Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis, Giraldus de Barri, Gerald de Barri; c.1146-c.1220)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Clerigwr o Gymro ac awdur cynhyrchiol. Gadawodd ddisgrifiadau pwysig o’r gwledydd Celtaidd a’u pobloedd, gan gynnwys sawl sylw am gerddoriaeth. Fe’i ganed ym Maenorbŷr, Sir Benfro, a’i addysgu gan glerigwyr Tyddewi, mynachod Benedictaidd Caerloyw, ac yn y pen draw ym Mharis, lle treuliodd dri chyfnod yn astudio’r celfyddydau breiniol. Hanai’n uniongyrchol nid yn unig o rai o deuluoedd Eingl-Normanaidd mwyaf pwerus de- orllewin Cymru, ond hefyd o linach tywysogion Deheubarth. Roedd Nest, ei fam-gu ar ochr ei fam, yn ferch i Rys ap Tewdwr, tad-cu Rhys ap Gruffudd (yr Arglwydd Rhys).

Cafodd Gerallt yrfa amrywiol, gan gynnwys ei benodi’n archddiacon Aberhonddu yn 1174 ac yn glerc a chaplan i’r Brenin Harri II yn 1184, er mai methiant fu ymgyrch hir Gerallt i berswadio Harri i ddilysu ei ethol yn esgob Tyddewi. Teithiodd yn eang, gan ymweld am y tro cyntaf ag Iwerddon yn 1183, a mynd ar daith o amgylch Cymru yng nghwmni Baldwin, Archesgob Caergaint, yn ystod y Grawys, 1188, er mwyn denu Cymry ifanc i fyddin y groesgad yn erbyn Saladin.

Mae nifer o weithiau pwysig yn dyddio o’r cyfnod hwn, gan gynnwys y Topographia Hibernica (1186-7), Itinerarium Kambriae (c.1191) a Descriptio Kambriae (c.1194). Mae’r rhain yn cynnig sawl portread o ddiwylliant cerddorol ac arferion eglwysig Cymru’r Oesoedd Canol, er bod rhaid edrych arnynt nid yn unig o safbwynt gŵr a aned i deulu o uchelwyr ffiwdal ar arfordir deheuol Sir Benfro, ond hefyd o safbwynt clerigwr Eingl-Normanaidd a oedd wedi teithio’n eang, wedi’i addysgu yn Lloegr ac ar y cyfandir, ac a oedd yn gyfarwydd ag arferion a therminoleg gerddorol bur wahanol.

Mae’r Topographia Hibernica yn darparu catalog gwerthfawr o offerynnau Iwerddon, Cymru a’r Alban, mewn perthynas â ‘sgiliau anghymharol pobl [Iwerddon] ag offerynnau cerddorol’. Dywedir bod y Cymry’n defnyddio’r delyn (cithara), y crwth (chorus) a’r pibau (tibiae) – yr un tri offeryn ag a restrir mewn fersiynau cynnar o Gyfraith Hywel Dda ac mewn adroddiadau ar ŵyl fawr yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176. Roedd yr Albanwyr yn ffafrio’n hytrach y delyn, y crwth a’r timpán (offeryn nad yw’n bod bellach), a’r Gwyddelod yn defnyddio’r delyn a’r timpán yn unig.

Noda Gerallt fod y delyn yn nodedig gan mai tannau efydd yn hytrach na cholydd (gwt) oedd iddi, ond mae ei eiriau’n amwys a gallent awgrymu bod telynau o’r fath yn cael eu defnyddio yn Iwerddon (a’r Alban) yn ogystal â Chymru. Mae Gerallt yn cyfleu gwahanol seiniau’r tannau uchel ac isel ar delynau ac iddynt dannau metel, gan nodi bod tincial chwimwth y tannau uchaf teneuach yn gwrthgyferbynnu’n uniongyrchol â ‘sain fwy pŵl yr un mwy trwchus’ a oedd, mae’n amlwg, yn cael ei ddefnyddio i gynnal y sain. Dywedir bod cerddoriaeth Wyddelig wedi dylanwadu i ddechrau ar Gymru a’r Alban, ond erbyn amser ysgrifennu hynny o eiriau fod medrau cerddorol yr Albanwyr yn rhagori; ymddengys mai awgrym Gerallt yw bod cerddoriaeth Cymru’n efelychu cerddoriaeth Iwerddon a’r Alban yn y cyfnod hwn, ac nad oedd yn meithrin ei harddull unigol ei hun.

Ceir disgrifiadau mwy penodol o gerddoriaeth yng Nghymru yn Descriptio Kambriae Gerallt (1193), sydd hefyd yn atgynhyrchu rhan o’r darn a geir yn y Topographica Hibernica air am air. Cyfeiria Gerallt at y nifer fawr o delynau yng Nghymru ac at felyster, cynghanedd gynnil a medr y telynorion – ‘symudant gyda’r fath gyflymder a chywirdeb cywair, a chynhyrchant y fath gynghanedd tan gyffyrddiad mor chwim ac awchus bysedd anghytûn’. Byddai merched ifanc yn diddanu gwahoddedigion ar y delyn tan gyda’r nos, ac yn llysoedd neu deuluoedd y tywysogion ystyrid canu’r delyn yn gamp o’r radd uchaf: ‘Ond am y rhai a fo’n cyrraedd yn oriau’r bore, difyrrir hwy tan yr hwyr ag ymddiddan llancesau ac â cherdd dannau. Y mae gan bob tŷ yma lancesau a thelynau ar gyfer y gwaith hwn. ... y mae pob gŵr o lys neu deulu yn ystyried medr i ganu’r delyn yn uwch na phob dysg a gwybodaeth.’

Mae’r Descriptio hefyd yn rhoi rhagolwg o’r pwyslais diweddarach ar swyddogaeth beirdd Cymru fel cofnodwyr achau: noda Gerallt y gallai beirdd, cantorion a chlerwyr Cymru (‘bardi Kambrenses, et cantors, seu recitatores’) nid yn unig adrodd achresi ar eu cof, ond eu bod hefyd yn cadw copïau o gartau achau’r tywysogion yn eu hen lyfrau. Cymraeg oedd iaith y rhain; cadarnhad pwysig nad yn Lladin yn unig y cafodd y llyfrau cynharaf yng Nghymru eu hysgrifennu. Mae’r Itinerarium Kambriae (1188) hefyd yn cyfeirio at y biwglwyr a’r trwmpedwyr Cymreig a elwid yn cornhiriez, gair sy’n deillio ‘o cornu a hir, oherwydd eu bod yn chwythu cyrn hir’.

Mae dau ddarn gan Gerallt hefyd yn cyfeirio’n benodol at ganu lleisiol. Mae’r cyfeiriad cyntaf, yn yr Itinerarium Kambriae, yn ddisgrifiad anffurfiol o ddathliadau blynyddol y werin bobl yn Eglwys y Santes Eluned ger Aberhonddu, safle merthyrdod y wyryf Eluned yr oedd ei gŵyl yn cael ei dathlu ar 1 Awst (Calan Awst). Yma, câi caneuon ac iddynt gytganau (‘cantilena’) eu canu yn yr eglwys a’r fynwent, a châi dawnswyr eu harwain i mewn ac allan o’r beddau cyn mynd i fath o berlewyg.

Yn gyntaf disgynnent, yna neidient i’r awyr cyn efelychu â’u dwylo a’u traed wahanol fathau o waith a wneid heb ganiatâd ar y Saboth. Byddai’r rhai a efelychai weithgareddau aredig, gan gynnwys gyrru ychen, yn canu’n ddi-baid ‘ganeuon mydryddol amrwd’ (‘solitas barbarae modulationis voces efferre’) i liniaru diflastod eu gwaith: mae’n bosibl fod y rhain yn rhagflaenwyr i’r caneuon a oedd yn dal i gael eu canu ym Morgannwg yn y 19g. wrth yrru’r ychen.

Mae’r ail ddarn yn ddisgrifiad adnabyddus o ran-ganu byrfyfyr o’r Descriptio. Nid yw hwn yn uniongyrchol gysylltiedig â’r eglwys, ac ymddengys ei fod yn adlewyrchu arfer gerddorol ehangach:

Pan fyddant yn cydganu, ni fyddant yn canu’n unsain fel cenhedloedd eraill, ond mewn rhannau ac mewn llawer modd, ac â lleisiau ac alawon gwahanol. Mewn cwmni o gantorion, fel sy’n arferol gyda’r genedl hon, mae cynifer o ganeuon a gwahanol leisiau ag y mae o bennau, a deuant o’r diwedd at ei gilydd mewn un cytgord gyda B meddalnod yn ei reoli yn ei holl gyfaredd a melystra.

Bu hir ddadansoddi ar y darn hwn ond mae ei union ystyr yn dal yn aneglur. Awgrymwyd bod disgrifiad Gerallt yn cyfeirio at dechneg rondellus (perthynas, efallai, i’r ‘Reading Rota’ enwog o c.1240, ‘Sumer is icumen in’), neu at fath o discant neu organum (dwy ffordd gydnabyddedig o addurno alaw), neu hyd yn oed at rywbeth tebyg i’r canu emynau heterophonig sy’n dal i gael ei glywed yn Ynysoedd Heledd.

Mae Gerallt hefyd yn dweud bod defnyddio B meddalnod (B mollis) yn un o nodweddion canu deheuig telynorion Gwyddelig, ond unwaith eto, efallai iddo ddefnyddio’r term yn unig i gyfleu cytgord persain, yn hytrach na dull penodol. Serch hynny, mae’n awgrymu ei bod yn arferol i’r Cymry ganu’n fyrfyfyr mewn mwy nag un rhan, a bod y sain a gynhyrchent yn wahanol i unrhyw beth yr oedd Gerallt wedi’i glywed yn unman arall – gan gynnwys y rhan-ganu a arferid yng ngogledd Lloegr a grybwylla yn yr un rhan o’r Descriptio.

Sally Harper

Llyfryddiaeth

  • Giraldus Cambrensis, Topographia Hibernica & Descriptio Kambriae, yn Giraldi Cambrensis Opera, gol. J. F. Dimock (Llundain: Rolls Series, 8 cyfrol, 1861–91, cyf v (1867), vi (1868)
  • Philip Weller, ‘Golwg Gerallt Gymro ar Gerddoriaeth’/ ‘Gerald of Wales’s View of Music’, Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History, 2 (1997), 1–64
  • Andrew Hughes ac Andrea Budgey, ‘Giraldus Cambrensis’, New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
  • Sally Harper, Music in Welsh Culture before 1650: A Study of the Principal Sources (Aldershot, 2007)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.