Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gorhoffedd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 9: Llinell 9:
 
   
 
   
 
Bu Llawysgrif Hendregadredd am gyfnod ym meddiant Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron yng Ngheredigion. Mab iddo ef oedd y bardd Ieuan ap Rhydderch (''c.'' 1390–''c.'' 1470), ac mae’n amlwg ei fod yn gyfarwydd â gorhoffedd Hywel. Mae ei gerdd ‘Cywydd y Fost’ yn agor drwy enwi Hywel a dywed Ieuan ei fod yntau hefyd am fynd ati i gyfansoddi ‘gorhoffedd’. Ond canolbwyntio ar ganmol ei addysg a wna Ieuan yn anad dim ac felly mae’r gerdd yn dra gwahanol i un Hywel—ni ellir honni bod ‘traddodiad’ o ganu cerddi gorhoffedd wedi goroesi i’r 15g..
 
Bu Llawysgrif Hendregadredd am gyfnod ym meddiant Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron yng Ngheredigion. Mab iddo ef oedd y bardd Ieuan ap Rhydderch (''c.'' 1390–''c.'' 1470), ac mae’n amlwg ei fod yn gyfarwydd â gorhoffedd Hywel. Mae ei gerdd ‘Cywydd y Fost’ yn agor drwy enwi Hywel a dywed Ieuan ei fod yntau hefyd am fynd ati i gyfansoddi ‘gorhoffedd’. Ond canolbwyntio ar ganmol ei addysg a wna Ieuan yn anad dim ac felly mae’r gerdd yn dra gwahanol i un Hywel—ni ellir honni bod ‘traddodiad’ o ganu cerddi gorhoffedd wedi goroesi i’r 15g..
Oherwydd eu delweddu beiddgar, eu hiwmor a’u hasbri—a’r argraff a geir mai myfyrdodau personol ydynt—mae’r cerddi gorhoffedd heddiw ymhlith y mwyaf poblogaidd o gyfansoddiadau Beirdd yr Tywysogion. Mae gorhoffedd Hywel yn arbennig yn cael ei ystyried ymhlith campweithiau’r cyfnod.
+
Oherwydd eu delweddu beiddgar, eu hiwmor a’u hasbri—a’r argraff a geir mai myfyrdodau personol ydynt—mae’r cerddi gorhoffedd heddiw ymhlith y mwyaf poblogaidd o gyfansoddiadau Beirdd y Tywysogion. Mae gorhoffedd Hywel yn arbennig yn cael ei ystyried ymhlith campweithiau’r cyfnod.
  
 
'''Dylan Foster Evans'''
 
'''Dylan Foster Evans'''

Y diwygiad cyfredol, am 16:42, 16 Medi 2016

Cysylltir y gair ‘gorhoffedd’ â dwy awdl o’r 12g., y naill gan Gwalchmai ap Meilyr (bl. c. 1132–80) a’r llall gan Hywel ab Owain Gwynedd (m. 1170). Nid yw’r gair yn digwydd yn y cerddi eu hunain, ond fe’i ceir yn y teitlau a roddir i’r ddwy yn Llawysgrif Hendregadredd (c. 1300), y casgliad pwysicaf o waith Beirdd y Tywysogion.

Bôn y gair ‘gorhoffedd’ yw ‘hoff’, ac yn yr Oesoedd Canol gallai ‘hoffi’ olygu ‘ymhyfrydu’, ‘canmol’ neu ‘ymffrostio’. Felly gall ‘gorhoffedd’ olygu ‘ymhyfrydwch’, ‘canmoliaeth’ neu ‘ymffrost mawr’.

Mae’r ddwy gerdd wedi eu cyfansoddi yn y person cyntaf ac mae’r ddwy yn canmol gallu’r bardd ei hun fel milwr ac fel carwr. Mae Gwalchmai hefyd yn cyfeirio’n gyson at ei arglwydd Owain Gwynedd (m. 1170), brenin Gwynedd, ac felly mae’n deg tybio mai o dan nawdd Owain (efallai yn y blynyddoedd 1157–60) y canwyd y gerdd honno. Yn hynny o beth mae’r gerdd mewn mannau yn ymdebygu i gerdd fawl, ond mae’r bardd hefyd yn ei ganmol ei hun, ei wlad, a’i wraig Genilles.

Ymddengys mai cerdd a gyfansoddwyd mewn alltudiaeth yw eiddo Hywel, a oedd yn fab i Owain Gwynedd ac yn dywysog yn ei hawl ei hun. Yn y rhan gyntaf mae’n canmol harddwch Gwynedd gan fynegi ei hiraeth amdani mewn modd sy’n unigryw yn y canu o’r cyfnod hwn. Yn yr ail ran y mae’n gofyn am gymorth Duw er mwyn gallu barddoni cyn bwrw ati i ganmol cyfres o wragedd (priod, mae’n debyg) sy’n deilwng o’i fawl. Ystyrir weithiau fod y rhan hon yn ffurfio cerdd annibynnol ynddi ei hun, ond nid oes raid dod i’r casgliad hwnnw. Mae’r awdl yn dod i ben wrth i Hywel nodi iddo ‘gael’ (mewn ystyr rywiol, mae’n siŵr) wyth o ferched neu wragedd. Rhoddir yr argraff y gallai restru ychwaneg, ond dywed yn y llinell glo ‘Ys da daint rhag tafawd!’ (‘Mae’n dda fod dannedd o flaen tafod [i’w atal]!’).

Bu Llawysgrif Hendregadredd am gyfnod ym meddiant Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron yng Ngheredigion. Mab iddo ef oedd y bardd Ieuan ap Rhydderch (c. 1390–c. 1470), ac mae’n amlwg ei fod yn gyfarwydd â gorhoffedd Hywel. Mae ei gerdd ‘Cywydd y Fost’ yn agor drwy enwi Hywel a dywed Ieuan ei fod yntau hefyd am fynd ati i gyfansoddi ‘gorhoffedd’. Ond canolbwyntio ar ganmol ei addysg a wna Ieuan yn anad dim ac felly mae’r gerdd yn dra gwahanol i un Hywel—ni ellir honni bod ‘traddodiad’ o ganu cerddi gorhoffedd wedi goroesi i’r 15g.. Oherwydd eu delweddu beiddgar, eu hiwmor a’u hasbri—a’r argraff a geir mai myfyrdodau personol ydynt—mae’r cerddi gorhoffedd heddiw ymhlith y mwyaf poblogaidd o gyfansoddiadau Beirdd y Tywysogion. Mae gorhoffedd Hywel yn arbennig yn cael ei ystyried ymhlith campweithiau’r cyfnod.

Dylan Foster Evans

Llyfryddiaeth

Bramley, K. A. et al. (goln) (1994), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Daniel, R. I. (gol.) (2003), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru).

Jones, N. A. (gol.) (2009), Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd-Dywysog (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Williams, J. E. C., Lynch, P. I. a Gruffydd, R. G. (goln) (1994), Gwaith Meilyr Brydydd a’i Ddisgynyddion (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.