Fychan, Simwnt

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd (c.1530–1606) o Lanfair Dyffryn Clwyd a fu’n ddisgybl i Ruffudd Hiraethog, prif athro barddol yr oes. Graddiodd yn bencerdd yn ail eisteddfod Caerwys (1567). Cadwyd dros 170 o’i gywyddau, naw o’i awdlau (gan gynnwys awdl enghreifftiol a gyhoeddwyd yng ngramadeg Siôn Dafydd Rhys yn 1592), a llawer o’i englynion. Cerddi mawl i uchelwyr yng ngogledd Cymru oedd y rhan fwyaf o’i waith. Noddwr pwysig iddo oedd Simwnt Thelwall (1525/6–86), gŵr cyfraith diwylliedig o Blas-y-Ward, Llanynys yn Nyffryn Clwyd. Yn 1571, ‘wrth arch ac esponiat’ Thelwall, cyhoeddodd Simwnt gyfieithiad ar ffurf cywydd o epigram y bardd Lladin Martialis (c.38–c.103 OC) - ‘Martial’ y Saeson - ar ‘ddedwyddyd bydol’ (Liber X.47). Dyma enghraifft unigryw o gydweithio rhwng bardd Cymraeg a noddwr a wyddai am ffasiynau llenyddol y Dadeni, cyfnod pan oedd bri llenyddol Martialis yn ei anterth. Simwnt oedd y bardd proffesiynol Cymraeg cyntaf i argraffu ei waith, a dyma’r cyfieithiad Cymraeg cyntaf o glasur Lladin a gyhoeddwyd.

Roedd Simwnt yn hyddysg yn holl ganghennau’r ddysg farddol draddodiadol, a cheir ganddo ddeunydd achyddol a herodrol mewn llawysgrifau. Ond ei waith pwysicaf yw’r ‘Pum Llyfr Cerddwriaeth’, testun o’r gramadeg barddol a luniodd tua 1570 ac a gadwyd yn ei law ef ei hun yn llawysgrif Coleg Iesu 15. Dyma’r fersiwn llawnaf o’r gramadeg a gadwyd. Pynciau pum llyfr Simwnt oedd: (i) y llythrennau, y sillafau, a’r diptoniaid; (ii) y rhannau ymadrodd a chystrawen; (iii) y mesurau a’r cymeriadau; (iv) y cynganeddion; (v) y prydlyfr, a gynhwysai’r beiau gwaharddedig, sut y dylid moli pob peth, y campau a berthyn ar brydydd, a’r Trioedd Cerdd. Tybir mai Simwnt ei hunan a oedd yn gyfrifol am rannu’r deunydd fel hyn. Er bod llawer o’r deunydd yn draddodiadol, ceir gan Simwnt hefyd rai nodweddion arloesol. Ef oedd y cyntaf i ymdrin â’r cymeriadau, y cyfatebiaethau addurniadol rhwng dechrau llinellau. Rhoddodd hefyd sylw manylach na neb o’i flaen i’r cynganeddion, gwedd ar eu celfyddyd y tueddai’r beirdd i’w chadw’n gyfrinach, ond mae’n bosib mai Gruffudd Hiraethog, athro Simwnt, a luniodd yr adran hon yn wreiddiol. Traethodd Simwnt yn helaethach na’i ragflaenwyr hefyd ynghylch y beiau gwaharddedig - diffygion technegol mewn cerdd dafod - gan restru 23 ohonynt, ond amlinelliad yn unig o’r wybodaeth a draddodai’r athrawon barddol i’w disgyblion a gafwyd ganddo. Yn y pumed llyfr wrth ymdrin â’r ffigurau pwysleisiodd mai eu rhagflaenwyr brodorol yn hytrach nag awduron estron oedd yr awdurdodau a gydnabyddai’r beirdd: Y ffugrs eraill a dynnwyd o’r Lladin ac o’r Groec nid anghenrraid i ni wrthynt, kans yn ffugrs ni yw moddion prydyddiaeth, sef yw hynny, esgvssion drwy awdvrdod o waith y beirdd kadeiriawc nev yr athrawon pennkerddiaidd a vvant o’r blaen. Cyfeirio a wnâi Simwnt at y ffigurau Lladin a Groeg yn Llyfr Rhetoreg William Salesbury, cyfieithiad o Tabulae de Schematibus et Tropis Petrus Mosellanus (c.1493–1524). Eto cynhwysodd waith Salesbury fel atodiad ar ddiwedd y gramadeg.

Ar ddiwedd ei bedwerydd llyfr ceir gan Simwnt osodiad enwog ynghylch natur barddoniaeth, ‘kans ni wnaed kerdd ond er melyster i’r glvst, ac o’r glvst i’r galonn’. Dyfynnwyd y geiriau hyn gan Saunders Lewis (Williams Pantycelyn) a Thomas Parry (Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900) am eu bod yn eu hystyried yn fynegiant arwyddocaol o estheteg sylfaenol y traddodiad barddol Cymraeg.

Gruffydd Aled Williams

Llyfryddiaeth

Jones, E. D. (1934), ‘Simwnt Fychan a theulu Plas y Ward’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 7, 141–2.

Jones, E. J. (1927), ‘Martial’s epigram on the happy life, Simwnt Fychan’s translation’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 3, 286–97. Lewis, S. (1927), Williams Pantycelyn (Llundain: Foyle’s Welsh Depôt).

Maldwyn: Y Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau (1996–2002), http://maldwyn.llgc.org.uk/chwilio.php?maes=Bardd&ID=9559 (cyrchwyd 25 Gorffennaf 2016).

Mathias, W. A. (1951, 1952), ‘Llyfr Rhetoreg William Salesbury’, Llên Cymru, 1, 259–68; 2, 71–61.

Parry, T. (1953), Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900, 3ydd argraffiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Williams, G. J. a Jones, E. J. (goln) (1934), Gramadegau’r Penceirddiaid (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.