Glyn, Gareth (g.1951)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y cyfansoddwr Gareth Glyn Davies ym Machynlleth. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug, gan astudio cerddoriaeth gyda Rhys Jones a fu’n gryn ddylanwad ar ei yrfa gerddorol. Cafodd ei gyflwyno gan Jones i gerddoriaeth y pianydd jazz poblogaidd Fats Waller (1904–43) ac o ganlyniad i hynny mabwysiadodd rai elfennau idiomatig o’i arddull ar gyfer y piano.

Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Merton, Prifysgol Rhydychen, rhwng 1969 ac 1972 cyn ymgartrefu ar Ynys Môn yn 1978. Dywed fod ei brofiadau ar yr ynys, gyda’i thirlun hynod a’i chyfoeth diwylliannol a chwedlonol, wedi dylanwadu’n drwm ar ei waith. Daeth yn aelod o Orsedd y Beirdd a derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor ac LRAM am ei wasanaeth fel cyfansoddwr. Yr un pryd â dilyn gyrfa lwyddiannus ym myd cerddoriaeth, bu’n gyflwynydd rheolaidd ar raglen newyddion y Post Prynhawn ar Radio Cymru rhwng 1978 a 2013.

Ymhlith ei gyfansoddiadau y mae darnau cerddorfaol, darnau siambr, unawdau offerynnol a lleisiol, dramâu cerdd, caneuon a chylchoedd caneuon ar gyfer cantorion proffesiynol, amaturiaid a phlant, cerddoriaeth i fandiau pres a darnau ar raddfa eang ar gyfer cerddorfa, actorion a chyfranogiad cynulleidfa. Caiff ei weithiau eu comisiynu a’u perfformio gan gerddorfeydd, ensemblau a bandiau blaenllaw gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Cerddorfa BBC yr Alban, Cerddorfa Ffilharmonig Strasbwrg, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, I Musici de Montréal a Sinffonia’r Bale Brenhinol. Mae unawdwyr adnabyddus megis Bryn Terfel, Catrin Finch a Charlotte Church wedi perfformio rhai o’i weithiau; ysgrifennodd Amaterasu ar gyfer telyn a cherddorfa, a chafodd ei berfformio am y tro cyntaf gan Hannah Stone a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, 2015.

Gwelir cyfeiriadaeth at leoliadau a chwedloniaeth Gymreig yn aml yn ei weithiau cerddorfaol a siambr, megis Mabinogi (1984) a’r gathl symffonig Eryri (1980) a gomisiynwyd gan Gerddorfa Ulster. Ysgrifennodd drac sain cerddorfaol i amryw ffilm, er enghraifft Madam Wen (1982), sy’n cyflwyno chwedl y lladrones ben-ffordd o Rosneigr. Cyfansoddodd Morluniau Môn (2001) ar gyfer Sinffonia’r Bale Brenhinol fel ymateb cerddorol i olygfeydd ger traethau Llanddwyn, Malltraeth, Penmon, Cemaes a Moelfre. Fe’i recordiwyd ar yr albwm British String Miniatures 2 ymysg darnau gan Delius, Elgar, Warlock ac eraill (White Line, 2003), a chyfeiria’r beirniad Andrew Lamb yn ei adolygiad at elfen ‘hawdd mynd ato’ sy’n perthyn i’r gwaith (Lamb 2003, 48). Yn wir, mae’r corpws sylweddol o gyfansoddiadau a gafwyd gan Gareth Glyn yn llwyddo i agor y drws i gynulleidfa eang o wrandawyr ac i berfformwyr o bob oed a gallu.

Ymhlith ei weithiau cerddorfaol y mae trefniant o alawon gwerin serch i gerddorfa, Cariad (2008); Dinas Barhaus (2009) a gomisiynwyd gan Gerddorfa Symffoni Gogledd Carolina i ddathlu trichanmlwyddiant sefydlu prifddinas Gogledd Carolina, Bern Newydd; a’r agorawd i gerddorfa, Llam Carw (2010). Clywir y gweithiau hyn ar yr albwm Welsh Incident (Sain, 2011) a ryddhawyd ar achlysur ei ben-blwydd yn 60 mlwydd oed yn 2011. Cyflwyna’r actor Jonathan Pryce a Sinffonia’r Bale Brenhinol berfformiad o’r ddrama Welsh Incident (1989), yn seiliedig ar farddoniaeth Robert Graves a ddisgrifia ddigwyddiad dychmygol a swreal ar draeth Cricieth. Cynhwysir dehongliadau newydd o weithiau eraill, er enghraifft agorawd gŵyl i organ a cherddorfa, Gwylmabsant (1994); Microncerto (2004) i fas dwbl a cherddorfa, a’r Concerto i Drwmped (2011).

Adwaenir Gareth Glyn fel trefnydd toreithiog – ailweithiodd ymhell dros gant o gyfansoddiadau gan ddarparu trefniannau o ddarnau gwerin a chlasurol. Gwnaeth lawer i hyrwyddo addysg gerddorol ymysg perfformwyr a gwrandawyr ifanc. Galluoga’r fath weithiau ag EGAD (2006) a Strings on the Wing (2008) offerynwyr o bob oed a gallu i gyd-chwarae mewn cyngerdd proffesiynol. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach cafwyd perfformiad awyr agored o’i ailddehongliad o weithiau Stravinsky, The Lite of Spring (2012), ar Sgwâr Traffalgar, Llundain, ochr yn ochr â chyfansoddiadau’r cyfansoddwr Rwsiaidd. Perfformiwyd y gwaith gan Gerddorfa Symffoni Llundain ac aelodau o’u ensemble addysgiadol cymunedol LSO Discovery dan arweiniad Valery Gergiev. Cafodd trefniant Gareth Glyn o ‘Nimrod’, o Amrywiadau Enigma Elgar, ei berfformio gan offerynwyr LSO On Track yn seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Llundain yn 2012. Ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc, cyfansoddodd y stori gerdd frawychus Ploryn (2005) ar y cyd ag Angharad Tomos, gwaith a gomisiynwyd gan Ensemble Cymru ar gyfer Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.

Ysgrifennodd nifer o ddarnau ar gyfer offerynwyr unigol o bob oed a gallu, gan gynnwys gweithiau piano (e.e. Pianimals, 1997), organ (e.e. Penrhiw, 2009), ffidil (e.e. Cân a Dawns, 1998) a cello (e.e. Sonatina, 1995). Ym myd y gitâr, ymddengys Gimme Five a Sad Song, a gyhoeddwyd ill dau yn 2006, ar faes llafur ABRSM. Ymhlith ei weithiau ar gyfer y delyn y mae Triban (1977), a fu’n fuddugol yng Nghystadleuaeth Goffa Syr Ben Bowen Thomas yng Ngŵyl Gerdd Menai yn 1978, Cwlwm Cân (1983) ac Erddigan (1985). Recordiodd y delynores Elen Hydref ddarnau o’r gwaith i delyn Chwarae Plant (1993) ar ei halbwm eponymaidd (Sain, 2012).

Mae gan y cyfansoddwr restr faith o ganeuon i’w enw, yn enwedig i denor a bas-bariton. O gwmpas ei gyfnod yn Rhydychen ymddangosodd dwy gân, ‘Araf y Tipia’r Cloc’ (1968) a ‘Crafangau’ (1969). Seilir y gyntaf ar soned cyn-guradur Amgueddfa Werin Cymru, y bardd Iorwerth Peate (1901–82), a ysbrydolwyd gan sŵn y cloc a welir yng nghegin draddodiadol yr amgueddfa. Ymddengys y ddwy gân yn y gyfrol Llanrwst a Chaneuon Eraill (1988), lle mae’r cwbl o’r caneuon heblaw am ‘Araf y Tipia’r Cloc’ yn osodiadau o farddoniaeth tad y cerddor, y Prifardd T. Glynne Davies (1926–88). Cyfansoddodd Gareth Glyn ‘Llanrwst’ (1988) er cof am ei dad, ac yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennodd yn ogystal ‘Y Cofio’ a ‘Meibion y Rhyfel’ ynghyd â dau gylch o ganeuon, Yr Oriau oll a Welsom i fariton, soprano a phiano (1988) a Caneuon y Mers ar gyfer bariton a thelyn (1989).

Cyhoeddwyd casgliad o ganeuon i denor yn y gyfrol I Wefr Dadeni (1998), ac wedi troad y mileniwm newydd ymddangosodd Caneuon Ionawr fel cyfres o dair cân ar gyfer soprano (2001). Bum mlynedd yn ddiweddarach cafwyd ‘Llys Aberffraw’ i denor, ‘Bryn Celli Ddu’ i fariton ac ‘Afon Alaw’ i gontralto, oll i gyfeiliant band pres. Gwelir y cyfansoddwr yn hyrwyddo traddodiad y band pres gyda chyfansoddiadau fel ‘Cadernid Gwynedd’ (1990) ac ‘Addolwn Ef’ (1997). Gwnaeth hefyd drefniannau o’i weithiau cerddorfaol ar gyfer y cyfrwng hwn, megis ‘Eryri’ (1998) a ‘Gwylmabsant’ (2006).

Cenir ei gyfansoddiadau corawl gan gorau rhyngwladol o bob math, ac yn enwedig corau meibion. Comisiynwyd ‘Clychau’r Gog’ (1984) gan Gôr Meibion Dyffryn Nantlle i ddathlu canmlwyddiant y bardd R. Williams Parry, ac ystyrir ‘Heriwn, Wynebwn y Wawr’ (1988) yn un o ddarnau corawl Cymreig gwreiddiol gorau’r hanner canrif diwethaf. Ceir sawl gwaith ganddo ar gyfer côr cymysg, er enghraifft ‘Er Nad Yw ’Nghnawd Ond Gwellt’ (1979), ‘Cymru’ (1983), ‘Carol y Seren’ (1997) a ‘Gwinllan a Roddwyd’ (2009), yn seiliedig ar eiriau Saunders Lewis. Flwyddyn yn ddiweddarach ymddangosodd ‘Canu’r Wenallt’ (2010) ar gyfer côr merched, ac mae ei ddarnau ar gyfer corau plant yn cynnwys ‘Dewch i’r Wledd’ (1988), ‘Haleliwia Byth i’r Iesu’ (1998) a ‘Dwylo’n Cyfarch’ (2004).

Cydweithiodd Gareth Glyn gydag Aled Lloyd Davies ar y ddrama gerdd Y Cobler Coch (1972) a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Rhyl (1974). Aeth ymlaen i gydweithio gyda’i wraig, Eleri Cwyfan, ar sawl prosiect theatrig gan gynnwys drama’r geni Seren Newydd (1981), Y Gwyndy (1993) a Ffaliffolion, a berfformiwyd gan grŵp cymunedol Cofis Bach yng Nghaernarfon yn 2007. Cydweithiodd hefyd gydag unigolion eraill megis Cefin Roberts (e.e. Diwedd y Gân, 1988, a Fferm yr Anifail, 1993), Paul Griffiths (Ail-Liwio’r Byd, 1999) a Hywel Gwynfryn (Grêt, 2003). Yn 2017 llwyfannwyd opera newydd gan Gareth Glyn, sef addasiad o nofel adnabyddus Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd, gan OPRA Cymru, i libreto gan Mererid Hopwood, i adolygiadau ffafriol.

Disgyddiaeth

  • [Morluniau Môn/Anglesey Sketches ar] British String Miniatures 2 (White Line CDWHL2136, 2003)
  • Welsh Incident (Sain SCD 2653, 2011)
  • [Chwarae Plant (1993) ar] Elen Hydref (Sain SCD 2683, 2012)

Llyfryddiaeth

  • Andrew Lamb, ‘British String Miniatures 2’, Gramophone (Awst, 2003), 48



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.