Gohebu mewnblanedig

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Embedded reporting

Math o reoli newyddion lle y mae newyddiadurwyr wedi’u ‘mewnblannu’ neu wedi’u lleoli gyda’r lluoedd arfog tra maen nhw ar faes y frwydr. Er bod gohebu mewnblanedig wedi’i gyflwyno yn Unol Daleithiau’r America (UDA), e.e. newyddiaduraeth rhyfel yn ystod yr ail ryfel yn Irac yn 2003, mewn gwirionedd mae’n fersiwn o’r arfer a ddechreuodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd o gydrannu storïau ymhlith gohebwyr (pool reporting). Mae mewnblannu yn golygu neilltuo gohebydd i uned filwrol am gyfnod penodol heb ddychwelyd adref, gyda’r disgwyliad y bydd y gohebydd yn darparu adroddiadau llygad-dyst o’r brwydro o safbwynt y milwyr.

Ar y llaw arall, mae newyddiadurwyr nad ydynt wedi’u mewnblannu gyda’r fyddin yn rhydd i deithio ac i ohebu, ond nid ydynt yn derbyn yr un warchodaeth a’r un cymorth milwrol a roddir i newyddiadurwyr mewnblanedig. Er i weinyddiaeth yr Arlywydd Bush weld mewnblannu fel ymateb i feirniadaeth gan y cyfryngau na roddodd Llywodraeth UDA ddigon o fynediad iddyn nhw yn ystod brwydrau cynharach, yn enwedig rhyfel cyntaf Irac yn 1990–1, a chyn hynny goresgyniad Grenada yn 1983, mae cwestiynau’n codi ynglŷn ag a yw adrodd teg a chytbwys yn bosibl o ystyried yr agosrwydd at unedau milwrol (Allan a Zelizer 2004, Tumber a Palmer 2004). Mae’r beirniaid hefyd yn dadlau bod mewnblannu gohebwyr yn cyfyngu ar yr hyn y maen nhw’n medru gweld, yn cyfyngu eu sylw i rannau o’r hyn sy’n digwydd ac yn atal dadansoddiad o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ryfel a’u gosod mewn cyd-destun.

Llyfryddiaeth

Allan, S. a Zelizer, B. gol. 2004. Reporting War: Journalism in Wartime. London: Routledge. Tumber, H. a Palmer, J. 2004. Media at War: The Iraq Crisis. London: Sage.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.