Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Fisher, Connie (g.1983)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 4: Llinell 4:
 
Ganed y gantores sioe gerdd Connie Fisher yn Lisburn, Gogledd Iwerddon, cyn i’r teulu symud i fyw i Swydd Dorset am gyfnod byr. Treuliodd y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn Sir Benfro a dangosodd addewid gerddorol pan oedd yn ifanc iawn yn Ysgol Gynradd Castellhaidd. Saif y pentref hwnnw ar ochr Gymraeg llinell ieithyddol Landsker y sir, a dysgodd Connie siarad y Gymraeg yn gwbl rugl.
 
Dylanwadodd nifer o bobl arni yn ystod y cyfnod hwn yn Sir Benfro, gan gynnwys Marilyn Lewis, sylfaenydd ac [[arweinydd]] Côr Newyddion Da. Bu Connie’n aelod o’r côr hwn am nifer o flynyddoedd a datblygodd ei dawn gerddorol a’i hyder wrth berfformio o dan arweiniad Lewis. Tra oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Syr Thomas Picton yn Hwlffordd bu’n flaenllaw mewn cynyrchiadau megis ''The Pirates of Penzance'' gan Gilbert a Sullivan, a ''My Fair Lady'' gan Lerner a Loewe. Cafodd ei hannog i gystadlu yn [[Eisteddfodau]]’r Urdd a’r Genedlaethol, ac ymhlith uchafbwyntiau cyfnod y cystadlu yr oedd cipio Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts am ei pherfformiad o unawd allan o sioe gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002.
+
Dylanwadodd nifer o bobl arni yn ystod y cyfnod hwn yn Sir Benfro, gan gynnwys Marilyn Lewis, sylfaenydd ac [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]] Côr Newyddion Da. Bu Connie’n aelod o’r côr hwn am nifer o flynyddoedd a datblygodd ei dawn gerddorol a’i hyder wrth berfformio o dan arweiniad Lewis. Tra oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Syr Thomas Picton yn Hwlffordd bu’n flaenllaw mewn cynyrchiadau megis ''The Pirates of Penzance'' gan Gilbert a Sullivan, a ''My Fair Lady'' gan Lerner a Loewe. Cafodd ei hannog i gystadlu yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfodau]]’r Urdd a’r Genedlaethol, ac ymhlith uchafbwyntiau cyfnod y cystadlu yr oedd cipio Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts am ei pherfformiad o unawd allan o sioe gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002.
  
Wedi dyddiau ysgol enillodd ysgoloriaeth i astudio yn Academi Celfyddydau Theatr Mountview a graddiodd yno gyda gradd dosbarth cyntaf yn 2005. Prysurodd ei gyrfa fel cantores a pherfformwraig wedi iddi adael y coleg ac ymddangosodd yn y sioe ''Aladdin'' yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, adeg y Nadolig yn 2005. Flwyddyn yn ddiweddarach enillodd wobr o £1,000 yn y gystadleuaeth ''Welsh Musical Theatre Young Singer'' a gynhaliwyd yn Theatr y Grand, Abertawe.
 
Er iddi ymddangos ar nifer o raglenni teledu a radio, er enghraifft ''[[Cân i Gymru]]'', ''Just Up Your Street'' a ''Plant Mewn Angen'', cystadleuaeth deledu’r BBC, ''How do you Solve a Problem like Maria'', a ddaeth â hi i sylw ehangach yn 2006 pan enillodd yr hawl i chwarae rhan Maria von Trapp yn sioe gerdd ''The Sound of Music'' Rogers a Hammerstein yn y London Palladium. Yn sgil anhwylder y llais, bu’n rhaid iddi gyfyngu ar nifer y perfformiadau er iddi ddal ati yn y sioe tan Chwefror 2008. Yn ystod y cyfnod hwn parhaodd i berfformio fel unawdydd mewn cyngherddau ac yn 2007 rhannodd lwyfan gyda Sarah Brightman, Andrea Bocelli, Donny Osmond ac eraill mewn cyngerdd yn Arena Wembley. Ym mis Awst y flwyddyn honno perfformiodd yng [[Ngŵyl Bryn Terfel]] yn y Faenol.
+
Er iddi ymddangos ar nifer o raglenni teledu a radio, er enghraifft ''[[Cân i Gymru]]'', ''Just Up Your Street'' a ''Plant Mewn Angen'', cystadleuaeth deledu’r BBC, ''How do you Solve a Problem like Maria'', a ddaeth â hi i sylw ehangach yn 2006 pan enillodd yr hawl i chwarae rhan Maria von Trapp yn sioe gerdd ''The Sound of Music'' Rogers a Hammerstein yn y London Palladium. Yn sgil anhwylder y llais, bu’n rhaid iddi gyfyngu ar nifer y perfformiadau er iddi ddal ati yn y sioe tan Chwefror 2008. Yn ystod y cyfnod hwn parhaodd i berfformio fel unawdydd mewn cyngherddau ac yn 2007 rhannodd lwyfan gyda Sarah Brightman, Andrea Bocelli, Donny Osmond ac eraill mewn cyngerdd yn Arena Wembley. Ym mis Awst y flwyddyn honno perfformiodd yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl Bryn Terfel]] yn y Faenol.
  
Mae wedi rhyddhau dwy gryno-ddisg, sef ''My Favourite Things'' a ''Secret Love''. Deil i ganu, er ei bod hefyd yn datblygu ei gyrfa fel actores a chyflwynydd radio a theledu ac ymgynghorydd cerddorol. Ymddangosodd yn gyson yn y gyfres ddrama deledu ''Casualty'', a hi oedd [[cyflwynydd]] y gyfres deledu ''Connie’s Musical Map of Wales'' a’r gyfres radio ''The Connie Fisher Show''.
 
Y diwygiad cyfredol, am 16:41, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y gantores sioe gerdd Connie Fisher yn Lisburn, Gogledd Iwerddon, cyn i’r teulu symud i fyw i Swydd Dorset am gyfnod byr. Treuliodd y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn Sir Benfro a dangosodd addewid gerddorol pan oedd yn ifanc iawn yn Ysgol Gynradd Castellhaidd. Saif y pentref hwnnw ar ochr Gymraeg llinell ieithyddol Landsker y sir, a dysgodd Connie siarad y Gymraeg yn gwbl rugl.

Dylanwadodd nifer o bobl arni yn ystod y cyfnod hwn yn Sir Benfro, gan gynnwys Marilyn Lewis, sylfaenydd ac arweinydd Côr Newyddion Da. Bu Connie’n aelod o’r côr hwn am nifer o flynyddoedd a datblygodd ei dawn gerddorol a’i hyder wrth berfformio o dan arweiniad Lewis. Tra oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Syr Thomas Picton yn Hwlffordd bu’n flaenllaw mewn cynyrchiadau megis The Pirates of Penzance gan Gilbert a Sullivan, a My Fair Lady gan Lerner a Loewe. Cafodd ei hannog i gystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol, ac ymhlith uchafbwyntiau cyfnod y cystadlu yr oedd cipio Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts am ei pherfformiad o unawd allan o sioe gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002.

Wedi dyddiau ysgol enillodd ysgoloriaeth i astudio yn Academi Celfyddydau Theatr Mountview a graddiodd yno gyda gradd dosbarth cyntaf yn 2005. Prysurodd ei gyrfa fel cantores a pherfformwraig wedi iddi adael y coleg ac ymddangosodd yn y sioe Aladdin yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, adeg y Nadolig yn 2005. Flwyddyn yn ddiweddarach enillodd wobr o £1,000 yn y gystadleuaeth Welsh Musical Theatre Young Singer a gynhaliwyd yn Theatr y Grand, Abertawe.

Er iddi ymddangos ar nifer o raglenni teledu a radio, er enghraifft Cân i Gymru, Just Up Your Street a Plant Mewn Angen, cystadleuaeth deledu’r BBC, How do you Solve a Problem like Maria, a ddaeth â hi i sylw ehangach yn 2006 pan enillodd yr hawl i chwarae rhan Maria von Trapp yn sioe gerdd The Sound of Music Rogers a Hammerstein yn y London Palladium. Yn sgil anhwylder y llais, bu’n rhaid iddi gyfyngu ar nifer y perfformiadau er iddi ddal ati yn y sioe tan Chwefror 2008. Yn ystod y cyfnod hwn parhaodd i berfformio fel unawdydd mewn cyngherddau ac yn 2007 rhannodd lwyfan gyda Sarah Brightman, Andrea Bocelli, Donny Osmond ac eraill mewn cyngerdd yn Arena Wembley. Ym mis Awst y flwyddyn honno perfformiodd yng Ngŵyl Bryn Terfel yn y Faenol.

Mae wedi rhyddhau dwy gryno-ddisg, sef My Favourite Things a Secret Love. Deil i ganu, er ei bod hefyd yn datblygu ei gyrfa fel actores a chyflwynydd radio a theledu ac ymgynghorydd cerddorol. Ymddangosodd yn gyson yn y gyfres ddrama deledu Casualty, a hi oedd cyflwynydd y gyfres deledu Connie’s Musical Map of Wales a’r gyfres radio The Connie Fisher Show.

Euros Rhys Evans

Cyfeiriadau

  • Cyfweliadau personol gyda Connie Fisher

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.