Gogs

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Cyfres animeiddio clai sy'n olrhain hanes teulu cynhanesyddol y Gogs, gyda’r pwyslais ar hiwmor toiledaidd a slapstic treisgar. Er iddo gychwyn mewn slot i bobl ifanc yn hwyr fin nos ar S4C, ehangodd ei apêl yn gyflym i blant ac i’r teulu cyfan. Hwn oedd un o lwyddiannau mwyaf animeiddio Cymreig yn y 1990au, o safbwynt beirniadol ynghyd â’i werthiant masnachol. Denodd gynulleidfaoedd cwlt ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau, Japan a thu hwnt, ac ennill anrhydeddau mewn gwyliau ffilm a theledu ledled y byd, ynghyd â BAFTA Cymru a BAFTA’r Plant.

Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol Gogs

Blynyddoedd 1993–1998

Hyd y pennodau/cyfresi

  • 5 pennod 10 munud (Cyfres 1)
  • 8 pennod 10 munud (Cyfres 2)

Darlledwr

  • S4C (Cymraeg)
  • BBC Two (Saesneg)

Dyddiad y darllediad cyntaf

  • 7 Rhagfyr 1993 (S4C)
  • 21 Rhagfyr 1996 (BBC Two)

Cyfarwyddwyr

  • Deiniol Morris
  • Michael Mort

Prif Animeiddwyr

  • Deiniol Morris
  • Michael Mort

Sgript gan

  • Deiniol Morris
  • Michael Mort
  • Siôn Jones

Cwmni Cynhyrchu Aaargh! Animation Ltd

Genre Animeiddio â chlai, Animeiddio stop-symudiad, animeiddio plant

Hawlfraint S4C, 1996

Cast a Chriw

Prif Gast

  • Gillian Elisa
  • Dafydd Emyr
  • Marie Clifford (fersiwn Saesneg)
  • Rob Rackstraw (fersiwn Saesneg)
  • Nick Upton (fersiwn Saesneg)

Modelau

  • Michael Mort
  • Lorraine Ford

Dylunio Setiau

  • Siôn Jones
  • Ian Harvey

Cerddoriaeth

  • Arwyn Davies

Sain

  • Sounds in Motion

Teitlau

  • Steven Rowlandson, Gareth Chapman

Manylion Technegol

Tystysgrif Ffilm PG

Fformat Saethu Ffilm

Fformat Sain Stereo 2.0

Lliw/Du a Gwyn Lliw

Cymhareb Agwedd 4:3

Gwlad Cymru

Lleoliadau Saethu Stiwdio Aaargh!, Caerdydd

Tagline y Poster (DVD Saesneg) Survival of the Thickest...

Dyfyniadau (VHS Cymraeg) Teulu hynod o wreiddiol sy’n cael ei reoli gan y fam, mab sy’n ceisio plesio pawb ond byth yn llwyddo a’r babi sydd byth a beunydd mewn trwbwl neu’n creu llanast mochaidd.

Manylion Atodol

Llyfrau Leadbeater, C. W. & Oakley, K. (1999). The Independents: Britain’s New Cultural Entrepreneurs. Demos.

Erthyglau Cylchgrawn/Papur Newydd

  • ‘Disgusting Gogs add own humour to TV break’, Western Mail, 19 Awst 1995
  • ‘Gogs a Levi’s’, Golwg, 24 Awst 1995, 13–15
  • ‘Stone Age Gog getting film world very animated’, Western Mail, 22 Rhagfyr 1998
  • ‘Cartoon creators aim to take on American giants’, Western Mail, 2 Mai 2002