Ffolant, Canu

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:29, 7 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae’n ymddangos bod sawl traddodiad wedi dod ynghyd yn y dathliadau modern o ŵyl Ffolant ar 14 Chwefror. Dienyddiwyd Valentinus tuag OC269 am amddiffyn Cristnogion yn erbyn yr Ymerawdr Clawdiws II, a cheir traddodiad iddo adael llythyr ffarwél i ferch o blith ei gyd-Gristnogion. Dathlai’r Rhufeiniaid eu gŵyl gariadon, Lupercalia, ar 15 Chwefror, a daeth yr arfer i Brydain gyda’r goresgyniad Rhufeinig. Ceir hefyd draddodiad canoloesol cryf mai yng nghanol Chwefror yr oedd adar yn paru. Yn yr 17g. ceir sôn am arferion falentein yn Lloegr gan Samuel Pepys, gan gynnwys defod o dynnu papur ac arno enw merch y dylid ei chyfarch. Arferid hefyd roi anrheg, a chyfnewid anrhegion, a’r anrheg, nid y derbynnydd, a ystyrid yn ‘falentein’. Ond mae’n ymddangos mai’r arfer o lunio pennill ar bapur a’i addurno yw rhagflaenydd y cerdyn ffolant sy’n boblogaidd heddiw.

Cofnododd Rhiannon Ifans (1996) ddeugain o ganeuon ffolant gan ddau ar hugain o awduron a rhai dienw neu anhysbys. Daw’r canu ffolant cynharaf i oroesi yng Nghymru o’r 17g. Ceir cywydd gan Edward Morris (1633?–89), Perthi Llwydion ger Cerrig-y-drudion, Sir Ddinbych, a cherdd arall ‘I ddiolch am rodd falentein’ yn y mesur tri thrawiad, a oedd yn fesur canu poblogaidd (Ifans 1996, 39–40). Ceir dau bennill gan Huw Morys (1622–1709) ar alaw ‘Sunselia’ (Ifans 1996, 41–2). Mae’r canu cynharaf hwn yn nhraddodiad y canu gofyn a’r canu diolch. Erbyn y 18g. mae’n canoli mwy ar ofyn ffafr, gyda rhagymadrodd weithiau sy’n plethu enw’r cymar i eiriau’r gân.

Yn y cyfnod hwn, ceir yn ogystal ganeuon gan ferched i gyfarch dynion, ac addurnir cerddi â chyfeiriadau clasurol a Beiblaidd. Nodir gyda’r cerddi enwau alawon adnabyddus, yn eu plith ‘Gwêl yr Adeilad’, ‘Bryniau’r Iwerddon’, Belle Isle March, ‘Gadael Tir y ffordd hwyaf’, ‘Hud y Frwynen’ a ‘Hir Oes i Fair’, sy’n awgrymu bod traddodiad byw o ganu’r cerddi hyn. Yn y 19g. ceir rhai enghreifftiau o ganeuon sbeitlyd a cherddi doniol ar daflenni baled, a chofnodwyd cân ‘Y Folantein’, o waith Daniel Evans (1792–1846, Daniel Ddu o Geredigion), fel cân werin yn ardal y Mynydd Bach, Ceredigion, yn 1911.

Er nad oes camp lenyddol ar y caneuon ffolant sydd wedi’u diogelu, maent yn dyst i boblogrwydd yr arfer gwerin hwn yng Nghymru yn y cyfnod o’r 17g. i’r 19g.

Rhidian Griffiths

Llyfryddiaeth

Rhiannon Ifans, Canu Ffolant (Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 1996)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.