Glos

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:14, 20 Gorffennaf 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Gair o'r Saesneg gloss neu o'r Lladin glossa. Gair neu eiriau a ychwanegir at destun yw glos — fel arfer uwchben y gwreiddiol, neu ar ymyl y tudalen — er mwyn egluro ystyr gair neu ychwanegu rhywbeth at y testun a allai gynorthwyo'r darllenydd i'w ddehongli'n gywir. Gallai'r glosau fod yn yr un iaith â'r testun gwreiddiol, neu mewn iaith neu ieithoedd gwahanol. Mae Llawysgrif Juvencus (MS Ff.4.42) a gedwir yn Llyfrgell y Brifysgol, Caer-grawnt yn enghraifft dda o lawysgrif Ladin wedi'i glosio. Fersiwn o'r Efengylau gan y bardd Lladin, Juvencus, yw'r prif destun, wedi'i gopïo gan ddyn â'r enw Gwyddeleg Núadu yn ail hanner y 9g.; eglurwyd nifer o'r geiriau a'r ymadroddion â glosau niferus yn Lladin, neu yn Hen Gymraeg neu Hen Wyddeleg, a hynny gan wahanol ysgrifwyr. Ceir y glos Cymraeg guerin, 'gwerin' ar y gair Lladin factio. Eglurir y gair Lladin uenae, 'veins' gan y glos Cymraeg guithennou, 'gwythiennau'. Mae'r geiriau Lladin am y lliwiau caerula a uiridis a glaucus i gyd yn cael eu hegluro gan y gair glas. Yn yr achos hwn, nid yw'n gwbl glir ai Hen Gymraeg neu Hen Wyddeleg yw iaith y glos.

Mae'r glosau cynnar hyn ynghyd â'r rhai a geir mewn llawysgrifau cynnar eraill yn bwysig am eu bod yn dangos y broses o ymgodymu â gwahanol destunau a sut y dehonglwyd hwy gan siaradwyr yr ieithoedd brodorol. Yn achos yr ieithoedd Celtaidd, mae glosau fel y rhain ar ymyl y ddalen mewn llawysgrifau Lladin yn werthfawr am eu bod — fel arysgrifau ar gerrig ac ambell ddarn mwy estynedig yma ac acw — yn gynharach na'r llawysgrifau sydd wedi'u hysgrifennu'n gyfan gwbl yn yr ieithoedd brodorol. Ceir ynddynt, felly, dystiolaeth werthfawr am ddatblygiad cynnar yr ieithoedd hynny. Byddai rhai testunau canoloesol yn cael eu copïo gyda'r glosau a oedd arnynt yn barod; mae hyn weithiau'n caniatáu i ysgolheigion wneud cysylltiadau rhwng gwahanol ganolfannau dysg, a rhwng gwahanol lawysgrifau a'i gilydd.

Marged Haycock

Llyfryddiaeth

Bischoff, B. (1990), Latin Palaeography: Antiquity and the Middle Ages, cyf. Cróinin, D. Ó. a Ganz, D. (Cambridge: Cambridge University Press).

Falileyev, A. (2016), Llawlyfr Hen Gymraeg (Caerfyrddin: Y Coleg Cymraeg) https://llyfrgell.porth.ac.uk/media/llawlyfr-hen-gymraeg-alexander-falileyev

Haycock, M. (2015), 'Medieval Welsh Texts Today and Tomorrow', yn Breatnach, L. et al. (goln), Proceedings XIV International Congress of Celtic Studies (Dublin: Dublin Institute for Advanced Studies), tt. 95-108.

Jackson, K. H. (1953), Language and History in Early Britain (Edinburgh: Edinburgh University Press).

Lapidge, M. (1986), 'Latin Learning in Dark Age Wales: Some Prologomena', yn Evans, D. E. et al. (goln), Proceedings of the Seventh International Congress of Celtic Studies (Oxford: Jesus College), tt. 91-107.

McKee, H. (2000), The Cambridge Juvencus Manuscript glossed in Latin, Old Welsh, and Old Irish: Text and Commentary (Aberystwyth: Cyhoeddiadau CMCS).

McKee, H. (gol.) (2000), Juvencus Codex Cantabrigiensis Ff.4.42: Ffacsimili (Aberystwyth: Cyhoeddiadau CMCS).

Russell, P. (gol.) (2003), Yr Hen Iaith: Studies in Early Welsh (Aberystwyth: Celtic Studies Publications).

Llawysgrif Juvencus ar-lein: http://cudl.lib.cam.ac.uk/view/MS-FF- 00004-00042/1


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.