Ffurflen Mynychu Cyfarfod

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ffurflen gydnabyddedig a chyffredin ei defnydd yn y diwydiant adeiladu gyda thri phrif golofn. Bydd y rhain yn cynnwys enwau’r unigolion, eu rôl yn y prosiect e.e. pensaer a’r cwmni y maent yn cynrychioli.

Fe roddir y ffurflen i bawb sydd yn mynychu’r cyfarfod a disgwylir i bawb gwblhau eu gwybodaeth bersonol. Bydd dyddiad y cyfarfod yn cael ei nodi.

Mewn achosion o anghydfod bydd y ffurflen hon ynghlwm ag unrhyw ddogfen sy’n cael ei chyflwyno i’r llys yn nodi’r hyn a gytunwyd.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://templates.office.com/en-us/meeting-sign-in-sheet-tm02807582

“A Glossary of Property Terms”, Estates Gazette, argraffiad 1993, tudalen 120



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.