Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Frizbee"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Disgyddiaeth)
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Triawd [[roc]] o ardal Blaenau Ffestiniog a ddaeth i amlygrwydd yn 2004. Aelodau’r grŵp oedd Yws Gwynedd (prif lais a gitâr), Jason Hughes (drymiau), ac Owain Jones (gitâr fas).
+
Triawd [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | roc]] o ardal Blaenau Ffestiniog a ddaeth i amlygrwydd yn 2004. Aelodau’r grŵp oedd Yws Gwynedd (prif lais a gitâr), Jason Hughes (drymiau), ac Owain Jones (gitâr fas).
  
Gan gymryd yr enw o un o ganeuon y [[Super Furry Animals]], yn dilyn recordio’r EP ''Lenonogiaeth'' yn 2004, rhyddhawyd albwm llwyddiannus o’r enw ''Hirnos'' yn yr un flwyddyn. Roedd ''Hirnos'' yn cynnwys caneuon poblogaidd fel ‘Da Ni Nôl’, ‘Dora Gusan’ a ‘Ti (Si Hei Lw)’, gyda ‘Ti (Si Hei Lw)’ yn arddangos gallu Yws Gwynedd wrth grefftio caneuon anthemig, canadwy. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhyddhawyd yr albwm ''Pendraw’r Byd'' (2006), a oedd yn cynnwys y gân hwyliog ‘Heyla’. Derbyniodd y band wobr ‘Grŵp Gorau’r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru, 2006. Yn dilyn rhyddhau eu trydydd albwm ''Creaduriaid Nosol'' (2008), daeth y grŵp i ben ar ôl pum mlynedd o berfformio ar lwyfannau Cymru.
 
Wedi hyn, datblygodd Yws Gwynedd yrfa iddo’i hun fel artist unigol. Dychwelodd i berfformio’n gyson ar lwyfannau Cymru ac yng [[ngwyliau]] cerddorol mwyaf y wlad, yn dilyn rhyddhau’r albwm ''Codi/\Cysgu'' yn 2014, gan ennill [[tair]] gwobr yng Ngwobrau’r Selar 2014, sef ‘Artist Unigol Gorau’, ‘Cân Orau’ ar gyfer y gân ‘Neb ar Ôl’, a’r ‘Albwm Gorau’ (''Codi/\Cysgu''). Daeth y gân ‘Sebona Fi’ yn hynod boblogaidd ar safleoedd [[rhyngrwyd]] niferus, gan dderbyn bron i 200,000 o ''hits'' ar YouTube.
+
Wedi hyn, datblygodd Yws Gwynedd yrfa iddo’i hun fel artist unigol. Dychwelodd i berfformio’n gyson ar lwyfannau Cymru ac yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | ngwyliau]] cerddorol mwyaf y wlad, yn dilyn rhyddhau’r albwm ''Codi/\Cysgu'' yn 2014, gan ennill tair gwobr yng Ngwobrau’r Selar 2014, sef ‘Artist Unigol Gorau’, ‘Cân Orau’ ar gyfer y gân ‘Neb ar Ôl’, a’r ‘Albwm Gorau’ (''Codi/\Cysgu''). Daeth y gân ‘Sebona Fi’ yn hynod boblogaidd ar safleoedd [[Rhyngrwyd, Cerddoriaeth a'r | rhyngrwyd]] niferus, gan dderbyn bron i 200,000 o ''hits'' ar YouTube.
  
'''Gethin Griffiths'''
 
'''Gethin Griffiths'''
Llinell 11: Llinell 12:
 
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
  
:''Hirnos'' (Côsh, 2004)
+
*''Hirnos'' (Côsh, 2004)
  
:''Pendraw’r Byd'' (Côsh, 2006)
+
*''Pendraw’r Byd'' (Côsh, 2006)
  
:''Creaduriaid Nosol'' (Côsh, 2008)
+
*''Creaduriaid Nosol'' (Côsh, 2008)
  
:'''Yws Gwynedd:'''
+
'''Yws Gwynedd:'''
  
:''Codi/\Cysgu'' (Côsh, 2014)
+
*''Codi/\Cysgu'' (Côsh, 2014)
  
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 16:42, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Triawd roc o ardal Blaenau Ffestiniog a ddaeth i amlygrwydd yn 2004. Aelodau’r grŵp oedd Yws Gwynedd (prif lais a gitâr), Jason Hughes (drymiau), ac Owain Jones (gitâr fas).

Gan gymryd yr enw o un o ganeuon y Super Furry Animals, yn dilyn recordio’r EP Lenonogiaeth yn 2004, rhyddhawyd albwm llwyddiannus o’r enw Hirnos yn yr un flwyddyn. Roedd Hirnos yn cynnwys caneuon poblogaidd fel ‘Da Ni Nôl’, ‘Dora Gusan’ a ‘Ti (Si Hei Lw)’, gyda ‘Ti (Si Hei Lw)’ yn arddangos gallu Yws Gwynedd wrth grefftio caneuon anthemig, canadwy. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhyddhawyd yr albwm Pendraw’r Byd (2006), a oedd yn cynnwys y gân hwyliog ‘Heyla’. Derbyniodd y band wobr ‘Grŵp Gorau’r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru, 2006. Yn dilyn rhyddhau eu trydydd albwm Creaduriaid Nosol (2008), daeth y grŵp i ben ar ôl pum mlynedd o berfformio ar lwyfannau Cymru.

Wedi hyn, datblygodd Yws Gwynedd yrfa iddo’i hun fel artist unigol. Dychwelodd i berfformio’n gyson ar lwyfannau Cymru ac yng ngwyliau cerddorol mwyaf y wlad, yn dilyn rhyddhau’r albwm Codi/\Cysgu yn 2014, gan ennill tair gwobr yng Ngwobrau’r Selar 2014, sef ‘Artist Unigol Gorau’, ‘Cân Orau’ ar gyfer y gân ‘Neb ar Ôl’, a’r ‘Albwm Gorau’ (Codi/\Cysgu). Daeth y gân ‘Sebona Fi’ yn hynod boblogaidd ar safleoedd rhyngrwyd niferus, gan dderbyn bron i 200,000 o hits ar YouTube.

Gethin Griffiths

Disgyddiaeth

  • Hirnos (Côsh, 2004)
  • Pendraw’r Byd (Côsh, 2006)
  • Creaduriaid Nosol (Côsh, 2008)

Yws Gwynedd:

  • Codi/\Cysgu (Côsh, 2014)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.