Golygiad

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:08, 19 Medi 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

‘Golygiad’ yw’r enw ar ffurf derfynol testun yr awdur wedi i’r testun hwnnw gael ei wirio (hynny yw, ei addasu a’i gywiro, ei gysoni a’i safoni, ei ystwytho neu ei ffurfioli yn ôl yr angen, mewn ymateb i fwriad a defnydd terfynol y testun), gan olygydd (ar ei orau mewn cydweithrediad â’r awdur) heb fod byrdwn (neu ystyr) y testun gwreiddiol yn cael ei newid. Ymyrraeth testunol, felly, yw unrhyw weithgaredd golygyddol hyd yn oed o’i ddeall ar ei fwyaf amrwd fel bwriad i ‘wella ansawdd y testun, a hynny er lles y darllenydd a’r awdur fel ei gilydd’ – ond mae dweud gymaint â hyn yn derbyn yn ddiamod fod consensws diwylliannol ynglŷn â beth a olygir gan ‘testun’ (yn ogystal â’i ‘ansawdd’) a chan ‘awdur’ (a’r hyn sy’n llesol i’r ‘darllenydd’).

Deallwn mai cymhelliad sylfaenol golygydd (sef y sawl sy’n cynhyrchu’r golygiad) yw diogelu ystyr yr awdur rhag iddo gael ei gamddarllen neu ei gamddehongli yn groes i fwriad gwreiddiol, i reoli’r darlleniad felly (atalnodi yw’r prif erfyn i’r perwyl hwn) – er y cawn enghreifftiau’n hanesyddol o wyrdroi ‘ystyr’ neu ymyrryd pwysleisiol (cf. rôl ‘olygyddol’ Elisabeth Förster-Nietzsche yn nehongliad gwaith ei brawd yn dilyn ei chwalfa meddyliol yntau yn 1889). Ac eto, gall hyn dywys iaith i gyfeiriad cymhlethdod athronyddol sylfaenol o freintio un ystyr yn uwch na phob ystyr arall posibl, cymhlethdod sy’n deillio o’r seiliau a ddisgrifiwyd gan Nietzsche ei hun yn ei ysgrif enwog ‘Über Wahrheit und Lüge im außermoralischen Sinn’ (‘Ynghylch y gwir a’r anwir mewn ystyr uwch-foesol’) sy’n ystyried achyddiaeth iaith a’r modd y mae’n milwriaethu metafforau ac, o ganlyniad, yn rhoi ‘anwireddau’ (trosiadau) ar waith i gyfleu ‘gwirioneddau’ ein byd.

Yn ystod yr 20g., gwelwyd diorseddu athronyddol yr Awdur (ag ‘A’ fawr, Goddrych Absoliwt llenyddiaeth, y cogito) fel ffynhonnell awdurdodol neu esboniadol ar ystyr terfynol y testun. Yn ddamcaniaethol (ac yn ymarferol), rhyddhawyd y testun i bosibiliadau darlleniadau ac amrywiadau diderfyn ac, yng ngeiriau Barthes yn ei ysgrif allweddol ‘La mort de l’auteur’ (‘Marwolaeth yr Awdur’), ‘yn lluosogrwydd yr ysgrifennu, mae’r cyfan yno i’w ddatglymu, does yno ddim i’w ddatgloi’. Rhyddheir y testun i’w fywiocáu’n gyfrwng y gellid ei greu o’r newydd ar bob darlleniad – y testun felly yn broses, yn blwraliaeth, yn gyfrwng sy’n cofleidio newid – wrth fod claddu’r Awdur yn esgor ar y darllenydd, a’r darllenydd (nid yr Awdur) sydd bellach yn creu ystyr: ‘mae genedigaeth y darllenydd yn amodol ar farwolaeth yr Awdur’, meddai Barthes (a datblygwyd y safbwynt hwn ymhellach gan Foucault, wrth fyfyrio uwchben y gwagle sy’n weddill yn dilyn claddedigaeth yr Awdur, yn ei ddarlith ‘Qu’est-ce qu’un auteur?’ (‘Beth yw Awdur?’).

Gyda hyn, gallwn resymu mai gweithredu’n groes i blwraliaeth testunol a wna golygiad, ond fe gyfyd enghreifftiau o weithredu’n groes wrth olygu testun sy’n fwriadol geisio llacio ar reoliadau traddodiadol ‘ystyr’ (sef atalnodi, gramadeg neu gystrawen). Cyhuddwyd ambell i awdur o fod yn ‘chwilfriwiwr cystrawen’ – mae’r enghreifftiau’n anfynych ond maent yn bodoli, e.e., yr ymfflamychu mewn dadl dros farddoniaeth honedig wych a gwachul ar y wers rydd rhwng y beirdd Meirion Pennar ac Alan Llwyd ar gychwyn yr 1980au: ‘Os mynn y Brawd Llwyd fod y fath arall o wers rydd yn bownd o fod yn ddolur rhydd, yna’n sicr fe allem yr un mor hawdd honni bod ei wers rydd gaethiwus yntau’n rhwym o fod yn rhwym. Beth yw’r blydi ots? … Onid barddoniaeth a orfydd?’ Wrth ystyried yr ystod trawiadol o nonsens llenyddol i lenyddiaethau arbrofol yn y gorllewin ers diwedd y 19g., yn wir, ac a derbyn fod gan olygydd rôl anhysbys yn narlleniad terfynol y testun, yr her a fedr wynebu golygiadau’r testunau mwyaf eithafol yw nadu gofod ar gyfer amlygu unrhyw synnwyr o gwbl, i ddarparu gofal dwys i’r testun felly rhag trengi’r awdur.

Dafydd W. Jones

Llyfryddiaeth

Barthes, R. (1967), ‘La mort de l’auteur’, Manteia, 5.

Foucault, M. (1969), ‘Qu’est-ce qu’un auteur?’, Bulletin de la Société Francaise de Philosophie, 63.

Ifans, Rh. (2006), Y Golygiadur (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion).

Nietzsche, F. (1873), Nietzsches Werke (Grossoktavausgabe), 10/1903 (Leipzig: Maumann).

Pennar, M. (1980), ‘Ateb i’r “Brawd Llwyd”’, Y Faner, 20 Mehefin.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.