Gelert

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Defnyddir y chwedl hanesyddol boblogaidd o Dywysog Llywelyn a’i gi Gelert i ddehongli pwysigrwydd cyfeillgarwch a ffyddlondeb ynghyd â’r perygl o ddicter a diffyg meddwl.

Mae’r ddyfais o stori tu fewn i stori yn cysylltu cymeriadau’r hogyn a’i gi dros amser (Llew/Gel yn y presennol, Llywelyn/Gelert yn hanesyddol). Trwy glywed am hanes trist Llywelyn Tywysog Gwynedd yn lladd Gelert trwy gamddealltwriaeth, mae’r hogyn ifanc Llew yn dysgu'r pwysigrwydd o werthfawrogi ei gi, Gel.

Animeiddiad uchelgieisol sy’n cynnwys golygfeydd cefndirol CGI gyda 600 o olygfeydd. Mae Gelert yn enghraifft dda o’r cryn gynnydd yn safon animeiddio yn y diwydiant Cymreig.

Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol Gelert

Blwyddyn 2007

Hyd y Ffilm 25 munud

Darlledwr S4C

Dyddiad y darllediad cyntaf 25.12.2007

Cyfarwyddwr Hywel Griffith

Sgript gan Mei Jones

Addasiad o Chwedl

Cynhyrchydd Hywel Griffith Cwmni Cynhyrchu Griffilms

Genre Animeiddiad Plant

Hawlfraint Griffilms

Cast a Chriw

Prif Gast

  • John Ogwen (Taid)
  • Tudur Owen (Llywelyn Fawr)
  • Lowri Steffan (Siwan)

Cast Cefnogol

  • RIchard Elfyn (Canghellor, Eraill)
  • Hefin Wyn (Brenin Iorwerth, Eraill)
  • Elen Gwynne (Gwen)
  • Llyr Evans (Owain/Ifan)

Animeiddwyr

  • Dylan Jones
  • Eryl Lewis Jones
  • Ryan Perrin
  • Owain Roberts
  • James White

Cerddoriaeth

  • Jody K Jenkins

Sain

  • Tim Ricketts
  • Owen Thomas

Golygu

  • Meilyr Tomos

Manylion Technegol

Tystysgrif Ffilm U

Fformat Sain Stereo

Lliw/Du a Gwyn Lliw

Gwlad Cymru

Iaith Wreiddiol Cymraeg

Manylion Atodol

Gwefannau: www.griffilms.com

Erthyglau cylchgrawn/papur newydd

  • Daily Post, 10 Rhagfyr 2008;
  • Sgrin (Cylchgrawn Gwylwyr S4C) Rhif 5, 2007



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.