’r diwydiant yn ei dro. Yn sgil hyn gwelwyd patrwm o addasu testunau clasurol llenyddol, dramâu a thestunau llenyddol cyfoes i’r sgrin. Mae hwn yn batrwm sy’n parhau hyd heddiw, gyda rhai amcangyfrifon bod 80 y cant o’r nofelau sydd wedi ymddangos yn y siart gwerthiant uchaf wedi eu haddasu i’r sgrin fawr. Mae’r diwydiant ffilm yng Nghymru hefyd wedi troi yn gyson at destunau llenyddol i’w haddasu i’r sgrin fawr, er enghraifft Un Nos Ola’ Leuad (1991) sy’n seiliedig ar y nofel o’r un enw, Y Mynydd Grug (1997) sy’n seiliedig ar Te yn y Grug Kate Roberts a’r amryfal addasiadau o’r Mabinogi.

Er bod hanes hir i’r bartneriaeth rhwng ffilm a llenyddiaeth, nid tan y 1970au y dechreuwyd astudio’r berthynas o ddifrif, a hynny yn bennaf gan academyddion o adrannau Saesneg neu Ieithoedd Modern. Oherwydd hynny mae nifer o’r astudiaethau cynnar hyn yn canolbwyntio ar gysyniad ffyddlondeb ffilm i'r darn o lenyddiaeth y'i seiliwyd arno, gan edrych yn benodol ar gyfwerthedd y ddau destun. Erbyn hyn mae nifer o academyddion yn ystyried bod hwn yn gysyniad cyfyng gan nad yw’n ystyried y lefelau ychwanegol o ystyr a grëir wrth drosglwyddo naratif o un cyfrwng i un arall. Dadleua’r academyddion hyn bod angen ystyried gwerth y newidiadau rhwng y ddau fersiwn, a sut mae’r elfennau newydd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r gwreiddiol. Er enghraifft, sut mae’r dewis o sêr penodol (eu statws, eu delwedd, eu enw drwg neu dda), a’u dehongliad o gymeriadau yn effeithio ar ein dealltwriaeth o’r naratif. At hynny, mae angen gwneud astudiaeth testunol o’r ffilm er mwyn ystyried sut mae ffilm yn dehongli iaith ac arddull y gwreiddiol yn ei dechnegau ei hun trwy’r mise-en-scène, y technegau golygu, y sain a’r gerddoriaeth. Dadleua eraill, megis Marcus, ei bod hi hefyd yn hanfodol ystyried dylanwad cyd-destun hanesyddol, gwleidyddol a dylanwadau economaidd ar y penderfyniad i addasu testun penodol yn ffilm, ac effaith hynny ar ein dehongliad ni a dehongliad y sgriptiwr a chyfarwyddwr o’r testun.

Y bwriad gydag astudiaethau o’r math hyn yw symud oddi wrth y cymhelliad i feirniadu’r ffilm fel fersiwn gwanhaedig o’r testun gwreiddiol, diosg y myth bod y profiad o wylio’r ffilm yn un llai ymenyddol, a gwrthod y farn bod y dychmygu ar dehongli wedi ei wneud drostoch gan y cyfarwyddwr, actorion a sgriptwyr. Yr hyn sy’n rhaid cofio yw bod mwy i ffilm na gadael i’r delweddau olchi drostoch yn y tywyllwch, bod rheidrwydd darllen y mise-en-scène, y golygu, y fframio, yr onglau saethu, y gwisgoedd, y defnydd o gerddoriaeth a sain er mwyn deall yn llawn beth yw’r neges a gyfleir. Yr hyn a geir, mewn gwirionedd gydag addasu testun llenyddol i’r sgrin, yw adrodd yr un naratif ond mewn dwy system semioteg wahanol, ac fe all iaith y sgrin fod yr un mor gynnil a’r gair.

Elain Price

Llyfryddiaeth

Andrew, D. (1985), ‘Adaptation’ yn Concepts in Film Theory (Oxford: Oxford University Press), tt. 96–106. Berry, D. (1994), Wales & Cinema – The First Hundred Years (Cardiff: University of Wales Press). Ffrancon , G. (2003), Cyfaredd y Cysgodion – Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm, 1935 - 1951 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru) Hefin, J. [dim dyddiad], ‘Ffydd yn y Ffrâm’ yn Gruffydd Jones, E. H. (gol.) Ysgrifau ar Ffilm a’r Cyfryngau (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), tt. 9–23. Naremore, J. (gol.) (2000), Film Adaptation (New Brunswick: Rutgers University Press). Williams, E. G. (2015), Is-deitla’n Unig (Llandysul: Gwasg Gomer). Woodward, K. (2013), Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? Y Bwrdd Ffilmiau Cymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).