Gohebydd (hanes)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:55, 20 Mehefin 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae gohebydd yn unigolyn sy’n cael ei gyflogi ar gytundeb neu’n llawrydd gan gyfnodolyn, asiantaeth newyddion, gwefan neu ddarlledwr er mwyn darparu newyddion, yn hytrach nag erthyglau barn. Bydd gohebydd yn aml yn ymdrin ag ardal ddaearyddol neu bwnc penodol ac yn rhoi gwybod ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf.

Gyda thwf masnachol y wasg oddi ar 50au’r 19g., a datblygiad rheilffyrdd a hwylusai deithio o le i le, ymddangosodd y gohebwyr cyntaf a wnâi fywoliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Dichon mai gohebydd enwocaf y Gymraeg yn y ganrif honno fu ‘Y Gohebydd’, sef John Griffith, a gyfrannodd at Baner ac Amserau Cymru rhwng 1857 a 1877. Ysgrifennodd ‘Lythyr y Gohebydd o Lundain’ yn wythnosol, yn ogystal ag adroddiadau o’i deithiau yn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill. Penllanw ei weithgaredd fu ei adroddiadau am etholiad 1868 yng Nghymru, ac ymdrechion rhai tirfeddianwyr i yrru tenantiaid o’u tai wedi iddynt bleidleisio o blaid y Rhyddfrydwyr.

Serch hynny, pethau prin oedd gohebwyr proffesiynol megis John Griffith yn y Gymraeg yn yr 19g. Dwy bunt o gyflog a gâi’r wythnos, ‘y tâl uchaf a dderbyniodd un ysgrifennydd Cymraeg am bastyno ei ymennydd er budd ei gydwladwyr’, yn ôl J. R. Kilsby Jones. Cwynai E. Morgan Humphreys fod y diffyg gwobrau ariannol am newyddiadura yng Nghymru yn golygu bod nifer o’u ‘bechgyn gorau’ wedi mynd dros y ffin i weithio ar bapurau yn Lloegr. Nodai golygydd y South Wales Daily Post yn yr un modd bod safon isel cynnyrch y wasg Gymraeg yn deillio o’u hanallu i gynnig cyflog teg i ysgrifennwyr da o Gymru. Gyda dyfodiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn yr 20g., gwelwyd cynnydd trawiadol yn nifer y gohebwyr proffesiynol yn Gymraeg; serch hynny, ymddengys mai gohebwyr print a wnâi’r cyfraniad mwyaf at lenyddiaeth Gymraeg.

Yn eu mysg, ceid T. Gwynn Jones, E. Lewis William Lewis (Llew Llwyfo), Morgan Humphreys, Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Beriah Gwynfe Evans, Thomas Jones (Tudno), Richard Hughes Williams (Dic Tryfan), Robert John Rowlands (Meuryn), Harri Gwynn, Daniel Rees, a Kate Roberts, a gyfrannodd erthyglau’n gyson i'r Faner pan oedd yn berchen ar Wasg Gee.

Efallai mai gohebydd llenyddol enwocaf yr 20g. oedd Caradog Prichard, awdur Un Nos Ola Leuad a bardd coronog yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1927, 1928 ac 1929. Bu’n ohebydd i’r Herald Cymraeg a’r Faner, cyn ymuno â’r Western Mail yng Nghaerdydd. Yna symudodd i’r News Chronicle yn Fleet Street, cyn gweithio i’r Daily Telegraph yn is-olygydd seneddol. Cytuna Mihangel Morgan a Menna Baines fod ei waith fel gohebydd wedi dylanwadu ar ei lenyddiaeth. Awgryma Morgan bod y ‘berthynas lithrig rhwng faith a ffuglen’ yn ei waith yn nodweddiadol o ‘newyddiadurwr yn chwilio am sgŵp’. Dywed Baines bod ei agweddau yn nodweddiadol o’r papurau y bu’n gweithio iddynt – roedd yn Dori, yn frenhinwr ac yn eglwyswr rhonc. Er hynny, parai'r ffaith i’w waith ei Seisnigo i’r fath raddau bryder iddo, a dyheai ar adegau am ddychwelyd i Gymru.

Efallai mai eironi Y Gohebydd, John Griffith, Caradog Prichard a gohebwyr enwocaf eraill y ddau gan mlynedd diwethaf oedd mai nhw a feddai ar y ddawn eiriol i fynegi orau’r hyn a olygai Cymreictod oddi ar ddechrau oes cenedlaetholdeb yn yr 19g., ond, o ganlyniad i wendid masnachol y wasg yng Nghymru, caent eu denu at weithgarwch a’u gwnaeth yn gyfrwng i hyrwyddo hunaniaeth arall.

Ifan Morgan Jones

Llyfryddiaeth

Baines, M. (2005), Yng Ngolau’r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard (Llandysul: Gwasg Gomer).

Davies, D. (1897), ‘The Journalism of Wales During the Victorian Era’, Young Wales (Caernarfon: Welsh National Press Company), tt. 184-6.

Humphreys, E. M. (1945) Y Wasg Gymraeg (Lerpwl: Hugh Evans a'i Feibion, Cyf.).

Iorwerth, D. (2007), Gohebydd yng Ngheredigion yn Ystod y Flwyddyn Fawr (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion).

Morgan, M. (2000), Caradog Prichard (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.