Gentle Good, The

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:25, 8 Gorffennaf 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Enw ‘llwyfan’ mae’r canwr a’r gitarydd o Gaerdydd, Gareth Bonello, yn ei ddefnyddio. Yn ganwr gwerin- modern amryddawn, bu Bonello’n perfformio yng Nghaerdydd a thu hwnt ers dros ddegawd.

Yn gerddor aml-dalentog a hynod alluog fel gitarydd, rhyddhaodd ei EP cyntaf, Find Your Way Back Home, yn 2005, ac yna Dawel Disgyn yn 2007, lle chwaraeodd y cello, gitâr a metaloffon, gyda chyfraniadau gan Seb Goldfinch ar y ffidil. Dilynwyd hyn yn 2008 gyda’i record hir gyntaf, While You Slept I Went Out. Daeth i sylw pellach y sîn werin yng Nghymru a thu hwnt yn 2009 wedi perfformiadau trawiadol yng ngwyliau South by Southwest yn yr Unol Daleithiau, Gŵyl Y Dyn Gwyrdd yn Aberhonddu, a Glastonbury, gan ennill gwobr cylchgrawn Y Selar am yr artist unigol gorau yn 2010.

Daeth ail albwm allan yn 2011 o’r enw Tethered for the Storm (Gwymon). Gan adlewyrchu ystod eang o ddylanwadau, o feirdd megis Philip Larkin a John Donne i’r Hen Benillion Cymraeg, ynghyd â dawn Bonello fel gitarydd, ehangwyd yr offeryniaeth ar y record i gynnwys pedwarawd llinynnol, banjo a phiano ar rai traciau.

Yn ystod yr un flwyddyn treuliodd Bonello gyfnod preswyl yn ninas Chengdu, Tsieina, gan ryddhau cynnyrch ei brofiadau ar ei drydydd albwm, Y Bardd Anfarwol, yn 2013 – albwm cysyniad am y bardd o’r 8g., Li Bai (701–762). Recordiodd Bonello rannau o’r albwm yn Tsieina, Llundain a Llanuwchllyn. Derbyniodd Y Bardd Anfarwol wobr am albwm gwerin Cymraeg gorau’r flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 2014, ac fe seiliwyd Rhith Gân, drama gan Wyn Mason a berfformiwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016, ar y record.

Gan gyfuno trefniannau o ganeuon traddodiadol gyda’i gyfansoddiadau ei hun yn Gymraeg a Saesneg, mae cerddoriaeth Bonello yn nodedig am y plethiad celfydd a glywir yn aml rhwng y brif alaw yn llais Bonello a chyfeiliant ei gitâr, ynghyd â medrusrwydd y cyfeiliant ei hun. Er bod trefniannau Bonello yn aros yn driw i ysbryd gwreiddiol yr alawon, mae’n barod i arbrofi gydag elfennau megis amsernodau, fel yn ei drefniant cynnar o’r alaw werin ‘Y Folantein’ (gw. Ffolant, Canu), sydd yn amrywio mewn amsernod rhwng 3/4 a 4/4. Gan gyfansoddi ar y cyfan mewn arddull ddwys a myfyrgar, disgrifiwyd caneuon Bonello fel ‘cyfuniad o’r gwerin traddodiadol, technegau gitâr o’r 1960au … gyda thinc o psychedelia.’ Daeth yr albwm Ruins/Adfeilion allan ar label Bubblewrap yn Hydref 2016.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Find Your Way Back Home [EP] (dim label, 2005)
  • Dawel Disgyn [EP] (Gwymon CD002, 2007)
  • While You Slept I Went Out Walking (Gwymon CD004, 2008)
  • Tethered for the Storm (Gwymon CD013, 2011)
  • Y Bardd Anfarwol (Bubblewrap Records BWR013CD 2013)
  • Plygeiniwch! [EP] (dim label, 2014)
  • Ruins/Adfeilion (Bubblewrap Records BWR027CD, 2016)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.